Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Datblygu perthnasau gyda BIPBC

Datblygu perthnasau gyda BIPBC

Mae integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn ffactor allweddol mewn polisi cenedlaethol presennol.Amlinellodd Llywodraeth Cymru ei ofynion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn “Fframwaith ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer hŷn pobl ag anghenion cymhleth” ac ar ddechrau 2014, cytunodd Conwy a phum awdurdod lleol arall Gogledd Cymru gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar fframwaith y dyfodol ar gyfer darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig ar gyfer pobl hŷn ag Anghenion Cymhleth a chyhoeddwyd Datganiad o Fwriad.

Prif ddiben Gofal Integredig yw sicrhau bod ein dinasyddion yn cael gwell profiad o ran gofal a chymorth, yn profi llai anghydraddoldeb a sicrhau gwell canlyniadau lle bo modd.Mae gwasanaethau integredig yn cael eu hyrwyddo fel model gwasanaeth priodol i ddarparu gofal a rennir i’r grwpiau hynny o gleientiaid sy’n debygol o wneud defnydd helaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, fel pobl hŷn.

Mae hyrwyddo lles pobl yn agwedd allweddol ar y newid sydd ei angen yn y model gofal ledled Cymru.I’r perwyl hwn mae disgwyl i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gydweithio i ddatblygu a chyflwyno trefniadau cyffredin i alluogi person hŷn yn y gymuned, mewn gofal preswyl neu yn yr ysbyty i gael cyngor a gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol i’w helpu i hyrwyddo eu lles.

Beth sydd wedi newid?

Yng Nghonwy, rydym wedi sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda BIPBC. Bwriad y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yw egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a BIPBC wrth ddarparu continwwm o wasanaethau cymunedol ar y cyd sy’n darparu system o gymorth cymunedol, ymyrraeth gynnar, ail-alluogi a gofal canolradd, yn ogystal â gofal diwedd oes ar gyfer dinasyddion Conwy.(Copi yn y ffeil dystiolaeth).

Darperir y gwasanaethau hyn gan dimau iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u cydleoli sy’n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Nyrsys Ardal a staff Cymorth yn y Gymuned sydd wedi’u lleoli mewn pum gwahanol swyddfa ardal. Mae gwasanaethau i Bobl Hŷn yng Nghonwy bob amser wedi ymdrechu i gydweithio’n agos â gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn seiliedig ar ardaloedd daearyddol ac o ganlyniad, roedd cysylltiadau wedi’u hen sefydlu eisoes yn bodoli gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn y gymuned. Fodd bynnag, ers datblygu timau ardal aml-asiantaeth yn Llanfairfechan, Llanrwst a Llandudno gwelwyd hyn yn datblygu ymhellach. Dim ond am eu bodwedi eu cyd-leoli yn y safleoedd hyn, mae’r berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol o’r ddau sefydliad yn gweithio’n arferol gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn y gymuned ar gyfer pobl hŷn sy’n byw yn eu hardaloedd unigol.

Mae’r gwasanaeth diwedd oes yn enghraifft dda o sut rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn yn effeithiol mewn partneriaeth ag iechyd. Mae staff gofal yn y gymuned gofal cymdeithasol yn gweithio gyda staff Nyrsio Ardal i ddarparu cefnogaeth a chymorth i bobl sydd ar ddiwedd eu bywydau ac yn dymuno marw gartref.

Pa wahaniaeth mae hyn wedi’i wneud?

Isod mae rhai astudiaethau achos sy’n dangos y gwahaniaeth a waned gan y timau aml-asiantaeth hyn a gydleolwyd :

Canolfan Crwst – cynhelir cyfarfod dyrannu ar y cyd bob bore Llun, mae Nyrsys Ardal, Nyrs Reoli Clefydau Cronig, Tîm Cymorth yn y Gymunedol a thîm Gweithwyr Cymdeithasol yn bresennol – trafodir achosion presennol a rhai newydd, rydym yn ffodus bod gennym berthynas waith dda iawn gyda’n cydweithwyr iechyd ac rydym yn rhannu gwybodaeth a thrafod unrhyw bryderon.

Rydym hefyd yn cael trafodaethau anffurfiol o ddydd i ddydd gan ein bod yn rhannu swyddfa yng Nghanolfan Crwst.

Astudiaethau achos enghreifftiol:

  • Pan roedd cleient gartref, roedd pryderon ynghylch cymeriant dietegol. Roedd cleientiaid yn derbyn cymorth gan y Tîm Dementia, roedd Nyrsys Ardal yn ymweld, ac yn pwyso’r cleient yn rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i’r tîm Gwaith Cymdeithasol, a oedd yn cynorthwyo i fonitro’r sefyllfa ar y cyd rhwng iechyd a’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y cleient yn cael ei ryddhau o’r ysbyty i Gartref Nyrsio i adfer- roedd y cleient yn dymuno dychwelyd adref, ond roedd pryderon blaenorol ynghylch hunan-esgeulustod. Asesodd Nyrs Reoli Clefydau Cronig a Gweithiwr Cymdeithasol y client ar y cyd, a threfnwyd pecyn gofal er mwyn i’r cleient ddychwelyd adref – bydd y Nyrs Reoli Clefydau Cronig, Gweithiwr Cymdeithasol a’r Tîm Cymorth yn y Gymuned yn gweithio gyda’i gilydd i fonitro cynnydd y client a’r sefyllfa gartref.
  • Roedd gan gleient gyflwr ar y croen a wlserau coes, roedd y coesau wedi chwyddo’n fawr, derbyniodd y cleient gymorth gofal cartref ac mae Nyrs Rheoli Clefydau Cronig yn ymweld yn rheolaidd. Yn dilyn gwaethygiad yn y cyflwr, mae Nyrs Reoli Cyflyrau Cronig a’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio gyda’i gilydd i drefnu gofal seibiant gyda mwy o gefnogaeth a monitro yn Hafan Gwydir, sy’n golygu nad oes rhaid i’r cleient fynd i’r ysbyty.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Dilyniant ers 2013-14

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English