Mae’r galwadau cynyddol sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio a’r angen i gefnogi nifer cynyddol o bobl yn y cartref yn golygu bod angen canolbwyntio ar alluogi pobl i fod mor annibynnol ag y bo modd a gwneud defnydd llawn o’r technolegau sydd ar gael i gynorthwyo â hyn.
Datblygu Teleofal, h.y. mae’r defnydd o ffonau larwm argyfwng a thechnoleg tebyg yn flaenoriaeth strategol. Mae Teleofal yn dod ag iechyd a gofal cymdeithasol yn uniongyrchol i gartrefi’r unigolyn drwy ddefnyddio technoleg i wella eu diogelwch, annibyniaeth, iechyd ac ansawdd bywyd a’u galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain mor hir â phosibl.
Mae dros 1,800 o ddefnyddwyr gwasanaethau Teleofal yng Nghonwy yn byw mewn anheddau preifat, ynghyd â dros 1,600 yn byw mewn tai yn y sector cyhoeddus gyda systemau Teleofal gyda gwifrau sefydlog. Mae Galw Gofal yn darparu gwasanaeth monitro galwadau 24 awr ar gyfer yr holl bobl hyn.
Mae llwyddiant gwasanaeth Teleofal effeithiol yn dibynnu ar ddefnyddio’r offer cywir, ei ddefnyddio’n iawn a chael ymatebwyr i fod yn bresennol i gefnogi unigolion mewn argyfwng.
Beth sydd wedi newid? Adroddodd y ganolfan monitro galwadau rhanbarthol Galw Gofal broblemau cynyddol lle mae llawer o bobl ddiamddiffyn naill ai heb unrhyw un i alw am gymorth pan fyddant yn canu’r larymau argyfwng, neu wedi cael trafferth cysylltu ag ymatebwyr i fod yn bresennol pan fydd angen. O ganlyniad, mae’r gwasanaethau brys yn cael eu galw i fod yn bresennol. Mynegodd Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bryder hefyd dros frwydr gyson i dargedu adnoddau yn effeithiol.
Yn dilyn cynllun arbrawf y tu allan i oriau gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sefydlwyd Gwasanaeth Ymateb Teleofal 24/7 ffurfiol ar gyfer ardal gyfan Conwy a ariennir drwy Gronfa Gofal Canolraddol. Darperir y gwasanaeth gan dimau ardal gofal cymdeithasol yn ystod y dydd a thu allan i oriau gwaith, gweithwyr cefnogi cymunedol nos mewn 2 o gyfleusterau Tai Gofal Ychwanegol Conwy. Darperir y gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn sicrhau cymorth llawn amser i gwrdd ag anghenion yr unigolyn ac yn lleihau’r baich ar y gwasanaethau brys.
Gelwir ymatebwyr ffurfiol pan fod Galw Gofal yn methu â chyrraedd y teulu, ffrindiau neu ofalwyr a enwir ar y gofnod.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud? Yn ystod cyfnod o 4 mis o weithredu, derbyniodd y Gwasanaeth Ymateb Teleofal 49 galwad, 31 ohonynt y tu allan i oriau gwaith. Roedd y galwadau yn cynnwys 12 galwad diangen, 24 tasg gofal cartref a 13 syrthiad, gyda 6 ohonynt yn golygu fod rhaid mynd i’r ysbyty. Heb y gwasanaeth Ymateb Teleofal byddai’r ganolfan fonitro galwadau wedi gorfod ffonio’r gwasanaethau brys.
Isod mae astudiaeth achos fer i dynnu sylw at fanteision y datblygiad pwysig hwn.
Derbyniwyd galwad yn y ganolfan fonitro gan Mrs B, a gynhyrchwyd drwy gordyn tynnu yn yr ystafell ymolchi a gysylltodd â’r system Teleofal yn fuan ar ôl 9.00am.Ni chafwyd ymateb o’r eiddo. Ffoniodd y gweithredwr yn ôl ond nid oedd ymateb yn dal. Ffoniodd y gweithredwr y deiliaid goriadau – dim ymateb. Gan na allai adael yr alwad heb ei hateb ffoniodd y gweithredwr y gwasanaeth Ymateb Teleofal – tîm ardal yn ystod y dydd.
Aeth yr ymatebwyr i’r eiddo a llwyddodd i gael mynediad diolch i gymydog. Daeth yr ymatebydd Teleofal ar draws Mrs B yn y bath ac yn methu dod allan. Nid oedd yn glir pa mor hir yr oedd hi wedi bod yno, ond roedd y dŵr yn oer. Cynorthwyodd yr ymatebwyr Mrs B i ddod allan o’r bath, a sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn gynnes. Mae’r Gwasanaeth Ymateb Teleofal yn darparu cymorth pan fo angen ac yn sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau ar draws y sectorau cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaethau brys.