Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2015-16 / Cyflwyniad

Cyflwyniad

Mae eleni wedi bod yn gyfnod arbennig o heriol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ac wrth i mi adolygu’r gweithgarwch gwaith anhygoel rydym wedi cyflawni ac a amlygir yn yr adroddiad, rwy’n gwneud hyn gyda llawer o edmygedd am ymroddiad ac  ymrwymiad ein staff.

Mae’r cyfnod hwn wedi dod â heriau cyllidebol sylweddol a digynsail, ac eto rydym yn parhau i gynnig gwasanaethau o ansawdd da ac wedi buddsoddi yn ein hymagwedd at ddeall beth sy’n gweithio i bobl a gwrando ar lais y cwsmer.

Un maes allweddol lle bu datblygiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf yw sefydlu strategaeth gomisiynu. Rydym rŵan yn falch o fod mewn sefyllfa lle rydym yn ymgynghori â phartneriaid, y cyhoedd a’n cwsmeriaid ac yn gobeithio lansio hyn yn ystod rhan olaf 2016.

Mae adolygu ein gwasanaethau, y galw a’r angen fel rhan o gymal ymchwil ein rhaglen drawsnewid wedi bod yn amhrisiadwy i lywio’r strategaeth gomisiynu ac wedi helpu ein meddwl wrth i ni ddatblygu’r asesiad anghenion poblogaeth rhanbarthol sy’n un o ofynion allweddol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.

Ar ôl llawer o gynllunio a pharatoi daw’r ‘Ddeddf’ i rym ym mis Ebrill ac rydym yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ar gyfer ein staff ochr yn ochr â’n hymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus ar y newidiadau i wasanaethau lleol a rhanbarthol. Bydd y newidiadau allweddol mewn perthynas â gofynion Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac Asesiad sy’n canolbwyntio ar atal. Rydym eisoes wedi datblygu ein tîm Mynediad Conwy i ddiwallu’r gofynion newydd hyn ochr yn ochr â’r defnydd o Dewis, y porth gwybodaeth digidol a dreialwyd yng Ngogledd Cymru.

Un o’r meysydd lle bu cynnydd sylweddol eleni yw’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol yng Nghonwy. Drwy ddyfalbarhad y trefniadau arwain newydd ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn lleol, rydym wedi gallu datblygu nifer o fentrau i sicrhau bod y gwasanaeth mewn sefyllfa dda i gefnogi a helpu unigolion mewn modd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar adferiad a lles.

Mae datblygu Gwasanaeth Lles Cymunedol sy’n cefnogi’r boblogaeth gyfan yn dilyn yr athroniaeth hon ac mae’r manteision rydym yn eu gweld ar gyfer unigolion yn gadarnhaol er y gall fod yn heriol i’w fesur. Rydym yn parhau i adolygu ein perfformiad gan ganolbwyntio ar y meysydd hynny a oedd wedi dangos tuedd tuag i lawr, fel adolygiadau blynyddol o oedolion mewn gofal, prydlondeb asesiadau cychwynnol a chraidd i blant, recriwtio Gofalwyr Maeth a’r rhai hŷn sy’n gadael gofal yr ydym mewn cysylltiad â nhw.

Mae lle i wella, fodd bynnag, bu newid cadarnhaol cyson wrth i ni adael llawer o’r mesurau traddodiadol eleni ac edrych ymlaen at y mesur canlyniadau newydd ar ôl gweithredu’r ‘Ddeddf’. Bydd hyn yn ddiddorol i arsylwi arno wrth i ni ddatblygu trefn wahanol iawn ar gyfer monitro perfformiad a deilliannau ar gyfer unigolion sy’n derbyn ein gwasanaethau.

Yn olaf, rydym yn dod â’n Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol pedair blynedd i ben ac yn symud i gam ‘busnes fel arfer’. Nid oes, fodd bynnag, byth amser i aros yn llonydd wrth i ni edrych at y dyfodol, a’n haliniad cynyddol gyda’r gwasanaethau addysg a’r cyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig.

Jenny-Williams-offical-photoJenny Williams,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Ffeiliwyd dan: 2015-16, Cyflwyniad

Chwilio

Adroddiad 2015-16

Cyflwyniad

ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth

ADRAN 2: Diweddariad am y Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol

ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau

ADRAN 4: Heriau Presennol

ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English