Mae COG 4 wedi cael gwybod am y dirywiad blynyddol yn nifer y bobl ym Mwrdeistref Sirol Conwy sydd wedi manteisio ar Archwiliad Iechyd i Oedolion Cymru ar gyfer unigolion sydd ag Anableddau Dysgu. Roedd Cyd-Gadeirydd COG 4 yn bresennol yn y cyfarfod Clwstwr Meddygon Teulu i dynnu sylw at hyn ym mis Mai. Yn dilyn trafodaeth bellach yn y COG bydd grŵp tasg a gorffen yn cael ei sefydlu i nodi’r rhwystrau rhag manteisio ar Archwiliad Iechyd Cymru. Yn ogystal, bydd y grŵp yn ceisio mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chasglu gwybodaeth yn ystod y broses archwiliad iechyd i lywio gwelliannau mewn gwasanaethau.
Mae’r Grŵp Tasg a Gorffen Chyfathrebu wedi datblygu ‘Canllaw Cyfathrebu Hygyrch’ i hysbysu unigolion a’u trefniadaeth o agweddau ar gyfathrebu sy’n bwysig i’w hystyried pan fyddant mewn cysylltiad â phobl sydd ag anawsterau cyfathrebu. Boed hynny wyneb yn wyneb neu drwy ddulliau eraill o gysylltu, er enghraifft dogfennau, posteri, neu lythyrau ac ati mae’r canllaw hwn wedi ei anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolion ag anableddau; (gan gynnwys nam ar y synhwyrau, byddar neu drwm eu clyw, anableddau corfforol, anableddau dysgu, a chyflyrau cronig). Y camau nesaf ar gyfer COG 4 fydd ymgorffori’r canllawiau o fewn prosesau cyflwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Bwrdeistref Sirol Conwy a hyrwyddo defnydd gyda phartneriaid a sefydliadau aml-asiantaeth eraill. Rhannwyd y canllaw gydag aelodau’r Bwrdd a chafwyd ymateb cadarnhaol iawn.