Yn dilyn y cynllun prawf swyddfeydd Doethwaith llwyddiannus yn 2013/14, amlinellodd y Gwasanaethau Cymdeithasol raglen o weithredu’r arferion gwaith hyn ar draws rhagor o safleoedd addas i wella hyblygrwydd ar draws y gweithlu a gostwng costau drwy leihau’r sail asedau.
- Bloc M Adeiladau’r Llywodraeth – adnewyddwyd ar 20/06/14 ar gyfer 32 o orsafoedd Doethwaith.
- Gadawyd Argyll Road ar 27/06/14 a oedd â chost flynyddol o tua £60,000.Timau Hawliau Lles a FAO, cafodd 24 o staff eu hail-leoli ym Mloc M adeiladau’r llywodraeth.
- Gadawyd 94 Conway Road ar 29/08/14 a oedd â chost flynyddol o tua £45,000.Cafodd staff eu hadleoli i wahanol safleoedd.
- Gadawyd Meadow Lodge, Bae Colwyn ar 31/03/14 a oedd â chost flynyddol o tua £3,000.Cafodd staff eu hadleoli o fewn prosiectau gwasanaethau dydd eraill.
- Gadawyd Canolfan Marl ar 31/03/15 a oedd â chost flynyddol o £44,000.
- Cafodd staff eu hadleoli i wahanol safleoedd.
- Swyddfeydd amlddisgyblaeth Llys Dyfrig, agorwyd ar 26/08/14 gyda 26 gorsaf doethwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae staff o 94 Conway Road a Chanolfan Marl yn gweithio ar y safle hwn.
- Adnewyddwyd Porthdy’r Swyddfeydd Dinesig ar 02/03/15 i ddarparu 10 gorsaf Doethwaith.
- Agorwyd swyddfa amlddisgyblaeth SPOA yng Nghanolfan Hamdden Bae Colwyn 12/06/14 gyda 34 gorsaf Doethwaith.
- Symudodd y tîm CWD o Civic Mews i swyddfeydd yn Ysgol Gogarth 25/08/14 gydag 16 gorsaf Doethwaith
Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar hygyrchedd uwch reolwyr.
Mae pob rheolwr adain ac arweinydd tîm bellach yn weithwyr “ystwyth”, sy’n defnyddio’r gwahanol safleoedd a ailddatblygwyd ar gyfer eu gwaith o ddydd i ddydd. Yn amlwg mae hyn wedi helpu gwneud staff allweddol yn fwy hygyrch.