Fel rhan o fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif, llwyddodd Conwy yn ei gais am arian grant i adeiladu ysgol newydd ar gyfer plant ag anghenion addysgu ychwanegol ar safle Ysgol y Gogarth. Rhoddodd hyn gyfle i’r Adran Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu bloc preswyl newydd i blant a phobl ifanc ag anableddau yng Nghonwy. Mae’r prosiect wedi dwyn ynghyd dau wasanaeth – Llys Gogarth (darpariaeth addysg breswyl ar y safle i ddisgyblion sy’n mynd i Ysgol y Gogarth) a Tir Na Nog (Cartref Plant cofrestredig, sy’n darparu gwasanaeth seibiant i gynorthwyo teuluoedd).
Agorodd y gwasanaeth preswyl cyfun newydd ym mis Hydref ar gyfer plant rhwng 7 ac 19 oed. Mae gan y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth sbectrwm eang o anableddau corfforol ac anghenion dysgu ychwanegol yn amrywio o Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog (ADDLl) i Anawsterau Dysgu Cymedrol ( MLD) ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD).
Mae yna nifer o fanteision i gyfuno’r ddau wasanaeth, ac un ohonynt yw gwneud y gorau o botensial yr adeilad newydd pwrpasol, gyda chyfleusterau arbenigol ar y safle gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd rhyngweithiol, canolbwyntiau galwedigaethol, neuadd chwaraeon, lleoedd chwarae awyr agored a gynlluniwyd yn arbennig a Chanolfan Adnoddau Dysgu. Mae’r lleoliad yn Llandudno hefyd yn ganolog gyda mynediad hawdd i ystod o gyfleusterau cymunedol e.e. sinema, pwll nofio, siopau ac ati. Nid oes bellach angen cludo plant a fyddai’n arfer defnyddio Tir Na Nog o’r ysgol i uned allanol gryn bellter i ffwrdd ym Mae Cinmel. Mae’r gwasanaeth cyfun hefyd yn gweithredu 52 wythnos y flwyddyn (roedd uned breswyl Llys Gogarth ond yn arfer bod ar waith yn ystod y tymor ysgol yn unig).
Mae’r gwasanaeth cyfun hefyd yn caniatáu cydweithio amlasiantaethol agosach. Mae staff yn parhau i ddatblygu cysylltiadau agos gyda theuluoedd, Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Anabledd Conwy, Timau Diogelu, Lleferydd ac Iaith, Dadansoddwyr Ymddygiad Cymhwysol, Therapi Galwedigaethol a’r Gwasanaeth Anableddau Dysgu Plant a Phobl Ifanc (CALDS).
Mae’r gwasanaeth yn darparu amgylchedd gofalgar, strwythuredig a chartrefol, a gynlluniwyd i gwrdd ag anghenion pob unigolyn. Y nod cyffredinol yw creu’r amodau i bob plentyn a pherson ifanc lwyddo hyd eithaf eu potensial, i adeiladu gwytnwch personol a theuluol, i baratoi ar gyfer byw mor annibynnol â phosibl ac i gael bywyd llawn fel oedolion.