O fewn y strwythur blaenorol, sefydlwyd timau i ddarparu gwasanaethau i unigolion sy’n cael diagnosis ar gyfer cyflyrau penodol fel salwch meddwl, anabledd, anabledd dysgu neu nodweddion fel oedran. Mae’r system hon wedi methu rhai pobl nad ydynt yn rhan o’r strwythur traddodiadol. Yn flaenorol, byddai unigolion o’r fath yn cael eu trosglwyddo o un tîm i’r llall ac ychydig o arbenigedd fyddai gan ddeiliaid achos i gwrdd â’u bregusrwydd a’u hymgyflwyniad unigryw. Testun hyd yn oed mwy o bryder oedd y posibilrwydd y byddent yn syrthio drwy’r rhwyd yn gyfan gwbl ac yn cyflwyno materion heriol rheolaidd i bob gwasanaeth cymunedol fel tai, y gwasanaeth tân a’r heddlu.
Mae Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn amlwg yn gymhelliant sylweddol dros newid.
Sefydlwyd y Panel Oedolion Diamddiffyn yn 2011 ac ers hynny nodwyd galw mawr am wasanaeth ar gyfer pobl diamddiffyn nad ydynt yn bodloni’r meini prawf y cyfyngwyd y timau eraill i’w darparu. Yn ystod 2014-2015, aeth y tîm rheoli i’r afael â’r angen heb ei ddiwallu hwn drwy adleoli staff o dimau presennol i sefydlu tîm newydd fyddai’n datblygu arbenigedd ar weithio gyda’r grŵp hwn o bobl, gyda gwahanol anghenion heriol.
Beth sydd wedi newid?
Mae gennym dîm sefydledig gyda 2 weithwyr cymdeithasol, 1 Therapydd Galwedigaethol, 1 uwch weithiwr cymorth 1 cymhorthydd therapi galwedigaethol. Mae pobl yn y tîm wedi ymrwymo i weithio gyda dinasyddion diamddiffyn a chefnogi’r unigolion hynny i gyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig i’r unigolion. Mae’r Rheolwr Tîm yn mynd i gyfarfodydd atgyfeirio iechyd meddwl yn rheolaidd ac yn nodi achosion lle mae materion ynglŷn â phobl ddiamddiffyn yn cael eu nodi ond sydd o natur na fyddai’n cyrraedd y trothwy ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd. Mae’r achosion hynny’n cael eu hasesu a’u cefnogi wedyn gan y tîm drwy ddull sy’n canolbwyntio ar y person. Mae’r unigolion yn cael eu cefnogi i gael mynediad at adnoddau cymunedol cyffredinol i’w helpu i gyflawni gwell lles. Mae’r tîm wedi gweithredu offeryn asesu canlyniadau a mesurau canlyniadau effeithiol y maent yn treialu yn ystod eu blwyddyn gyntaf.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Rydym wedi llwyddo i gefnogi nifer o bobl i newid eu bywydau a dod yn fwy integredig yn eu cymuned leol.
Astudiaeth Achos
Roedd un o’r unigolion rydym yn helpu yn dioddef o syndrom Asperger. Roedd wedi cael trafferth drwy gydol ei blentyndod ac roedd mynd i’r coleg a chael mynediad i’r gymuned yn hynod heriol iddo. Datblygodd y gweithiwr cymorth berthynas briodol gyda’r unigolyn ac roedd yn ei gefnogi’n wythnosol i fynd i’r coleg ac yn helpu i feithrin ei hyder i sefyllfa lle gallai fynd i’r coleg ar ei ben ei hun. Mae wedi parhau i ddatblygu ei hyder ac mae bellach yn cadw swydd wirfoddol mewn siop elusen leol. Mae ei deulu wedi gwneud sylw ar y gwahaniaeth yn y dyn ifanc hwn ac mae tensiynau yn y cartref wedi eu rhyddhau.