Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig ystod eang o wasanaethau i’r gymuned, o blant a’u teuluoedd, ymadawyr gofal, i bobl hŷn, a phobl ag anableddau. Mae’n bwysig i ni bod pobl yn dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau y gallai fod ganddynt hawl iddynt.
Ond nid Gwasanaethau Cymdeithasol yw’r unig ffynhonnell i gael cymorth neu wybodaeth. Mae yna rwydwaith ffyniannus o sefydliadau gwirfoddol a phreifat, grwpiau a gwasanaethau elusennol yn Sir Conwy, ac rydym wedi bod yn chwilio am ffyrdd o wella sut y gallwn rannu’r wybodaeth hon, yn enwedig ym maes Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gwasanaethau cynhwysol ar gyfer cefnogaeth i deuluoedd a chefnogaeth i deuluoedd sydd â phlentyn sydd ag anabledd.
Tîm o Amgylch y Teulu
Cefndir
Cysylltwch â Thîm o Amgylch y Teulu os oes angen gwybodaeth arnoch am weithgareddau, sefydliadau, gwasanaethau neu ofal plant.
Mae Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) wedi bod yn cydweithio’n agos â Thîm o Amgylch y Teulu ers iddo gael ei lansio ym mis Mawrth 2013.
Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu yn gweithredu fel siop un stop. Gall teuluoedd ffonio un rhif (01492 577788) i gael y cyngor a’r wybodaeth maent eu hangen.
Beth sydd wedi newid?
Mae Gwasanaethau’r Plant a Thîm o Amgylch y Teulu yn cwrdd yn rheolaidd i rannu gwybodaeth a syniadau am sut i ddatblygu’r gwasanaeth i sicrhau bod y wybodaeth gywir a fydd yn gwneud gwahaniaeth, yn cael ei gynnig i bobl. Efallai y bydd gan y Tîm o Amgylch y Teulu bryderon o dro i dro ynglŷn â mater diogelu o fewn teulu, ac efallai y byddant yn atgyfeirio’r mater i’r Gwasanaeth Plant yn y sefyllfaoedd hynny.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Ers ei lansio, mae’r Gwasanaethau Plant wedi cyfeirio 103 o deuluoedd at y Tîm o Amgylch y Teulu. Teuluoedd yw’r rhain nad oedd yn cyrraedd y trothwy i dderbyn cymorth uniongyrchol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn fwlch mewn gwasanaethau yn y gorffennol. Mae’r bwlch hwn bellach yn cael ei lenwi gan y Tîm o Amgylch y Teulu, sydd wedi rhoi cefnogaeth, wedi cyfeirio neu drefnu cyfarfodydd aml asiantaeth ar gyfer 358 o bobl yng Nghonwy. Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu wedi cyfeirio 10 o deuluoedd at Wasanaethau Plant, oherwydd pryderon am ddiogelu.
Strategaeth Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth
Cefndir
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod pobl sydd ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig yn aml yn colli allan, oherwydd diffyg gwasanaethau neu oherwydd nad yw gwasanaethau yn ymwybodol o’u hanghenion bob amser. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol yng Nghymru ffurfio “grŵp budd-ddeiliaid” a oedd yn cynnwys rhieni, a staff o bob asiantaeth. Yn 2010, fe unodd grwpiau Conwy a Sir Ddinbych, ac mae’r “grŵp llywio” presennol yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys oedolion sydd ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig, rhieni, Cynghorwyr a gweithwyr proffesiynol.
Beth sydd wedi newid?
Mae yna gymysgedd gwerthfawr o bobl yn y grŵp erbyn hyn, ac mae llawer yn mynychu, ac mae ganddo rwydwaith e-bost mawr er mwyn rhannu gwybodaeth. Dyma rai o’r manteision rydym wedi’u gweld ers i’r grŵp gael ei ffurfio:
- Mae yna lawer o grwpiau cymdeithasol a hamdden ar gael nawr, megis clwb dringo “Monkeys” i bobl ifanc
- Grŵp cymdeithasol i oedolion
- Rhagor o hyfforddiant ar gael nawr
- Rydym wedi gweld rhagor o ymgysylltu â holiadur “Ymwybodol o Awtistiaeth” Llywodraeth Cymru.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
“Mae bod yn aelod o’r grŵp llywio wedi gwella fy nealltwriaeth o Anhwylderau Sbectrwm Awtistig yn enfawr. Drwy rannu arfer da, gallaf rannu gwybodaeth â chydweithwyr” – (Staff Gwasanaethau Ieuenctid)
“Mae’r arian a ddarparwyd yn uniongyrchol i’r grwpiau i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth wedi cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar eu gallu i deimlo bod ganddynt lefydd i fynd a phobl sydd â diddordeb. Mae’r arian wedi ein galluogi i roi cynnig ar bethau newydd, hyd yn oed os na fuont yn llwyddiannus – y pwynt ydi ein bod wedi trio, a heb yr arian yma ni fyddai unrhyw un arall yn fodlon gwneud hyn”. (Rhiant)
Gweithiwr Cefnogi Cymunedol a Mentora Anhwylderau Sbectrwm Awtistig
Cefndir
Mae llawer o oedolion sydd ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig yn unig a/neu’n fregus, ond eto, efallai nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf i gael mynediad at wasanaethau gan yr Awdurdod Lleol. Mae’n debyg y bydd eu hangen am y gwasanaeth yn cynyddu dros amser heb unrhyw gymorth neu gefnogaeth. Fe ariannodd Llywodraeth Cymru brosiect i gefnogi’r oedolion hyn, a chasglu gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn cynllunio gwasanaethau at y dyfodol.
