Prif ddiben Gofal Integredig yw sicrhau bod dinasyddion yn cael profiad gwell o ofal a chymorth, yn profi llai o anghydraddoldeb a sicrhau gwell canlyniadau. Dylid dylunio a darparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac annibynnol i hyrwyddo a chynyddu lles; gan alluogi’r person i fyw’n annibynnol yn eu cymuned mor hir â phosibl, gyda gwasanaethau’n cael eu darparu yng nghartref y person ei hun neu mewn lleoliadau cymunedol i osgoi’r angen am ofal parhaus, aciwt neu sefydliadol.
Darparwyd y Grant Cronfa Gofal Canolradd gan LlC ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15. Nodwyd bod y cyllid hwn ar gael am flwyddyn ac wedi’i anelu at Bobl Hŷn a rhaid iddo fod ar gyfer rhaglen o waith a oedd yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol ac yn unol â Deddf Iechyd a Lles (Cymru) 2014.
Beth sydd wedi newid?
Gweithiodd Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Conwy mewn partneriaeth i ddatblygu prosiectau o dan 4 thema:
THEMA 1 – Gwella integreiddio, a dileu rhwystrau i weithio’n integredig, ar draws Awdurdodau Lleol, Sectorau Iechyd ac Annibynnol, a’r Trydydd Sector
THEMA 2 – Cryfhau’r ethos ail-alluogi a gwella ystod o wasanaethau yn y gymuned
THEMA 3 – Darparu gwasanaethau mwy ymatebol
THEMA 4 – Osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty / gofal
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud? Dim ond blas ar rai o’r prosiectau …
Rhaglen Lles: Mae datblygu rhaglen les yn cefnogi pobl hŷn yng Nghonwy drwy ddarparu cyfleoedd cymdeithasol, symbyliad meddyliol, y cyfle i ddatblygu cyfeillgarwch a rhwydwaith gefnogi, gan roi pwrpas i’r diwrnod. Y nod o helpu pobl hŷn yn arbennig, i aros yn iach a byw yn annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.
Hyfforddiant Teleofal i gynorthwyo fferyllwyr: i gynorthwyo pobl i gymryd eu meddyginiaeth yn annibynnol. Roedd y prosiect yn galluogi defnydd priodol o ddosbarthydd meddyginiaeth Pivotell, a datblygu polisi a gweithdrefn Ranbarthol ar gyfer defnyddio’r dosbarthydd.
Cydlynwyr Gwasanaeth Cyfateb Eiddo Therapi Galwedigaethol (ThG):Roedd y staff yn dod o hyd i eiddo sydd wedi cael Grant Cyfleusterau i’r Anabl nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio gan y sawl yr addaswyd yr eiddo ar ei gyfer, ac ystyried unrhyw unigolion posibl y gellid diwallu eu hanghenion yn yr eiddo hwnnw a chefnogi eu symudiad yn hytrach na chael gwared ar yr addasiad.
Rhaglen Addasiadau Brys ac aseswr Gofal a Thrwsio: Roedd yr Aseswyr Cymunedol yn darparu gwasanaeth galw i mewn ym mhob ysbyty aciwt a chymunedol i gynorthwyo gyda rhyddhau effeithiol a chyflym o’r ysbyty. Mae hyn yn rhoi cymorth i bobl hŷn drwy ymweld â nhw yn eu cartrefi eu hunain a chynnal asesiadau a darparu cyngor. Gall yr Aseswyr Cymunedol ddefnyddio cyllid y Rhaglen Addasiadau Brys a’r Grant Byw’n Annibynnol yn effeithiol i ddarparu canlyniadau gorau i gleifion yn dilyn atgyfeiriad Iechyd neu Ofal Cymdeithasol.
Fflatiau gofal ychwanegol tymor byr: Mae Conwy wedi defnyddio rhywfaint o’i gyllid o’r Gronfa Gofal Canolradd i ddatblygu dwy fflat tymor byr ychwanegol yn ei gynlluniau tai gofal ychwanegol diweddaraf. Mae’r fflatiau’n darparu hyd at bythefnos o lety a chymorth i bobl hŷn drwy gydol cyfnod o 24 awr. Mae’r cynllun yn cynnig arhosiad tymor byr mewn tai gofal ychwanegol lle mae gofal a chymorth yn y cartref ar gael 24 awr y dydd yn dibynnu ar angen. Gellir rheoli anghenion iechyd i’r un lefel â nyrsys ardal. Gosodwyd Teleofal ym mhob fflat ac mae cefnogaeth ar gael gan dîm gofal a chymorth ar y safle, y tîm ail-alluogi a Gofal Canolradd Conwy.
Gwasanaeth ymateb peilot: Treialu’r gweithwyr cefnogi cymunedol wedi eu lleoli yn nhai Gofal Ychwanegol Conwy [1 yn y dwyrain ac 1 yn y gorllewin] i ddarparu’r gwasanaeth ymateb nos Teleofal 7 noson yr wythnos. Mae hyn yn sicrhau cymorth llawn amser i gwrdd ag anghenion yr unigolyn ac yn lleihau’r baich ar y gwasanaethau brys.