Mae’n rhaid i bob math o fusnes ymdrin â chyflenwad a galw – cydbwyso’r hyn y gallant ei ddarparu yn erbyn yr hyn mae pobl ei angen. Yn ystod cyfnod o amseroedd economaidd heriol, mae yna angen mawr i redeg ein gwasanaethau mor effeithlon â phosibl. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gennym ddigon o staff i ddiwallu anghenion a bod y staff wedi’u hyfforddi’n dda, a bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth i wneud y gwaith yn gyflym heb wastraffu amser nac adnoddau.
Weithiau, mae’n rhaid i ni feddwl “y tu allan i’r blwch” a dod o hyd i ffyrdd newydd i wasanaethau gydweithio.
Rhaglen Trawsnewid
Cefndir
Amcan allweddol o Raglen Trawsnewid Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yw ‘Sicrhau bod gan y gweithlu Gofal Cymdeithasol ar draws pob sector* y gallu i ddiwallu’r galwadau a’r safonau a ddisgwylir gan yr adran’ *gan gynnwys darparwyr allanol.
Diwallu gofynion Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Rôl ac Atebolrwydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol (SGRADSS) er mwyn: cyflawni atebolrwydd cyffredinol dros gynllunio, hyfforddi a datblygiad proffesiynol gweithlu’r Gwasanaethau Cymdeithasol’ (t.8). Cynllun gweithlu sector gyfan sy’n nodi ac yn gweithredu mesurau a fydd yn sicrhau gweithlu sy’n ddigon mawr, medrus, diogel ac ymroddedig i ddiwallu’r anghenion asesedig… (t.15) (SGRADSS Mehefin 2009).
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn gofyn bod y sector gofal yn cyflwyno gweithlu sydd â’r sgiliau cywir, mewn modd amserol i ddiwallu anghenion gofal Cymru gyfoes.
Beth sydd wedi newid?
Rydym wedi sefydlu ymagwedd prosiect i ddatblygu strategaeth gweithlu ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghonwy. Mae’r prosiect hefyd yn gosod fframwaith er mwyn gweithredu ac adrodd yn ôl.
Un o brif amcanion y prosiect a’r strategaeth fydd sicrhau bod datblygiad y gweithlu yn cyd-fynd ag amcanion strategol Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yn nodi sut rydym ni’n siapio’r gweithlu’n fewnol ac yn allanol i ddiwallu anghenion comisiynu’r adran.
Beth arall fydd yn newid?
Bydd y strategaeth yn ystyried ymagwedd sector gyfan ac wrth wneud hynny, bydd yn sicrhau bod gan y sector weithlu sydd yn addas i’w bwrpas.
Un o brif amcanion y strategaeth fydd arddangos sut rydym yn dangos prawf o’r adenillion ar fuddsoddiad ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn golygu symud i ffwrdd o ddulliau traddodiadol o gyflwyno hyfforddiant a gwerthuso at ymagwedd sydd yn fwy hyblyg i ddysgu a datblygu sy’n gysylltiedig i ganlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Hyfforddiant Galluogi
Cefndir
Mae yna hen ddywediad Saesneg, “If you give a man a fish, you feed him for a day. If you teach a man how to fish, you feed him for a lifetime.” Mae’r egwyddor hwn yn ganolbwynt i Alluogi. Yn hytrach na darparu gwasanaethau sy’n gwneud pethau i bobl, mae galluogi yn golygu cefnogi pobl iddynt allu gwneud mwy eu hunain, i’w gwneud yn llai dibynnol ar wasanaethau.
Beth sydd wedi newid?
Ar ôl chwilio am becynnau hyfforddiant addas, fe wnaethom benderfynu nad oedd y cyrsiau oedd ar gael yn addas ar gyfer yr hyn roeddem ei eisiau. Felly fe wnaethom gydweithio i greu ein pecyn ein hunain o hyfforddiant. Y syniad y tu ôl i hyn oedd hyfforddi staff i weithio â phobl, i’w galluogi ac awdurdodi eu hunain i fod yn llai dibynnol.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Unwaith yn unig rydym wedi peliota’r hyfforddiant ddeuddydd o hyd ar hyn o bryd, a chaiff hyn ei werthuso yn ystod haf 2014. Canolbwyntiodd yr hyfforddiant ar Gefnogaeth Weithgar, addysgu sgiliau ac ymddygiad sy’n herio.