Gostyngiad yn y grant Teuluoedd yn Gyntaf a’r Grant LAP ar gyfer Dechrau’n Deg
Bu gostyngiad o 11.7% yn y grant ar gyfer 2016-17 sy’n arwain at golli rhywfaint o wasanaethau (Swyddog Cyfranogiad dan ymgynghoriad) ynghyd â gostyngiad yn y grant o dan CLG ar gyfer cyflawni allanol. Mae hwn yn gyfnod heriol i Gwaith Amdani / Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf.
Mae’r toriad yn y LAP (grant Chwarae ac Iaith) yn arwain at golli athro gwych sydd ar hyn o bryd yn gwneud y gwaith hwn ar ran Dechrau’n Deg.
Gwasanaethau Teg
Mae cael timau wedi eu hadlinio i greu Gwasanaeth Anabledd, y dyraniad adnoddau anghyfartal yn parhau i fod yn her yn enwedig rhwng pobl ag Anableddau Corfforol a / neu nam ar y synhwyrau a phobl ag Anableddau Dysgu.
Rheoli Adnoddau
Mae’r gyllideb Gofal Cymdeithasol yn wynebu heriau na welwyd o’r blaen. Mae mwy o alw ar draws pob maes gwasanaeth a arweiniodd at orwariant o dros £1 miliwn wrth gau’r cyfrifon ar gyfer 2015/16.
Mae amrywiaeth o ffactorau wedi achosi hyn, adroddwyd ar lawer ohonynt drwy’r broses wleidyddol yn 2015/16. Fodd bynnag, effeithiodd ystod o gostau ychwanegol ymhellach ar y canlyniad cyffredinol ar gyfer 2015/16. Roedd yr adran yn ystod misoedd olaf 2015/16 wedi rhagweld y cynnydd yn y gorwariant ac roedd y cyfle i ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn yn ateb.
Mae cyllideb 2016/17 dan bwysau pellach, gan fod rhaid iddo gytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer y sector gofal preswyl, cartref a byw â chymorth (24/7) hyd at £0.75m, yn ychwanegol at y cyllid sydd ar gael drwy achosion busnes. Effeithir ymhellach ar y prosiectau byw â chymorth (24/7) yn sgil cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol (CBC). Mae’n amlwg bod y penderfyniad polisi a gymerwyd yn genedlaethol i gyflwyno’r CBC wedi cael canlyniadau ariannol sylweddol yn lleol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn unigryw i Gonwy.
Yn ogystal, bu cynnydd yn y galw am leoliadau annibynnol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC), gyda’r sector annibynnol sy’n ceisio sicrhau cynnydd mewn ffioedd o ganlyniad i’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Mae’r ddau ffactor yma yn creu pwysau ychwanegol ar y gyllideb a rhagwelir gorwariant.
O ran Plant sy’n Derbyn Gofal, mae’r pwysau’n ganlyniad i ddiffyg argaeledd lleoliadau maeth yn y sir ac o fewn darparwyr annibynnol ar draws y rhanbarth. Oherwydd y diffyg hwn o ddewis o leoliadau, mae weithiau angen rhoi rhai pobl ifanc mewn lleoliadau preswyl cost uwch, yn enwedig lle mae ymddygiad yn gwaethygu ac na all Gofalwyr Maeth ddiwallu eu hanghenion. Derbynnir y bydd cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol, gobeithio, yn mynd i’r afael â rhai o’r materion recriwtio a chadw staff yn y sector ac yn ei gwneud yn sector mwy deniadol i weithio ynddi. Yn ei dro, gobeithio y bydd hyn yn cynorthwyo gyda’r ymdrech i wella ansawdd a chynaliadwyedd. Fodd bynnag, arweiniodd y gwahaniaeth rhwng yr achosion busnes a gytunwyd a’r cyllid sydd ei angen ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol at ddiffyg ynddo’i hun.
Mae’r adran wedi elwa o gyllid ychwanegol drwy’r llwybr achosion busnes at y swm o £6.2 miliwn dros y 5 mlynedd diwethaf ac wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd o £9.4 miliwn fel rhan o ymgyrch effeithlonrwydd cynghorau dros yr un cyfnod.
O 1 Ebrill 2016 mae arbedion effeithlonrwydd gwerth £1.436 miliwn a gymeradwywyd gan y Cyngor ar gyfer 2016/17 wedi cael eu tynnu oddi ar y gyllideb. Bydd methiant i gyflawni unrhyw un o’r mentrau hyn ond yn cynyddu gorwariant yr adran ymhellach.
Bydd y sefyllfa’n gwaethygu yn 2017/18 gyda chynnydd pellach a’r galw a ddisgwylir o fewn y gwasanaeth. Y senario waethaf bosibl o ran y Cyflog Byw Cenedlaethol yw y bydd yn codi i £9.00 yr awr ym mis Ebrill 2017 a fyddai’n gosod galwadau ychwanegol o £2.3 miliwn ar gyfer Cartrefi Preswyl / Nyrsio, £1.05 miliwn am Ofal Cartref a £1.2 miliwn ar gyfer Byw â Chymorth. Mae hyn yn ychwaneg i’r diffyg adnoddau posibl ar gyfer 2016/17 a fydd yn cael ei ddwyn ymlaen a bydd y sector gofal yn profi pwysau pellach o ganlyniad i fentrau eraill y cyngor.