Rydym yn cydnabod yr ymrwymiad ac ymroddiad sydd ei angen i ofalu am rywun, ac rydym wedi bod yn datblygu ffyrdd o helpu i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr yn Sir Conwy.
Mae gofalwyr ifanc yn benodol yn aml yn “cuddio” o fewn ein cymuned, ac rydym wedi bod yn arwain wrth gomisiynu prosiect rhanbarthol newydd i Ofalwyr Ifanc ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi gwella pethau i ofalwyr ifanc wrth iddynt droi’n oedolion, gyda phrosiect “Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc” i bontio’r bwlch.
Prosiect Rhanbarthol Gofalwyr Ifanc
Cefndir
Comisiynodd pob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru wasanaethau gwahanol ar gyfer gofalwyr ifanc, wedi’u cefnogi gan gyllid ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ar ran chwe Awdurdod Gogledd Cymru mewn partneriaeth â’r BIPBC i archwilio’r manteision i wasanaethau a gomisiynir yn rhanbarthol i Ofalwyr Ifanc ar draws Gogledd Cymru. Daeth i’r casgliad bod yna fanteision posibl, cytunodd CBS Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Wrecsam, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bod comisiynu isranbarthol yn gyfle cadarnhaol i gydweithio.
Beth sydd wedi newid?
Bu’r tair sir a BIPBC yn cydweithio ar ymgynghori, gwybodaeth am wasanaethau presennol a chostau, gan gyflwyno manylion gwasanaeth a chytundeb cyfochrog. Fe arweiniodd hyn at ymarfer tendr yn 2013 gyda Sir Conwy yn arwain. Dewiswyd darparwr newydd a chychwynnodd y gwasanaeth newydd fis Ebrill 2014.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Cynhaliodd y darparwyr newydd ddigwyddiad ymgynghori yn ystod y Pasg i drafod enw ar gyfer y gwasanaeth, a chynllunio ar gyfer ac wedi cyfeirio at 50% o’r rhestr aros trosglwyddedig. Mae’r comisiynwyr wrthi’n gweithio gyda’r darparwyr newydd ynglŷn â pherfformiad gan ddefnyddio Cyfrifyddiaeth ar Sail Canlyniadau, a fydd yn cael ei fonitro bob chwarter ac yn cynnwys:
- canlyniadau i ofalwyr ifanc
- mesurau ansawdd gan gynnwys adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth
- canlyniadau y gwasanaeth a gomisiynwyd
- gwella’r broses atgyfeiriad gan gynnwys atgyfeiriadau diogel
- gwella’r broses asesu
Y manteision a ragwelir yw:
- symleiddio gwasanaethau ar gyfer Awdurdodau Iechyd a Lleol;
- gwella cysondeb y gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr Ifanc sy’n symud o un sir ond o fewn y contract;
- gall symleiddio systemau atgyfeirio wneud prosesau’n fwy effeithlon i asiantaethau sy’n atgyfeirio;
- codi safonau’n fewnol a rhannu ymarfer arloesol;
- bydd gan un gwasanaeth mawr ddylanwad ychwanegol i helpu i godi proffil anghenion Gofalwyr Ifanc.
Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc
Cefndir
Daeth adroddiad 2008 “Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc yn y DU” i’r casgliad mai ychydig iawn roedd y mwyafrif o ofalwyr 16-17 oed yn ei wybod am wasanaethau a chefnogaeth i ofalwyr sy’n oedolion sy’n 18 a hŷn, a dywedodd llawer eu bod yn bryderus y byddai’r gefnogaeth maent yn ei dderbyn fel gofalwr ifanc yn dod i ben ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed.
Yn y mwyafrif o achosion, ni fydd Gofalwyr Ifanc yn rhoi’r gorau i ofalu pan fyddant yn troi’n 18 oed, ac mae’n bwysig cydnabod nad yw’r gwasanaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr ifanc yng Nghonwy’n bresennol yn bodoli dros 18 mlwydd oed. I sicrhau bod Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc yn parhau i gael eu gwerthfawrogi, eu cydnabod a’u cefnogi yn eu rôl ofalu, roedd hi’n bwysig sicrhau trosglwyddiad esmwyth o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion drwy ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau parhaol i Ofalwyr Ifanc.
