Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / Diogelu / Cefnogir plant ac oedolion gan staff o bob asiantaeth sy’n deall ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu’n effeithiol

Cefnogir plant ac oedolion gan staff o bob asiantaeth sy’n deall ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu’n effeithiol

Mae angen i’n staff ddeall eu cyfrifoldebau felly’r cam cyntaf yw gosod set glir iawn o safonau a chanllawiau iddynt eu dilyn.

Polisi Diogelu Corfforaethol

Cefndir
Mae Conwy wedi ceisio mabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at sicrhau cydymffurfiad gyda’i gyfrifoldebau diogelu, gan gefnogi’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol statudol, sy’n bennaf gyfrifol am hyn. Bydd Datblygiadau Cenedlaethol o ran swyddogaethau Bwrdd Diogelu aml asiantaeth, gan gynnwys swyddogaethau craffu, yn cael eu cynnal yn amlach ar lefelau isranbarthol a rhanbarthol. Bydd hyn, yn ei dro, yn rhoi rhagor o gyfrifoldeb ar y Cyngor i sicrhau bod ei systemau mewnol yn gweithio’n dda. Bydd datblygu Polisi Diogelu Corfforaethol yng Nghonwy yn rhoi gwell arolygiaeth i’r awdurdod o safon y gwaith sy’n cael ei gynnal o ran diogelu.

 

Datblygiadau
Yn rhan o’r trefniadau llywodraethu mewn perthynas â Pholisi Diogelu Corfforaethol, bydd panel corfforaethol yn cael ei sefydlu. Mae cyfarfodydd cychwynnol y panel eisoes wedi cael eu cynnal.

Prif gyfrifoldebau’r Panel yw sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith er mwyn diogelu plant ac oedolion o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Bydd y Panel yn gweithredu ar lefel strategol er mwyn:

  • Sicrhau Aelodau Arweiniol perthnasol bod gweithdrefnau’r Cyngor yn gadarn o ran materion sy’n ymwneud â diogelu plant ac oedolion
  • Dod â gwaith rhwng adrannau ynghyd yn y maes diogelu a sicrhau cyfathrebu corfforaethol effeithiol
  • Cefnogi swyddogaethau a dyletswyddau’r Cyfarwyddwr Statudol o fewn y Cyngor
  • Datrys unrhyw rwystrau posibl a allai atal gweithdrefnau effeithiol a llwyddiannus rhag bod yn eu lle
  • Adnabod unrhyw fylchau mewn polisïau a chanllawiau corfforaethol, a mynd i’r afael â nhw, gan weithio’n briodol gyda BLlDP a’r Pwyllgor Amddiffyn Oedolion
  • Sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael i swyddogion ac aelodau
  • Derbyn ac ystyried gwybodaeth ynglŷn â thueddiadau mewn perthynas â honiadau o gamdriniaeth broffesiynol, a mabwysiadu cynlluniau gweithredu er mwyn ymateb petai’r angen yn codi
  • Derbyn a herio gwybodaeth am berfformiad diogelu corfforaethol a’r cynnydd yn erbyn rhaglenni gwaith a gomisiynwyd

Cyflwynir adroddiad o’r Polisi Diogelu Corfforaethol i’r Cabinet i’w gymeradwyo’n ffurfiol ym mis Gorffennaf 2014. Mae gennym ddau Grŵp Tasg a Gorffen yn bresennol er mwyn cefnogi gweithrediad y polisi diogelu o ran recriwtio a hyfforddi diogel.

Y canlyniadau rydym yn gobeithio eu cyflawni yw:

  • amlygu’r modd y mae’r Cyngor fel awdurdod lleol yn ymgymryd â’i ymrwymiadau cyfreithiol ym maes diogelu plant ac oedolion
  • rhoi sicrwydd i aelodau’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, Cynghorwyr, gweithwyr a phobl sy’n gweithio ar ran y Cyngor bod trefniadau clir ar waith i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion
  • bod gan staff y Cyngor a Chynghorwyr ganllawiau clir i’w defnyddio pan fydd ganddynt amheuaeth fod plentyn neu oedolyn mewn perygl o niwed

Ffeiliwyd dan: Diogelu

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English