Er bod nifer o risgiau wedi eu nodi o fewn Iechyd Meddwl, rydym yn ymgysylltu gyda’n cydweithwyr iechyd i gymryd camau lliniaru a rheoli’r rhain.
Cafwyd pryderon ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl sydd wedi cael eu nodi fel risgiau ar gyfer y gwasanaeth ac ar gyfer y Cyngor yn gorfforaethol.
Mae pryderon am y diffyg systemau, prosesau, arferion a diwylliant integredig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu datrys drwy gyfarfodydd Uwch Reolwyr misol, digwyddiadau dysgu a chynllun gweithredu sy’n deillio o hynny a dilyn i fyny er mwyn sicrhau bod y newidiadau yn cael eu hymgorffori mewn arfer. Trafodwyd a chytunwyd hefyd ar welliannau i’r gwasanaeth.
Mae yna hefyd risgiau y bydd gwybodaeth perfformiad gwael gan Iechyd Meddwl yn arwain at anawsterau gweithredol (hy. yr agweddau gweithredol hynny o’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol sydd o dan reolaeth CBSC).
Un ateb posibl a dreialwyd oedd y defnydd o system Gofal Cymdeithasol Paris gan gydweithwyr Iechyd a weithiodd yn dda. Fodd bynnag, bydd Iechyd yn defnyddio gwahanol system ac yn y cyfamser maent wedi cytuno i archwilio sut y gellir cyflenwi data perfformiad gan eu system i gefnogi’r data sy’n ofynnol gan Gofal Cymdeithasol.
Bydd angen cefnogaeth ar adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ym mis Mehefin 2016 i’r argymhelliad ein bod yn archwilio modelau amgen o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl.