Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / Rheoli Perfformiad a Busnes / Cynllunio, rheoli a darparu gwasanaethau wedi ei gefnogi gan wybodaeth ddibynadwy ac amserol

Cynllunio, rheoli a darparu gwasanaethau wedi ei gefnogi gan wybodaeth ddibynadwy ac amserol

Er mwyn sicrhau ein bod yn gwella’n barhaus, rydym yn defnyddio gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r gwasanaethau yn perfformio a’r pethau rydym yn eu dysgu wrth wrando ar ein “cwsmeriaid”. Rydym yn dadansoddi’r wybodaeth yma’n rheolaidd ac yn ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau am unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud. Mae hon yn broses barhaus. Mae diwrnodau adborth i staff yn eu hysbysu am gasgliadau o’n harchwiliadau, ac unrhyw dueddiadau mewn perfformiad rydym angen bod yn ymwybodol ohonynt, yn ogystal ag unrhyw gasgliadau wrth ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth.

Diwrnodau Adborth Sicrhau Ansawdd

Cefndir
Mae Sicrhau Ansawdd yng Nghonwy yn golygu monitro a gwerthuso systematig o arferion, polisïau a gweithdrefnau, gyda’r nod o wella ein gwasanaethau i gyflawni canlyniadau gwell i blant a’u teuluoedd a meithrin dealltwriaeth o’u hanghenion. Rhestrodd Adolygiad Cenedlaethol AGGCC 2012 ar gyfer Canlyniadau i Blant mewn Angen, welliannau posibl yn y broses adborth Sicrhau Ansawdd yng Ngwasanaethau Plant yng Nghonwy.

“Serch hynny, roedd y dystiolaeth yn amlwg nad oedd gweithwyr cymdeithasol yn ymwybodol o effaith gweithgaredd rheoli ansawdd. Oherwydd hynny, roedd yr effaith ar safon yr ymarfer proffesiynol yn gyfyngedig.”

Er ein bod yn darparu adroddiadau rheolaidd i reolwyr ynghylch archwiliad, gwybodaeth am berfformiad ac adborth ymgynghori, roeddem angen sicrhau bod yr holl staff yn cychwyn derbyn negeseuon ynghylch gwybodaeth sicrhau ansawdd.

Datblygiad
Rydym wedi ceisio llunio ymagwedd “Rheolaeth Lwyr dros Fframwaith Sicrhau Ansawdd” yn y modd rydym yn cefnogi ymarferwyr. Yn rhan o’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd, rydym yn cynnal diwrnod adborth bob chwarter gydag ymarferwyr. Rydym yn darparu trosolwg o adborth archwiliad y chwarter diwethaf, gwybodaeth am berfformiad ac adborth ymgynghori gan blant a phobl ifanc. Erbyn hyn rydym wedi cwblhau tair sesiwn adborth Sicrhau Ansawdd.

Canlyniadau
Mae’r adborth gan yr ymarferwyr wedi bod yn gadarnhaol ac mae ymarferwyr wedi enwi meysydd i’w gwella gan gynnwys:

  • Yr angen i lunio llyfryn Ymgynghori Plant mewn Angen ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd i annog rhagor o gyfranogiad yn ystod y broses Plant mewn Angen
  • Cais am archwiliad oherwydd y rhesymau am y nifer o ail atgyfeiriadau yng Nghonwy
  • Adrodd yn ôl i’r BLlDP ynghylch ymgysylltiad asiantaethau partner yn ymwneud â phroses gynllunio cychwynnol Plant mewn Angen

Ffeiliwyd dan: Rheoli Perfformiad a Busnes

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English