Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Datblygiad y Fframwaith Sicrhau Ansawdd

Datblygiad y Fframwaith Sicrhau Ansawdd

Nod rhaglen drawsnewid y Gwasanaethau Cymdeithasol yw hyrwyddo integreiddiad a chysondeb ar draws pob Gwasanaeth, cynyddu effeithlonrwydd yn y defnydd o adnoddau, cynyddu annibyniaeth a rheoli risg. Drwy greu’r gwasanaeth Safonau Ansawdd newydd, tynnwyd ynghyd timau presennol o fewn y gwasanaethau plant ac oedolion, gyda’r bwriad o ddatblygu Canolfan Ragoriaeth Safonau Ansawdd; i ymgorffori ymhellach diwylliant o welliant parhaus yn y Gwasanaeth, y Cyngor ac mewn asiantaethau darparu allanol, gyda phwyslais ar godi gwybodaeth diogelu, ansawdd ymarfer a thrwy hynny wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Unwaith y bydd y Gwasanaeth Safonau Ansawdd wedi’i sefydlu’n llawn, y cam allweddol fydd darparu strategaeth a fframwaith ar gyfer prosesau a gweithdrefnau safonau ansawdd.

Beth sydd wedi newid?

Y sbardun allweddol ar gyfer newid yw tegwch safonau ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant. Wrth i wasanaethau Plant wynebu mwy o graffu statudol, yn draddodiadol mae’r broses sicrhau ansawdd wedi bod yn fwy cynhwysfawr nag mewn gwasanaethau Oedolion. Byddwn yn mynd i’r afael â’r anghysondeb hwn drwy ddatblygu fframwaith sicrhau ansawdd a fydd hefyd yn ystyried elfennau allweddol o’r gwasanaethau, fel cyfranogiad a datblygu gweithlu a dysgu.

Darn allweddol arall o waith ar gyfer y gwasanaeth fydd cynhyrchu safonau sicrhau ansawdd mewnol ar gyfer pob maes is-wasanaeth a mecanweithiau monitro i sicrhau bod cynlluniau adborth a gwelliant yn cael eu rhannu a’u cefnogi. Mae datblygu prosesau a gweithdrefnau o’r fath yn gwella ansawdd ar gyfer y sector gofal cymdeithasol gyfan ac yn sicrhau llywodraethu yn gadarn ac yn agored.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English