Annibyniaeth yw’r gallu i wneud ein penderfyniadau ein hunain ynglŷn â beth rydym ni eisiau, sut rydym ni’n dewis byw a sut rydym ni’n cynllunio ein dyfodol ein hunain. Mewn byd delfrydol, byddai gan bawb lefel o annibyniaeth i “reoli” eu bywyd. Mae pawb ohonom angen cymorth weithiau i gyflawni hyn, boed yn ddysgu sgiliau newydd, magu hyder i “roi cynnig” ar rywbeth newydd, neu ddysgu o ble gallwn gael cymorth.
Rydym wedi bod yn gwneud hyn yn flaenoriaeth yng Nghonwy i bobl sy’n byw mewn tlodi, drwy brosiectau megis Taith i Waith, ac edrych ar ffyrdd newydd i helpu pobl ifanc i gael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Taith i Waith
Cefndir
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod diweithdra, diffyg addysg a ffordd o fyw afiach yn arwain at bobl sy’n byw mewn tlodi ac yn aml angen cefnogaeth gofal cymdeithasol. Mae rhaglenni gwaith gorfodol yn cael anhawster ymgysylltu â defnyddwyr gofal cymdeithasol, megis rhieni â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, anabledd corfforol neu amhariad synhwyrol, teuluoedd diamddiffyn a phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.
Mewn partneriaeth â 3 o awdurdodau lleol eraill gogledd Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, mae Conwy wedi datblygu prosiect Taith i Waith i roi cyfle i ni archwilio dulliau arloesol, ataliol o weithio y byddai modd ei gynnal gan wasanaethau cymdeithasol ar ôl i’r cyllid ddod i ben.
Beth sydd wedi newid?
Mae Taith i Waith yn dod â meysydd gwahanol o wasanaethau cymdeithasol ynghyd i gefnogi pobl ddiamddiffyn, targedu unigolion 16 neu’n hŷn sy’n byw yn Sir Conwy a’u cefnogi i gynyddu eu sgiliau, symud yn nes at waith a chyflawni eu potensial, drwy ddarparu ystod o weithgareddau wedi’u dylunio i gael gwared ar rwystrau i ymgysylltu.
Mae yna bwynt mynediad sengl ar gyfer pob atgyfeiriad i’r prosiect, caiff atgyfeiriadau eu trafod yn wythnosol i sicrhau bod y gwasanaeth mwyaf priodol yn cael ei sicrhau i gwrdd ag anghenion yr unigolyn, gan gymryd ymagwedd aml asiantaeth ac osgoi dyblygu’r gwasanaeth.
Mae’r tîm yn darparu cefnogaeth un-i-un a grŵp unigryw yn amodol ar yr angen (nid yw un dull yn addas i bawb, yn enwedig gyda defnyddwyr gofal cymdeithasol), ac mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i fagu hyder, hunan-barch ac ysgogiant i gyflwyno trefn i’w bywydau, cyn symud ymlaen i hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd i gael gwaith.
Oherwydd diffyg darparwyr allanol sy’n gallu cwrdd ag anghenion amrywiol defnyddwyr gofal cymdeithasol, mae’r tîm wedi llunio ystod o 12 o gyrsiau ymgysylltu cyfranogwyr lefel isel, ac mae gan 6 ohonynt yr opsiwn i gael eu hachredu.
Yn ogystal mae gennym Swyddog Hawliau Lles sy’n rhoi cyngor ynghylch newidiadau i fudd-daliadau a ‘chyfrifiadau gwell eu byd’, yn ogystal â Swyddog Cyswllt Busnes a Chyflogwr sy’n gweithio â chyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol i’w cefnogi â hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth a’u hannog i ddarparu lleoliadau profiad gwaith ymarferol ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth.
Mae Taith i Waith wedi cefnogi 887 o bobl yng Nghonwy, mae 778 o’r rhain wedi cyflawni canlyniad yn dilyn y gefnogaeth, er enghraifft; dod o hyd i waith, ennill cymhwyster, symud ymlaen i addysg bellach, gwirfoddoli, mynychu cyfweliad, llenwi ffurflen gais neu CV, mynychu’n rheolaidd a magu ysgogiad, hyder a hunan-barch.
Oherwydd y gefnogaeth unigryw, arloesol sy’n cael ei ddarparu gan Brosiect Taith i Waith yn rhan o Raglen Gwaith Amdani yn Sir Conwy, mae nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi lleihau eu hangen am ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Dyfyniadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth.
