Mae’r gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Gofal Castell a Cymdeithas Tai Wales and West i gynllunio a datblygu model gofal unigryw i ddiwallu anghenion oedolion ifanc diamddiffyn sy’n gadael gofal neu sy’n byw bywydau di-drefn yn y gymuned. Mae hyn yn parhau i ganolbwyntio ar ‘adfer’ ac mae gan dai swyddogaeth allweddol wrth gefnogi ac annog pobl i ddatblygu’r sgiliau sydd angen arnynt i fyw’n annibynnol yn eu cymuned. Mae hyn yn golygu y gall pobl symud oddi wrth ofal preswyl a dysgu sut i ymdopi â’r gweithgareddau bob dydd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol, fel gofal personol a thasgau yn y cartref, rheoli eu harian a ffurfio cysylltiadau gydag eraill a chymryd rhan yn eu cymunedau.
Bydd y Prosiect yn darparu un tŷ byw a rennir ar gyfer pedwar o bobl ifanc a saith fflat unigol ar gyfer pobl eraill ddiamddiffyn. Bydd y fflatiau’n rhan o stad o dai newydd a fydd yn cael ei hadeiladu yn Abergele. Bydd unigolion yn derbyn cymorth wedi’i deilwra gan Gofal Castell er mwyn datblygu eu sgiliau byw’n annibynnol a’u helpu i gynnal eu tenantiaethau. Mae’r Prosiect yn rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc hynny symud allan o ofal maeth a gofal preswyl i gychwyn eu taith datblygu a fydd yn y pen draw yn arwain at lwyddo i fyw’n annibynnol.
Mae’r Grant Rhaglen Cefnogi Pobl, sy’n gronfa i ddarparu gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â llety er mwyn helpu pobl i gyflawni neu gynnal bywyd annibynnol yn eu cymuned, wedi cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth i gychwyn y datblygiad cyffrous hwn. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r Gymdeithas Dai i nodi pa rai o’n defnyddwyr gwasanaeth fyddai’n elwa fwyaf o’r cynllun hwn fel bod y symudiad yn mynd yn esmwyth unwaith y bydd y fflatiau yn barod yn yr haf.
Nid nod Kickstart yw gwneud pethau ar ran pobl. Mae’n ymwneud â helpu pobl i ddeall y gall pethau fod yn wahanol. Mae’n ymwneud â chefnogi pobl i ganfod eu ffordd, deall y gallant gael nodau ac y gellir eu cyflawni. Bydd Kickstart yn helpu pobl i sylweddoli fod ganddynt ddyfodol, y gall pethau fod yn wahanol i heddiw, a bydd yn eu galluogi i ddod o hyd i’w ffordd eu hunain tra’n eu hebrwng ar eu taith. Bydd y gwasanaeth yno ar eu cyfer pan fydd angen iddynt siarad a bydd staff yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud gan ganolbwyntio’n benodol ar eu helpu i adeiladu neu ailadeiladu eu bywydau i gyflawni’r hyn y maent ei eisiau. Yn bennaf oll mae’n ymwneud â pheidio â rhoi i fyny ar bobl neu ganiatáu iddynt roi’r gorau ar eu hunain.