Mae’r uned diogelu yng Nghonwy bellach yn wasanaeth integredig sy’n cwmpasu diogelu oedolion a diogelu plant.
Mae Cadeiryddion Diogelu Annibynnol (CDA) yn gyfrifol am gadeirio:
- Adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal
- Cynadleddau Amddiffyn Plant
- Cynadleddau Diogelu Oedolion
Mae’r Uned yn datblygu gwaith i ddiogelu pobl ddiamddiffyn yng Nghonwy sy’n gweithio’n agos gyda’r Heddlu, Tai, Iechyd, y Gwasanaeth Prawf, Addysg ac asiantaethau Sector Annibynnol.
Pam y cyflwynwyd y fenter (pa faterion sy’n cael eu datrys?)
- Roedd angen Gwaith ar y Cyd Agosach rhwng Amddiffyn Oedolion a Phlant, o ganlyniad i’r gwersi a ddysgwyd o nifer o ymchwiliadau i farwolaethau neu anafiadau i bobl ddiamddiffyn.
- Er mwyn cwrdd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Beth yw’r canlyniadau?
- Er mwyn diogelu pobl ddiamddiffyn a datblygu ymagwedd aml-asiantaeth tuag at gynllunio sicrwydd.
- Er mwyn sicrhau yr ystyrir amddiffyn pob unigolyn diamddiffyn, nid dim ond cyflwyno pryderon un defnyddiwr gwasanaeth sy’n eistedd o fewn disgyblaeth gwaith cymdeithasol penodol.