O dan y cynllun Pan fydda i’n barod, cynigir y bydd dyletswydd parhaus ar yr awdurdod lleol cyfrifol i gefnogi plant “cymwys” i aros gyda’u gofalwr/gofalwyr maeth y tu hwnt i 18 oed, os yw’r person ifanc wedi gofyn am y cymorth hwn. Mae’n cydnabod nad yw pob person ifanc yn barod ar gyfer symud i fyw’n annibynnol yn 18 oed a bydd y trefniadau newydd yn cynnig ymagwedd fwy graddol tuag at gynllunio’r cyfnod pontio i fod yn oedolion, o fewn amgylchedd teuluol ac aelwyd gefnogol.
Hefyd, byddai dyletswydd i symud lleoliad person ifanc er mwyn ei wneud yn ddigon sefydlog cyn eu pen-blwydd yn 18 oed, yn barod er mwyn i’r lleoliad ddod yn drefniant “Pan fydda i’n barod”. Byddai hyn hefyd yn berthnasol i bobl ifanc wedi eu lleolir mewn:
- Cartref Plant
- Mewn gofal maeth pan fydd y lleoliad mewn perygl o chwalu gyda’u gofalwr cyfredol
- Lle byddai’r person ifanc yn dymuno aros mewn lleoliad sefydlog ond nid gyda’u gofalwyr maeth presennol.
- Gofalwyr Maeth
- Pob Person ifanc mewn lleoliadau gyda Pherthnasau
I gynorthwyo gyda gweithrediad y cynllun “Pan fydda i’n barod” yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, cyflawnwyd y camau gweithredu canlynol:
- Datblygu Polisi “Pan fydda i’n barod” Drafft
- Dadansoddiad o Anghenion y Boblogaeth sy’n Gadael Gofal
- Cynhaliwyd arolwg holiadur gyda Gofalwyr Maeth CBSC
- Awdurdod Cynnal ar gyfer y grŵp “Pan fydda i’n barod” Rhanbarthol.
- Cyflwyniad yn y Panel Rhianta Corfforaethol
Yn ychwanegol, mae’r Gwasanaeth Pathway yn gweithio gydag asiantaethau partner i ddatblygu cysylltiadau gyda’r Gwasanaeth Hawliau Lles a chyda Thai o ran sicrhau bod trefniadau pontio yn eu lle o gwmpas cymorth ariannol ac ar gyfer pobl sydd eisiau symud ymlaen o’r cynllun Pan fydda i’n Barod.
Pa wahaniaeth fydd o’n ei wneud?
Bydd y cynllun “Pan fydda i’n barod” yn sicrhau y gall pobl ifanc aros gyda’u cyn-ofalwyr maeth hyd nes y byddant yn barod am fywyd fel oedolion, ac yn gallu profi cyfnod pontio tebyg i’w cyfoedion. Bydd hefyd yn gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal drwy gynyddu eu cyfleoedd ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer annibyniaeth gan gynnwys rheoli tenantiaeth, rheoli arian a dod o hyd i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Ar y cyfan, gwelliant mewn canlyniadau i bobl ifanc sy’n gadael gofal yr awdurdod lleol.