Beth sydd wedi newid?
Mae’r prosiect Mentora a Chefnogi Cymunedol yn darparu;
- Cyngor
- Cyfeirio – i grwpiau cymdeithasol neu gefnogi, a gwasanaethau a sefydliadau eraill
- Cefnogaeth yn y tymor byr, ee, gweithredu strwythur/trefn, mynediad at gyfleusterau cymunedol, cefnogaeth â chyllidebu etc
- Sesiynau sylfaenol codi ymwybyddiaeth o Anhwylderau Sbectrwm Awtistig
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae’r gweithiwr cefnogi wedi gweithio â 64 o unigolion sydd â (neu sydd yn ceisio) diagnosis o Anhwylderau Sbectrwm Awtistig. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi pobl drwy’r newid o ysgol i brifysgol, galluogi unigolion i gael pas bws, sefydlu trefn wythnosol, rheoli arian a dod o hyd i waith gwirfoddol. Mae cyfeirio a rhannu gwybodaeth â rhieni a gofalwyr wedi gwella – mae calendr o ddigwyddiadau misol yn cael eu dosbarthu ar draws Conwy a Sir Ddinbych. Rydym wedi cydweithio â sefydliadau lleol, darparwyr gweithgareddau a grwpiau cymdeithasol. Mae aelodau o Dîm Landlord Cymeradwyedig yn CCBC wedi’u hyfforddi i gefnogi unigolion ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig yn well.
Rhwydwaith Anabledd Conwy
Cefndir
Roedd y Gofrestr Anabledd, fel yr oedd yn arfer cael ei galw, yn cael ei chadw gan Barnardo’s ar ran Conwy a Sir Ddinbych hyd at 2010.
Nod y gofrestr oedd gwneud dau beth. Yn gyntaf, helpu Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Iechyd i flaengynllunio a datblygu gwasanaethau yn ôl y nifer o blant sydd ag anableddau, eu hoedran, a’u cyflyrau. Yn ail, darparu gwybodaeth berthnasol i blant a’u teuluoedd.
Fe ymrwymodd Conwy i ail-lunio’r gofrestr yn ystod 2012.
Beth sydd wedi newid?
Mae grŵp o staff o BIPBC (Iechyd), Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy a’r adran Addysg wedi cicdanio’r prosiect unwaith eto, o dan enw newydd “Rhwydwaith Anabledd Conwy”.
Dosbarthwyd ffurflenni caniatâd i blant a’u teuluoedd oedd yn cynnwys esboniad am ddiben y gofrestr.
Mae systemau ar waith bellach i gadw’r wybodaeth yn ddiogel.
Paratowyd “protocol rhannu gwybodaeth” drafft, a bydd yn cael ei arwyddo gan bob partner yn ystod haf 2014.
Mae gwaith wedi cychwyn ar ddatblygu gwefan Rhwydwaith i Blant ag anabledd a’u teuluoedd.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Bydd gan Sir Conwy ddarlun cliriach o nifer o blant sydd ag anableddau a’u hanghenion. Gyda’r wybodaeth gyflawn, gall yr Awdurdod Lleol a BIPBC dargedu gwasanaethau yn fwy cywir.
Bydd y Rhwydwaith yn darparu gwybodaeth, cysylltiadau gwasanaeth a’r cyfle i gael cefnogaeth gan gyfoedion, a bydd modd i blant a’u teuluoedd gysylltu drwy fwrdd negeseuon diogel ar y we.
Bydd y Rhwydwaith yn bwynt cydlynu er mwyn i wasanaethau trydydd sector gael hysbysebu fel bod gan deuluoedd bwynt canolog i ddarganfod beth sydd ar gael, gyda chysylltiadau agos i gronfa ddata Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Pan fydd y gofrestr/rhwydwaith wedi’i sefydlu, mae’n bosibl y bydd modd ymestyn yr aelodaeth i Sir Ddinbych yn y dyfodol.