Beth sydd wedi newid?
Ers 1 Ebrill 2012 bu Gweithredu dros Blant a Cynnal Gofalwyr yn cydweithio i bontio’r bwlch rhwng gwasanaethau i oedolion ifanc i sicrhau pan fyddant yn troi’n 18, y byddai’r newid i wasanaethau oedolion yn esmwyth ac y byddai’r gefnogaeth yn parhau nes eu bod yn 24 oed.
Cafodd y prosiect ei hyrwyddo ar draws Conwy i sicrhau bod gofalwyr sy’n oedolion ifanc yn gwybod bod yna gefnogaeth a gwasanaeth ar gael ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed.
Sefydlwyd grwpiau gyda Gweithredu dros Blant yn darparu cymorth â chyflogaeth (gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith), llunio CV, cyfleoedd dysgu a hyfforddi, gwybodaeth a chefnogaeth unigol, gweithgareddau cymdeithasol a hamdden a chefnogaeth gan gyfoedion.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc a fu’n rhan o’r prosiect wedi dweud y bu yna welliant yn safon eu bywyd – hyder, dewis, rheolaeth, annibyniaeth ac iechyd a lles emosiynol a chorfforol.
Astudiaeth Achos
Trosglwyddodd merch 18 oed o brosiect Gofalwyr Ifanc i brosiect Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc. Mae’r ferch ifanc yma wedi bod gyda’r gwasanaeth ers sawl blwyddyn pan gafodd ei thad ddiagnosis cancr y bledren. Bryd hynny, roedd y ddau riant yn gweithio, roedd y teulu’n gallu ymdopi’n iawn ac roedd y ddau blentyn yn llwyddo yn yr ysgol.
Yn fuan ar ôl derbyn y diagnosis, cychwynnodd y teulu fynd ar chwâl, ac mae’r effeithiau yn parhau i fod yn amlwg heddiw. Y tad oedd y rhiant cryfaf – yn gefn i’r teulu bob amser. Cafodd y fam ddiagnosis iselder difrifol ac fe gollodd ei swydd yn fuan wedyn. Yna daeth y problemau ariannol ar ôl colli dau gyflog. Fe aeth y ferch ifanc yn nerfus iawn a bu dirywiad sylweddol yn safon ei gwaith ysgol ac roedd y perthnasau yn y tŷ dan straen ac yn anodd iawn.
Yn anffodus bu farw’r tad dair blynedd yn ôl ac yn sgil hynny dirywiodd y fam i iselder mwy dwys gan droi at alcohol i gael cysur.
Roedd y ferch ifanc yn dibynnu’n drwm ar Brosiect Gofalwyr Ifanc a nawr mae hi’n dibynnu ar brosiect Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc ac mae hi’n parhau i ddarparu llawer o gymorth a chefnogaeth i’w mam sydd yn parhau i ddioddef o iselder difrifol.
O’r prosiect, mae’r Ofalwraig yma sy’n Oedolyn Ifanc wedi manteisio o:-
- Gefnogaeth gan staff ar y prosiect
- Cefnogaeth 1:1 pan fo ei angen
- Dealltwriaeth o’i anghenion fel gofalwr sy’n oedolyn ifanc yn ogystal â darparu amgylchedd diogel i fod yn “laslances hŷn arferol” – i allu chwerthin a chael bwrw ei bol gyda phobl sy’n deall
- Anogaeth gyda’i haddysg ac i wireddu ei breuddwyd o fod yn fydwraig
- Achrediad gan y Brifysgol Ieuenctid am y gwaith sgiliau bywyd a gyflawnwyd
- Y gallu a’r hyder i drefnu digwyddiad codi arian
- Hyder i arwain fforwm myfyrwyr yn ei hysgol uwchradd