Mae’r holl leoliadau Iechyd Meddwl wedi cael eu hadolygu i sicrhau bod gwasanaethau priodol a chymesur a chomisiynu wedi symud i bwysleisio’r model adfer.
Bydd fframwaith ‘Iechyd Meddwl Cynaliadwy’ yn darparu gweledigaeth ac amlinelliad ar gyfer rheolaeth effeithiol, yn enwedig yn sgil y galw cynyddol ac adnoddau cyfyngedig. Mae adolygiad o’r holl leoliadau iechyd meddwl yn mynd rhagddo i sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth yn derbyn pecynnau gofal priodol a chymesur. Mae comisiynu gyda’r Trydydd Sector yn rhoi pwyslais ar y model gwella er mwyn galluogi defnyddwyr gwasanaeth i symud allan o wasanaethau statudol i leoliad cymunedol mwy priodol ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor.
Mae “Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth” wedi arwain at ddod i gytundeb ynglŷn â gwelliannau i wasanaethau, ac mae staff uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi rhoi ymrwymiad i gwrdd bob mis i fonitro cynnydd ar welliannau a datblygiadau. Bydd adolygiad o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf i sicrhau bod y gwelliannau y cytunwyd arnynt i’r gwasanaeth o safbwynt Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi eu cyflawni.