“Fe fwynheais y cyrsiau yr astudiais, mae Taith i Waith wedi fy helpu i. Fyddwn i ddim yn gweithio heb y cymorth rwyf wedi’i dderbyn!” (rhiant sengl a atgyfeiriwyd gan y tîm Cefnogi Plant)
“Fe fwynheais y cwrs yn fawr iawn a heb eich cymorth chi, fyddwn i ddim yn mynd i’r coleg, yn teithio ar fy mhen fy hun nac yn gweithio’n rhan-amser, diolch i chi am bob dim” (Cyfranogwr a atgyfeiriwyd gan y tîm Iechyd Meddwl)
“Dwi’n teimlo fy mod wedi dysgu bod yn fwy hyderus a phendant, wedi dysgu sgiliau newydd i chwilio am swydd ar-lein yn ogystal â’r dull traddodiadol. Roedd yn ddefnyddiol i ryngweithio â phobl ac i gael rhagor o syniadau am waith. Dwi’n teimlo fy mod yn gwybod beth ‘dwi eisiau ei wneud nesaf.” (Cyfranogwr a atgyfeiriwyd gan y Tîm Anableddau Dysgu)
Secondiad Gyrfa Cymru (effaith ar Unigolion NEET)
Cefndir
Gall fod yn anodd ymgysylltu ag ymadawyr gofal gyda phethau megis addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ond does dim amheuaeth am bwysigrwydd gwneud hynny. Mae ymgysylltu â dysgu a hyfforddiant yn hanfodol os ydi pobl ifanc am gael bywyd llwyddiannus a chyflawni eu llawn botensial.
Ni all un asiantaeth fynd i’r afael â’r mater hwn ar eu pen eu hunain, ac mae staff Gwasanaethau Cymdeithasol angen cydweithio’n agos â chydweithwyr mewn colegau lleol, a chynghorwyr gyrfaoedd, i helpu i leihau’r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Beth sydd wedi newid?
Cafodd Swyddog Gyrfaoedd ei drosglwyddo i’r Tîm Gadael Gofal o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Maent yn cynnal cyfarfod panel misol gan ganolbwyntio ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae ganddynt fynediad uniongyrchol i’r gweithwyr cymdeithasol sy’n cydweithio’n agos â’r unigolyn ifanc.
Mae’r swyddog Gyrfaoedd hefyd yn cydweithio’n agos â’r swyddog hawliau lles i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd economaidd ac addysgol gorau.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae pobl ifanc wedi cael cyfle i fynychu prentisiaethau, a rhaglenni profiad gwaith, ac oherwydd yr ymagwedd gydlynol yma, mae’r nifer o Ymadawyr Gofal nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi gostwng.
Panel NEET
Cefndir
Sefydlwyd Panel NEET ym mis Medi 2013. Mae’r Panel yn fforwm sydd â gorchymyn gan y Bwrdd Rhianta Corfforaethol i ddatblygu, cydlynu, goruchwylio, cyfarwyddo ac adolygu gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal/Ymadawyr Gofal ôl 16, sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth, neu hyfforddiant a’r rhai sydd wedi’u hadnabod sy’n ddiamddiffyn ac sydd mewn perygl o fod yn unigolion NEET.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob dau fis ac yn adrodd yn ôl yn flynyddol i’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol a Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (PPPI), gan gyflwyno’r achos am adnoddau ychwanegol pan fo angen.
Mae’r panel yn gweithio mewn partneriaeth i
- ostwng y nifer o bobl ifanc (Plant sy’n Derbyn Gofal/Ymadawyr Gofal) sydd yn, neu’n debygol o fod yn NEET;
- gweithio tuag at gefnogi rhaglen NEET Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghonwy;
- gwella’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc a’u hysbysu i’w helpu i ddatblygu a darparu systemau cefnogi sy’n galluogi pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial.
Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o sawl asiantaeth allweddol gan gynnwys Adran Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Gyrfa Cymru, Cynghorydd Hawliau Lles, Swyddog Lles Myfyrwyr Grŵp Coleg Llandrillo. Clustnodir cyfnodau o 15 munud i bob Gweithiwr Cymdeithasol Tîm Llwybrau a Chynorthwywyr Personol i drafod rhai o’u cleientiaid sydd yn ddiamddiffyn ac mewn perygl o fod yn NEET.
Mae’r panel yn cynhyrchu cynlluniau gweithredu unigol i bobl ifanc sy’n cael eu hadnabod eu bod mewn risg a/neu ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae’n monitro cynnydd y cynlluniau hyn ac yn cymryd mesurau angenrheidiol i sicrhau llwyddiant.
Rydym yn cofnodi’r canran o bobl ifanc a arferai fod dan ofal y gwyddom eu bod yn derbyn addysg, hyfforddiant neu mewn gwaith yn 19 oed.
Roedd y ffigur yn 50% yn 2012/13, ac mae hyn wedi codi i 75% yn 2013/14. Y cyfartaledd Cymreig yw 56.7%