Mae sefydliadau’n aml yn sôn am y syniad o’r “edafedd aur” sy’n cysylltu nodau unigol gyda chynlluniau tîm, i gynlluniau strategol sydd uwch i fyny. Os ydyw’n cael ei gyflawni’n iawn, mae’n golygu bod pob aelod staff yn gweithio tuag at nod gyffredin o fewn eu tîm, a bod y tîm yn helpu i gyflawni rhywbeth sy’n rhan o strategaeth fwy a allai gynnwys asiantaethau eraill.
Mae cyfleu’r syniadau hyn yn ganolog i wneud iddo weithio o fewn sefydliad mawr, i sicrhau bod gan bawb synnwyr eu bod yn “symud i’r un cyfeiriad”. Yng Nghonwy, rydym wedi bod yn datblygu ffyrdd o annog y syniad yma o fewn grŵp staff er mwyn rhoi pŵer i bobl, a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynnwys.
Fforwm Staff y Gwasanaethau Cymdeithasol
Cefndir
Mae Cyfathrebu o fewn Gwasanaeth mawr yn gymhleth ac yn heriol. Wrth benderfynu ar y dull gorau o gysylltu â chynulleidfa benodol, bydd angen ystyried yr holl ddewisiadau sydd ar gael, a dewis yr un addas ar gyfer y gynulleidfa a’r sianeli fydd yn cael eu defnyddio. Mae’r adran yn cyflogi 850 o staff ar draws sir Conwy, gan weithio mewn amryw o leoliadau. Rydym yn diffinio cyfathrebu a chysylltu â staff yn gyfle i gymryd rhan a chyfrannu at ein prif gymhelliant sef cynyddu’r cyswllt rhwng uwch reolwyr a staff.
Beth sydd wedi newid?
Yn 2013, fe wnaethom sefydlu Fforwm Staff y Gwasanaethau Cymdeithasol. Caiff pob rhan o weithlu’r adran eu cynrychioli ar y fforwm sydd yn cwrdd bob dau fis gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Diben y fforwm yw rhoi cyfle i’r Cyfarwyddwr a’r staff drafod materion sydd yn effeithio ar y gweithlu. Yn ogystal, rydym wedi sefydlu sesiynau briffio rheolaidd gyda staff i roi’r newyddion diweddaraf iddynt am y Rhaglen Trawsnewid.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae’r fforwm wedi galluogi dialog rhwng staff a’r Cyfarwyddwr ar nifer o faterion. Arolwg Staff – mae’r fforwm wedi gweithio ar ddatblygu gweithredoedd i ddiwallu’r casgliadau.
Mae aelodau’r fforwm yn rhan mewn prosiectau ar ran yr adran, er enghraifft datblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu.
Gwahaniaeth amlwg yw bod aelodau’r fforwm yn meithrin dealltwriaeth o amrywiaeth enfawr o rolau o fewn yr adran. Yn ychwanegol mae hyder a chyfraniad rhai aelodau’r fforwm wedi cynyddu ac maent bellach yn aelodau allweddol o’r fforwm. Mae hyn i’w weld fwyaf ymysg y staff sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yn y gymuned, a chyn y fforwm, prin iawn roeddynt yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgynghori.