Mae gennym gynlluniau ar waith i werthuso effaith y Panel Ymylon Gofal.
Cynhaliwyd y panel Ymyl Gofal unwaith y mis i ddechrau trafod achosion cymhleth lle mae plant a phobl ifanc sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddod i ofal. Fodd bynnag, yn dilyn adborth gan y gweithwyr cymdeithasol, cytunwyd i ddarparu panel bob pythefnos. Mae’r panel hefyd wedi sefydlu cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc), a’r Rheolwr Strategol Cyfiawnder Ieuenctid, i drafod achosion cymhleth y bernir eu bod mewn perygl o waethygu.
Bydd effeithiolrwydd y panel yn cael ei werthuso ddiwedd 2016/17, a rhagwelir y bydd y gwerthusiad yn dangos tystiolaeth bod plant yn cael eu hatal rhag cael eu huwch-gyfeirio drwy ffactorau risg, ac yn wir mae’r risg honno’n cael ei lleihau