Rydym yn deall os oes gan rywun angen gwirioneddol, yna mae o fudd i bawb i sicrhau eu bod yn cael cyngor, gwybodaeth neu gefnogaeth o safon, a’u bod yn ei dderbyn yn gyflym.
Does neb yn hoffi rhestrau aros.
Dau faes ble rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol yng Nghonwy yw ar gyfer Pobl Ifanc (16+) sydd ag anabledd wrth iddynt symud i fyd oedolion, ac ar gyfer Ymadawyr Gofal, rydym wedi gwella cysylltiadau â Hawliau Lles a chyngor gyrfaol. Mae hyn wedi ei gwneud yn llawer haws a chynt i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn unrhyw fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, ac mae’n gymorth iddynt fod yn ymwybodol o’u holl ddewisiadau ynglŷn â pharhau â’u haddysg, ymgymryd â hyfforddiant neu gael swydd.
Y Broses Drosglwyddo yng Nghanolfan Datblygiad Plentyn Conwy
Cefndir
Agorwyd Canolfan Datblygiad Plentyn Conwy (CDP) yn 2009 ac mae’n cynnwys tîm aml ddisgyblaeth sy’n cefnogi plant o dan 5 oed sydd ag anghenion cymhleth. Mae’r tîm aml ddisgyblaeth yn cynnwys athro/awes dosbarth, Seicolegydd Addysgol, Seicolegydd Clinigol, Gweithiwr Cymdeithasol, Therapydd Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol, Pediatrydd, Nyrs Datblygiad Plentyn a’r Tîm Synhwyraidd.
Os bydd gan blentyn ddau neu fwy o feysydd datblygu sydd yn gyfyngedig mewn rhyw ffordd ac angen ymyrraeth arbenigol, cânt eu diffinio bod ganddynt anghenion cymhleth. Mae Cefnogi Cynnar (2009) wedi cefnogi datblygiad y broses drosglwyddo gydag un o’r egwyddorion bod “Teuluoedd yn derbyn gofal parhaus drwy gyfnodau gwahanol o’u hymgysylltiad â gwasanaethau.”
Datblygiad y broses drosglwyddo
Yn ystod cyfnodau cynnar Canolfan Datblygiad Plentyn, fe nodwyd bod rhieni yn cael eu gorlethu gan gyfarfodydd aml asiantaeth ac adroddiadau hir am eu plentyn. Yn aml roedd yn gwneud iddynt deimlo nad oedd modd iddynt gymryd rhan yn effeithiol yn y broses gynllunio ar gyfer eu plentyn, yn enwedig wrth symud o gyfnod cyn ysgol i ysgol yn rhan-amser.
Roedd y tîm aml ddisgyblaeth eisiau creu asesiadau, cynlluniau ac adolygiadau gwell ar y cyd – i sicrhau bod y gwasanaeth oedd yn cael ei gyflwyno yn gyfannol, yn gydlynol ac yn esmwyth. Byddai hyn yn galluogi i ddysgu a datblygiad plentyn gael eu monitro a’u cefnogi’n well, byddai rhieni’n cael eu cynnwys ochr yn ochr ag arferion gweithio a systemau sydd wedi’u sefydlu.
Y broses drosglwyddo
Mae yna bedwar cymal o fewn y trosglwyddiad o Ganolfan Datblygiad Plentyn i ysgol yn rhan-amser, mae’r rhain yn nhymor yr hydref, tymor y gwanwyn, tymor yr haf a’r tymor hydref canlynol. Mae tîm aml ddisgyblaeth Canolfan Datblygiad Plentyn yn parhau i weithio yn nhymor yr hydref pan fo’r plentyn yn yr ysgol yn rhan-amser. Roedd hyn er mwyn galluogi parhad yr ymyrraeth, yn ogystal â chefnogi staff oedd yn anghyfarwydd i’r plentyn a’r teulu.
Er mwyn monitro’r cynnydd, cynhelir cyfarfodydd tîm aml ddisgyblaeth bob tymor – sef Cyfarfodydd Partneriaeth Aml Asiantaeth Conwy (CPAAC). Mae fformat clir i’r broses hon bellach ble ceir cyfraniadau gan rieni a phob gweithiwr proffesiynol perthnasol mewn iaith sydd yn rhydd rhag jargon. Ethos CPAAC yw “galluogi rhieni, ymysg gweithwyr proffesiynol, i fod yn bartneriaid cyfartal yn y broses gynllunio yn ymwneud â’u plentyn” (Cefnogi Cynnar 2009). Nod CPAAC felly yw cyfathrebu’n glir heb unrhyw jargon, dim adroddiadau hir, tra’n casglu a chyfuno gwybodaeth, cyflwyno a chofnodi cynlluniau, gweithredoedd ac adolygiadau clir.
