Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Datblygu Rhaglen Gomisiynu yng Nghonwy

Datblygu Rhaglen Gomisiynu yng Nghonwy

Roedd angen clir, cydnabyddedig i’r adran gael strategaeth gomisiynu gryf ac adolygu gwasanaethau a gomisiynwyd ar hyn o bryd.

Beth sydd wedi newid?

Roedd y Gwasanaeth Lles Cymunedol a grëwyd yn 2014 yn cynnwys Adain Berthnasau Annibynnol a’r Trydydd Sector. Rŵan, mae’r tîm newydd hwn yn dwyn ynghyd y wybodaeth a’r sgiliau i sicrhau bod trefn gomisiynu effeithiol ar waith, a gefnogir drwy’r Datganiadau ar Sefyllfa’r Farchnad, Dadansoddiadau o Anghenion Poblogaeth, strategaeth gomisiynu eglur a ffocws o’r newydd ar sicrhau canlyniadau cadarnhaol i unigolion drwy wasanaethau a gomisiynir. Mae’r tîm yn cynnwys dau gomisiynydd, swyddog gwybodaeth, swyddog cyswllt trydydd sector, swyddog cyswllt sector annibynnol, swyddog cyswllt rhanbarthol a gweinyddwr, wedi’u dwyn ynghyd o dan Reolwr Adran profiadol, sy’n adrodd i’r Cyfarwyddwr.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Rydym wedi datblygu Datganiadau ar Sefyllfa’r Farchnad yn canolbwyntio ar ddementia ac anableddau – yr angen, beth yw’r cyflenwad presennol, beth fydd yr angen yn y dyfodol, a sut olwg rydym yn bwriadu y bydd ar y cyflenwad hwnnw.

Rydym wedi diffinio’r gwerthoedd craidd a fydd yn llifo drwy ein prosesau comisiynu. Rydym wedi dechrau adolygu contractau presennol, yn chwilio am gyfleoedd i uno gwasanaethau, neu i sicrhau darpariaeth fwy effeithiol o anghenion unigol. Rydym yn adolygu ein trefniadau contractio cyfredol gyda’r sector darparwyr gofal annibynnol, gan edrych ar wahanol ffyrdd o’u cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau ail-alluogi mewn cymunedau diamddiffyn a rhoi sicrwydd darparu i’r rhai sy’n derbyn gofal.

Mae’r Rheolwr Adran wedi datblygu perthnasau agosach gyda’r trydydd sector, mentrau cymdeithasol a’r sector annibynnol.

Bydd y gwahaniaeth a wneir gan y tîm i’w weld amlycaf dros y 12 mis nesaf, wrth i brosesau ar gyfer rheoli dyraniadau grant ddod yn Ddatganiadau Sefyllfa’r Farchnad mwy llyfn, a seiliedig ar anghenion ac yn cael eu datblygu i ddangos y cyfeiriad y mae’r awdurdod yn awyddus i ddatblygu gwasanaethau.

Bydd strategaeth gomisiynu eglur, benodol yn cael ei datblygu, a bydd ein dull o atal anghenion rhag cynyddu a sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fod yn annibynnol yn amlwg ynddo. Rydym yn cydnabod y galwadau presennol ar y sector cartrefi gofal a byddwn yn cynnal cyfarfodydd cyswllt chwarterol gan ddechrau yn ystod haf 2015 i sicrhau ein bod yn datblygu cysylltiadau mwy effeithiol gyda nhw. Byddwn hefyd yn sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion yn llywio ein strategaeth gomisiynu a’n bod yn datblygu manylebau gwasanaeth mewn modd cydgynhyrchiol er mwyn sicrhau bod dinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth yn dylanwadu’n ymarferol ar yr hyn rydym yn ei gomisiynu.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Dilyniant ers 2013-14

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English