Mae gwaith mapio a gwaith ymgynghori wedi cael ei wneud er mwyn nodi bylchau yn y ddarpariaeth gyfredol o wasanaethau cymunedol ar gyfer pobl â dementia.
Cynhaliwyd ymarferiad mapio gwasanaeth manwl, a oedd yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd. Helpodd hyn i nodi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol a chymell y broses gomisiynu.
Cwblhaodd Partneriaeth Dementia Conwy, sy’n ceisio hyrwyddo lles pobl sy’n byw gyda dementia yng Nghonwy a’u gofalwyr, Ddatganiad Sefyllfa’r Farchnad drafft mewn perthynas â gwasanaethau dementia. Mae hyn wedi cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad y Strategaeth Gomisiynu Gofal Cymdeithasol, yn enwedig y bennod yn ymwneud â Gwasanaethau Pobl Hŷn. Nodwyd themâu allweddol o’r Asesiad Anghenion Rhanbarthol, dadansoddi data ac adroddiadau ymchwil. Mae gweithdai ymgysylltu ac ymgynghori ar y themâu ar gyfer yr asesiad anghenion poblogaeth a’r dadansoddiad o’r farchnad yn cael eu cynnal yn ystod mis Mai – Gorffennaf 2016 gyda defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a dinasyddion Conwy. Bydd Strategaeth Gomisiynu drafft Conwy yn ystyried Adborth Ymgysylltu, ar gael ym mis Hydref 2016 ac yn mynd drwy’r broses ymgynghori a chymeradwyaeth derfynol rhwng mis Tachwedd 2016 ac Ionawr 2017.
Cymeradwywyd “Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yng Nghonwy 2015 – 2019″ gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2015. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar adeiladu a hyrwyddo cymunedau sy’n “gefnogol i ddementia”, gyda’r themâu allweddol canlynol:
- Mae Conwy yn amgylchedd lle mae pobl yr effeithir arnynt gan ddementia yn teimlo’n hyderus, yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall
- Mae pobl a effeithir arnynt gan ddementia yng Nghonwy yn nodi gwelliant o ran canfod dementia yn amserol a’r gefnogaeth a ddarperir cyn, yn ystod, ac ar ôl canfod.
- Mae addysg, hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor gwell ac estynedig ynghylch dementia wedi cael ei sefydlu.