Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn parhau i fod yn gymhelliant mawr dros newid. Llwyddodd ein rhaglen drawsnewid i ailddiffinio ein strwythurau gwasanaeth i’w halinio’n well i gwrdd ag anghenion y Ddeddf, ac rydym rŵan ar bwynt lle mae gwasanaethau sefydledig yn ceisio gwneud y gorau neu gydbwyso eu hadnoddau yn erbyn y galw, ac mae gwasanaethau newydd yn datblygu modelau gwaith effeithiol, sy’n briodol i anghenion pobl.
Gellir grwpio ein heriau presennol mewn pedwar categori:
- Heriau ariannol yn erbyn y galw newydd
- Staffio – defnyddio adnoddau presennol
- Mentrau arfer newydd
- Datblygu Polisi