Mae’r Gwasanaeth Cymunedol a Lles yn gweithredu fel darparwr gwasanaethau i brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop gyda’r nod o Fynd i’r Afael â Thlodi.
Mae nodau Llywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â thlodi yn cynnwys:
Lleihau tlodi, yn enwedig tlodi parhaus ymysg rhai o’n pobl a’n cymunedau tlotaf, a lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynd yn dlawd
Mae Cyngor Conwy, ynghyd â holl awdurdodau lleol eraill Cymru yn gweithredu fel darparwr gwasanaethau lleol i gyflawni nifer o brosiectau a ariennir gan grant gyda’r nod o fynd i’r afael â thlodi. Fel gydag unrhyw brosiect, mae angen i ni gyflawni nifer sylweddol o ddangosyddion perfformiad, sy’n cynnwys:
- Mynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd gwirioneddol
- Mynd i’r afael â diweithdra a chodi incwm aelwydydd
- Gwella sgiliau pobl ifanc a theuluoedd
- Gwella deilliannau iechyd ac addysgol plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi
Dyma rai o’r prosiectau a ariennir drwy grant rydym yn eu cyflawni ar hyn o bryd yng Nghonwy:
- Dechrau’n Deg
- Tîm o Amgylch y Teulu
- Gwaith Amdani
- Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf Llanrwst
Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gwthio ansawdd ein darpariaeth yn ei flaen trwy well hyfforddiant a datblygiad ar gyfer ein staff, gwella’n cynlluniau marchnata i sicrhau ein bod yn estyn allan at gymaint o unigolion sydd angen cymorth ag y bo modd, a hefyd bod y mecanwaith cefnogaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal ochr yn ochr â mwy o ymgysylltu â dinasyddion Conwy er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r union beth sydd angen. Ein nod yw parhau gyda’r math hwn o ymagwedd er mwyn sicrhau bod ein darpariaeth yn canolbwyntio gymaint ag y bo modd ar ganlyniadau.
Mae Llywodraethu’n gwella’n barhaus drwy fwy o gyfranogiad a chydweithio gyda’n timau archwilio mewnol, sy’n sicrhau fod darpariaeth a chanlyniadau’n mynd law yn llaw.