Y ffordd hawsaf i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eich tywys drwy’r newid rydych chi’n chwilio amdano, yw deall beth rydych ei angen. Rydym eisiau i’n staff “roi eu hunain yn eich sefyllfa chi” er mwyn iddynt ddeall sut beth ydyw i chi, a beth sy’n digwydd yn eich bywyd.
Drwy wella’r ddealltwriaeth yma, gallwn greu cynlluniau gofal a fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Mae yna dechnegau defnyddiol iawn y gall ein staff eu defnyddio, megis “Cynllunio ar Sail Canlyniadau” a “cyfweld ysgogiadol”, ac rydym wedi bod yn brysur yn hyfforddi staff yng ngwasanaethau plant a theuluoedd er mwyn defnyddio’r dulliau hyn.
Cynllunio ar Sail Canlyniadau a Chyfweld Ysgogiadol
Cefndir
Yn dilyn asesiad o anghenion unigolyn neu deulu, bydd modd cal darlun cliriach o’r hyn sydd angen newid, a dyma yw’r syniad sylfaenol y tu ôl i gynllunio ar sail canlyniadau. Os ydi pawb yn eglur ynglŷn â’r hyn sydd angen ei newid (y “canlyniadau” rydych eisiau eu cyflawni)”, mae’n llawer haws i gynllunio sut i gyrraedd yno, a bydd yn hawdd i’w adnabod pan fydd y canlyniad wedi’i gyflawni.
Mae Cyfweld Ysgogiadol yn cynorthwyo staff i ddeall y problemau y mae unigolyn yn eu hwynebu, a’u cynorthwyo i wneud penderfyniadau cadarnhaol dros eu hunain ynglŷn â sut y gallant symud ymlaen.
Beth sydd wedi newid?
Cyflwynwyd hyfforddiant cynllunio ar sail canlyniadau i 11 rheolwr sydd yn goruchwylio safon y cynlluniau gofal ar sail canlyniadau. Sefydlwyd Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yng Nghonwy, ac mae 15 o staff wedi’u hyfforddi i ddefnyddio Cyfweld Ysgogiadol.
Mae 10 gweithiwr cymdeithasol wedi bod yn rhan o brosiect sy’n cael ei gynnal gan SSIA (Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol) i wella sgiliau cyfathrebu â chleientiaid. Mae hyn wedi cynnwys sesiynau dilynol bob mis i feithrin eu dysgu.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Drwy’r hyfforddiant yma, mae gan weithwyr cymdeithasol:
- Dealltwriaeth well o’r rhwystrau y mae rhai yn eu hwynebu i gael cymorth. Bydd modd iddynt helpu i leihau’r rhwystrau hyn ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth.
- Dealltwriaeth well o ble daw ysgogiad pobl, a sut i helpu pobl i ddod o hyd i’w hysgogiad eu hunain.
- Sgiliau ychwanegol i helpu defnyddwyr gwasanaeth i adeiladu ar eu cryfderau a’u hadnoddau eu hunain
Bydd rhagor o Hyfforddiant ar Gyfweld Ysgogiadol yn cael ei gyflwyno i staff fis Mehefin 2014
Cynhelir adolygiad o brosiect effeithiolrwydd Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol fis Awst 2014.
Datblygu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
Cefndir
Mae’r Cynllun Gofal a Thriniaeth yn ddull newydd o weithio â phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd meddwl a/neu emosiynol. O dan y mesurau iechyd meddwl a gofal iechyd continwwm, mae gan weithwyr cymdeithasol gofal plant rôl arweiniol i’w chwarae, a’r nod yw sicrhau bod gan bob plentyn gynllun Gofal a Thriniaeth ddiweddar sy’n cael ei adolygu pan fo eu hanghenion yn newid.
Beth sydd wedi newid?
Darparwyd hyfforddiant ar y cyd i uwch ymarferwyr a rheolwyr. Yna rhannwyd y model newydd ag aelodau’r tîm oedd yn cefnogi plentyn oedd â chynllun Gofal a Thriniaeth.
Caiff pob cynllun Gofal a Thriniaeth eu monitro drwy gyfarfodydd strategol aml asiantaeth.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae gan blant a phobl ifanc sy’n derbyn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc gynllun Gofal a Thriniaeth ar waith.