- O fewn y gwasanaeth plant sy’n derbyn gofal rydym wir yn gwerthfawrogi cyfranogiad gyda’n Plant sy’n Derbyn Gofal ac rydym wedi buddsoddi yn y maes Gwasanaeth hwn
- Mae gan y gwasanaeth plant sy’n derbyn gofal grŵp o bobl ifanc sydd eisoes mewn gofal sy’n gweithredu fel llais i Blant sy’n Derbyn Gofal eraill a dyna’r rheswm am y teitl grŵp “LLEISIAU UCHEL”
Mae’r grŵp yn cyfarfod pum gwaith y flwyddyn ac yn ymgynghori ar feysydd allweddol o ddatblygiadau yn y gwasanaeth a hefyd yn addysgu gweithwyr proffesiynol eraill ynghylch eu profiadau o fod mewn gofal.
Rhai o lwyddiannau’r grŵp Lleisiau Uchel:
- Datblygu bocsys Croesawu i Blant sy’n dechrau derbyn gofal
- Siarad â darpar fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ynghylch eu profiad o fod mewn gofal
- Cyfarfod ag arolygwyr AGGCC yn yr archwiliad ymddygiad Peryglus ac archwiliad LAC ynghylch eu profiadau a rhannu sut y maent yn teimlo bod eu llais yn cael ei glywed ac yr ymgynghorir â nhw.
- Crëwyd cynllun Rhianta Corfforaethol sy’n addas ar gyfer pobl ifanc gyda’r cyngor ieuenctid a’r tîm cyfranogiad a Phlant sy’n Derbyn Gofal.
- Adborth i’r tîm Rhianta Corfforaethol am y gwaith maent yn ei wneud
- Cysylltwyd gyda’r grŵp “Bydis” o oedolion sy’n gadael gofal i ddysgu o’u profiadau o fod mewn gofal.
- Y datblygiad ar gyfer y 12 mis nesaf yw recriwtio mwy o gynrychiolwyr lleisiau uchel a chynnal digwyddiad recriwtio gan fod nifer o’r bobl ifanc yn y grŵp wedi troi’n 18 ac felly mae angen ymgyrch recriwtio pellach arnom.