Sefydlu cynllun “Pan Fydda i’n Barod” (WIR) erbyn 1 Ebrill 2016
Roedd yn rhaid i bob Awdurdod Lleol baratoi cynllun WIR erbyn 1 Ebrill 2016. Datblygwyd gwaith rhanbarthol a lleol sylweddol er mwyn paratoi ar gyfer y ddyletswydd newydd hon.
Creu Strategaeth Llety a Chymorth ar gyfer Gadael Gofal
Nid oes gennym lety / cefnogaeth addas ddigonol ar gyfer rhai sy’n Gadael Gofal ac mae angen i ni leihau nifer y llety Brecwast Gwely dros dro rydym yn cael mynediad iddo i’r rhai sy’n Gadael Gofal ac adeiladu portffolio o leoliadau yn seiliedig ar y dadansoddiad o anghenion a’r Strategaeth ddiwygiedig.
Heriau wrth gyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd integredig.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghonwy yn parhau i fod yn heriol o amgylch y rhyngwyneb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cafodd hyn ei ddwysáu yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig mae’r Bwrdd Iechyd yn destun iddo a’i strwythurau staff dros dro.
Mae materion lluosog ynghylch amrywiad mewn gweithdrefnau mynediad a rheoli – o wahanol fodelau o Wasanaethau Triniaeth yn y Cartref a mynediad i welyau cleifion
Mae cofnodi a chyfathrebu cofnodion cleifion hefyd wedi bod yn faes pryder a dylai’r system TG Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig yn y dyfodol helpu hyn. .
Mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud i sicrhau bod prosesau comisiynu cadarn bellach yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer gan sicrhau bod gostyngiad yng ngorwariant presennol y gyllideb Gofal Cymdeithasol wrth symud ymlaen.
Mae gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn Gofal Cymdeithasol yn gweithio gyda’r tîm Gofal Iechyd Parhaus o fewn y Bwrdd Iechyd i ddatblygu protocol Adran 117 a fydd yn penderfynu ar lefelau priodol y cyllid a fydd yn cael ei ddosrannu i’r ddwy ochr.
Yn dilyn codiad yn y nifer o achosion o hunanladdiad dros y cyfnod yn arwain at 2015, amlygodd adolygiad digwyddiad critigol bryderon difrifol.
Mewn ymateb i’r pryderon, sefydlwyd cyfarfod gwelliant rheolaidd ar y cyd ar gyfer rheolwyr o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd wedi creu newidiadau cadarnhaol o ran goruchwylio a chynefino.
Fodd bynnag, mae materion sylfaenol a systemig yn parhau i fod yn rhwystr sy’n atal i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd weithio gystal ag y gallant ar hyn o bryd.
Newidiadau i ofynion adrodd
Mae’r Ddeddf newydd wedi cyflwyno newidiadau mawr o’r wybodaeth am berfformiad a gasglom mewn gofal cymdeithasol. Bydd rŵan yn ofynnol i ni adrodd ar 5 adran gwybodaeth sy’n ymwneud a gofal cymdeithasol oedolion:
- Mesurau perfformiad sy’n ystyried pethau fel bodloni amserlenni statudol
- Asesiadau – y nifer o bobl rydym yn asesu ar wahanol gyfnodau
- Gwasanaethau
- Ffioedd
- Diogelu
Mae 4 adran sy’n mynd i’r afael â gofal cymdeithasol i blant:
- Mesur Perfformiad
- Gofal a Chymorth
- Asesiadau
- Amddiffyn Plant
Mae’r heriau y mae hyn yn creu yn cynnwys gwneud yn siŵr ein bod yn cofnodi’r holl wybodaeth sydd ei hangen i gasglu’r setiau data hyn, ysgrifennu adroddiadau newydd i dynnu’r wybodaeth gywir o’n cronfa ddata, a phrofi, er mwyn sicrhau bod y data’n gadarn. Ynghyd â hyn, rydym yn ymgynghori â budd-ddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod am ac yn deall y newidiadau.
