Mae COG 2 yn parhau i gefnogi nifer o flaenoriaethau sy’n gysylltiedig ag arferion byw’n iach yng Nghonwy a chefnogi ‘Sgrinio am Oes’, ‘Ymgyrch Ffliw’ a’r mentrau rhoi’r gorau i ysmygu canlynol; ‘Stoptober’ yng ngweithleoedd Bwrdeistref Sirol Conwy, ‘Diwrnod Dim Smygu’ Sefydliad Prydeinig y Galon a’r ymgyrch ‘Quit for you and Quit for Them’.
Darparwyd hyfforddiant ymyriadau byr ysmygu a hyfforddiant atal alcohol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda chleientiaid sydd am roi’r gorau i ysmygu neu yfed llai o alcohol. Cytunodd y rhan fwyaf o’r rhai a oedd yn bresennol yn gryf bod yr hyfforddiant yn bodloni eu disgwyliadau. Amlygodd cyfranogwyr rai o’r sylwadau canlynol;
“Rwy’n gweithio fel Therapydd Galwedigaethol ac yn ddiweddar roedd erthygl yn ‘OT News’ ynghylch: swyddogaeth OT i gynorthwyo i roi’r gorau i ysmygu – amserol iawn – teimlo y gallaf ddefnyddio technegau a addysgwyd!”
“Da iawn, cwrs i ysgogi’r meddwl”
“Dysgais gymaint heddiw ac yn teimlo fy mod wedi cael llawer gwell dealltwriaeth o’r anawsterau a wynebir wrth roi’r gorau i ysmygu”
“Mae’r cerdyn crafu alcohol yn adnodd gwych”
Dewisodd Cyngor Ieuenctid Conwy iechyd rhywiol fel blaenoriaeth ac maent wedi gweithio gyda COG 2, anfonwyd arolwg i ysgolion a cholegau ar ddarpariaeth iechyd rhywiol ac addysg a chafwyd dros 500 o ymatebion. Holwyd nifer o gwestiynau am wahanol themâu gan gynnwys gwybodaeth, rhyngweithio atal cenhedlu gyda gweithwyr proffesiynol ac addysg;
“A oes gennych chi unrhyw syniadau am yr hyn a fyddai’n eich gwneud yn fwy cyfforddus gyda mynd i weld gweithwyr meddygol proffesiynol ynglŷn â’ch iechyd rhywiol?
- Bod yn fwy sicr o gyfrinachedd (31) 36%
- Dim man aros cymunedol neu amseroedd aros cyflymach (12) 14%
- Doctor o’r un rhyw (11) 13%
- Doctor digynnwrf (9) 10%
- Mynd ar eich pen eich hun (5) 6%
- Mynd gyda ffrind neu deulu (6) 7%
- Doctor nad yw’n beirniadu (5) 6%
- Ei wneud yn bwnc mwy agored, siarad am y peth mewn addysg (4) 5%
Y prif ganfyddiad a nodwyd gan y bobl ifanc oedd materion cyfrinachedd, cynhyrchodd Cyngor Ieuenctid Conwy boster ac mae hwn wedi cael ei rannu gydag ysgolion, fferyllfeydd a Meddygfeydd, cynhyrchwyd ffilm fer yn dilyn eu taith ac mae ar gael ar YouTube:
https://www.youtube.com/watch?v=k6t2BNOj-Og&feature=youtu.be