O fewn y broses hon mae yna fformatau ychwanegol, gan gynnwys llyfryn All About Me – sydd yn rhoi trosolwg diweddar i ysgolion am y plentyn, gan ddarparu gwybodaeth glir am gryfderau ac anawsterau’r plentyn. Yn ychwanegol, rhoddir rhestr gysylltiadau i rieni/gofalwyr, wrth i’r plentyn yn symud i dymor yr hydref am y tro olaf yn y broses drosglwyddo, a fydd yn rhoi gwybod i iddynt â phwy y gallant gysylltu pan fydd y plentyn wedi gadael Canolfan Datblygiad Plentyn.
Gwerthuso’r broses drosglwyddo
Wrth adolygu’r broses yn 2013, roedd yr adborth gan rieni/gofalwyr yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda rhai meysydd angen eu gwella yn cael eu rhestru.
Dywedodd rhieni eu bod yn teimlo eu bod yn cyfrannu mwy o ran yn y broses ar gyfer eu plentyn, boed hynny yn eu hadolygiadau a’r weithred yn cael eu hadnabod a’u bodloni.
Yn bennaf mae ysgolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y wybodaeth oedd yn cael ei ddarparu, serch hynny maent wedi nodi bod rhai o’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen oherwydd y cymhlethdodau yn gyfyngedig.
Mae cynllun gweithredu nawr yn cael ei lunio i gynorthwyo dull o ymestyn y gefnogaeth i ysgolion o fewn y flwyddyn academaidd gyntaf, darparu hyfforddiant i staff ysgol a chymhorthion addysgu, yn ogystal â datblygiad pellach yn y gwasanaethau sy’n is na’r trothwy i gefnogi plant a theuluoedd.
Llwybrau a Hawliau Lles
Cefndir
Mae timau Llwybrau a Chynghorwr Personol yn cydweithio â phobl ifanc rhwng 16-21 oed sydd yn, neu sydd wedi derbyn gofal yn y gorffennol ac yn symud ymlaen tuag at annibyniaeth. Roedd yna bryderon ynglŷn ag a oedd y bobl ifanc yma yn cael mynediad a chyngor priodol ynglŷn â’r holl fudd-daliadau roedd ganddynt hawl i’w derbyn. Pan sefydlodd y gwasanaeth Hawliau Lles brosiect i alluogi grwpiau penodol o bobl i gael mynediad at wasanaeth budd-daliadau lles cynhwysfawr yn uniongyrchol, cafodd ymadawyr gofal eu hadnabod yn un o’r grwpiau oedd fwyaf o angen y math yma o wasanaeth.
Un o’r cymhelliannau ar gyfer y prosiect oedd gwella’r amser rhwng hawlio budd-dal a’i dalu i’r unigolyn ifanc. Roedd yr oedi yn gostus i’r gwasanaethau plant gan bod angen i’r adran barhau i dalu lwfansau wythnosol a chostau tai wrth i’r hawliadau budd-dal gael eu sortio.
Beth sydd wedi newid?
Gall ymadawyr gofal bellach wneud cais am fudd-daliadau cyn eu 18fed pen-blwydd, mae hyn yn golygu eu bod yn derbyn budd-daliadau cyn gynted a’u bod yn troi’n 18 oed, ac felly’n lleihau’r gost i Gonwy ac mae’n lleihau’r pryder i bobl ifanc ddiamddiffyn.
Roedd y trefniant hawlio cynnar yn bosibl gan bod y gweithiwr prosiect Hawliau Lles wedi meithrin cysylltiadau agos â Chanolfan Byd Gwaith lleol, ac yn cynghori ac yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol pan roedd pobl ifanc yn gymwys i hawlio.
Mae’r gweithiwr prosiect Hawliau Lles yn rhan o banel NEET Conwy (Pobl nad Ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant), ac felly yn rhoi cyngor ynghylch budd-daliadau yn fuan a chefnogi pobl ifanc i symud i waith drwy ddarparu ‘cyfrifiadau gwell eu byd’ er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r manteision ariannol o gychwyn gweithio.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae’r broses hawlio budd-dal yn llawer mwy syml i ymadawyr gofal nawr, ac maent yn derbyn cyngor cyson ynglŷn â’u hawliadau. Mae’r gweithiwr prosiect yn gweithio’n agos â gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol ac maent wedi datblygu perthnasau gwaith effeithiol â’r adran budd-dal tai ac amryw o landlordiaid, ac mae hyn yn helpu i sicrhau bod tenantiaethau yn cael eu cynnal yn ystod anawsterau ariannol.
Achos Enghreifftiol
Mae AJ yn 18 mlwydd oed, yn rhiant sengl ar ôl i’w phartner gael ei garcharu, mae ei budd-daliadau wedi stopio oherwydd newid mewn amgylchiadau, ni all fforddio’r rhent ar ei heiddo, felly mae mewn perygl o golli ei chartref ac yn wynebu tlodi difrifol. Drwy weithio ar y cyd rhwng y gweithiwr prosiect Hawliau Lles, Cynghorydd Personol, adran budd-dal tai a’r landlord, mae AJ wedi gallu ailymgeisio am fudd-daliadau gydag ychydig o oedi, tra’n galluogi iddi gadw ei thenantiaeth nes i’r hawl gael ei sortio.