Rydym hefyd yn trafod gyda’n cydweithwyr pa rai o’r hen fesurau y gallwn eu gadael ar ôl, pa rai mae angen i ni eu cadw, a pha un o’r rhai newydd y bydd angen i ni dyrchu am wybodaeth bellach, i gyfoethogi ein gwybodaeth.
Mae hefyd agwedd ansoddol i’r wybodaeth a gesglir, a bydd angen adnoddau sylweddol i gydlynu.
Heriau dros y flwyddyn i ddod ar gyfer Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth
Gyda gweithrediad y SSWBA, mae’r gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth (FS&I) yn wynebu’r her sylweddol o annog adnoddau presennol i gydymffurfio ag egwyddorion y ‘rhaglen ataliol’. Mae atal yn y lle cyntaf yn cyfeirio at yr heriau a gyflwynir o ran grymuso teuluoedd i wneud newidiadau i ddechrau trwy Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac er na fydd FS&I o reidrwydd yn arwain ar y gwasanaethau hyn bydd rhyngwyneb pwysig i’w ddatblygu gydag asiantaethau partner, yn enwedig y Tîm o Amgylch y Teulu (TAF), Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg ac Iechyd.
Pan fydd teuluoedd yn bresennol gydag anghenion a aseswyd sydd angen gofal a reolir, bydd yn rhaid i FS&I ddarparu pecynnau gofal a chymorth effeithiol gyda’r nod o hwyluso newid a dilyniant gyda chanlyniadau clir sy’n seiliedig ar ganlyniadau gan atal gwaethygiad drwy’r gwasanaethau i ymyriadau ‘pen uchaf’ drwy’r achosion amddiffyn plant a gofal.
Pan fydd achosion gofal yn ymddangos yn anochel, mae FS & I wedi ymrwymo i archwilio pob opsiwn i leoli plant mewn amgylchedd teuluol yn gyntaf oll gyda theulu a ffrindiau a dim ond pan nad yw hyn yn bosibl drwy Ofal Maeth a mabwysiadu.
Er mwyn ymateb yn effeithiol i’r newidiadau mewn deddfwriaeth a chodau ymarfer, bydd angen i’r gwasanaeth adolygu adnoddau presennol yn fewnol a datblygu gweithlu medrus i ateb yr her a hyrwyddo egwyddorion atal a grymuso. Gan gynnwys yn y cynllun gwasanaeth i gyflawni newid:
- Datblygu prosesau asesu syml a chymhleth yn lleol a chyfrannu at ddatblygiadau rhanbarthol a chenedlaethol
- Gweithredir pecynnau Gofal a Chymorth yn ôl angen a asesir
- Adolygu’r strwythur presennol i sicrhau bod y gweithlu’n cael ei defnyddio’n effeithiol i gwrdd ag anghenion y plant a’u teuluoedd i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer newid cadarnhaol
- Gwella sgiliau’r gweithlu i ddarparu ymyriadau effeithiol a gweithio gyda theuluoedd drwy ymagweddau sy’n seiliedig ar ganlyniadau a phartneriaeth
- Datblygu offer cyfranogi i sicrhau bod llais y cwsmer yn cael ei glywed ac yr ymatebir iddo ac yn gallu llywio arfer a darpariaeth gwasanaeth
- Datblygu fforymau partneriaeth gydag asiantaethau partner er mwyn cryfhau gwaith integredig
- Gwerthuso ac adolygu effeithiolrwydd y gwasanaeth ac ymyriadau yn barhaus
Mae’n anochel mai’r her fwyaf sylweddol ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol fydd creu’r gallu i gymryd yr amser am seibiant o amserlenni gwaith bob dydd, i fyfyrio ac ystyried mentrau arferion newydd i ymateb i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth o fewn tirlun sy’n newid. Fel gwasanaeth sy’n esblygu mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau y gellir hwyluso’r elfen hon o’r datblygiad drwy fodelau goruchwyliaeth, diwrnodau tîm a chyfleoedd datblygu gwasanaethau.