- Gall pobl ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaethau sydd ar gael.
- Gwrandewir ar blant ac oedolion, maent yn cael eu deall ac maent yn ganolog i wneud newidiadau i’w bywydau.
- Lle bod pobl yn gymwys, maent yn derbyn ymateb da ac amserol i’w anghenion.
- Mae gan bobl gynlluniau gofal wedi’u diweddaru o safon dda a chynaliadwy i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.
- Cefnogi gofalwyr yn effeithiol fel y gallant fyw bywydau boddhaus ynghyd â’u cyfrifoldebau gofalu.
- Cefnogir pobl i fod mor annibynnol â phosibl, ac i feithrin sgiliau bywyd, gan gynnwys mynediad i wasanaethau cynhwysol a chymunedol, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth.
- Caiff pob plentyn ac oedolyn eu trin yn deg a chaiff eu hamrywiaeth ei barchu a’i hyrwyddo.
Gall pobl ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaethau sydd ar gael
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig ystod eang o wasanaethau i’r gymuned, o blant a’u teuluoedd, ymadawyr gofal, i bobl hŷn, a phobl ag anableddau. Mae’n bwysig i ni bod pobl yn dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau y gallai fod ganddynt hawl iddynt.
Ond nid Gwasanaethau Cymdeithasol yw’r unig ffynhonnell i gael cymorth neu wybodaeth. Mae yna rwydwaith ffyniannus o sefydliadau gwirfoddol a phreifat, grwpiau a gwasanaethau elusennol yn Sir Conwy, ac rydym wedi bod yn chwilio am ffyrdd o wella sut y gallwn rannu’r wybodaeth hon, yn enwedig ym maes Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gwasanaethau cynhwysol ar gyfer cefnogaeth i deuluoedd a chefnogaeth i deuluoedd sydd â phlentyn sydd ag anabledd.
[Read more…]
Gwrandewir ar blant ac oedolion, maent yn cael eu deall ac maent yn ganolog i wneud newidiadau i’w bywydau
Fel unigolion, mae pawb ohonom yn wahanol. Mae gennym hoffterau ac anhoffterau gwahanol, gobeithion gwahanol a breuddwydion gwahanol ar gyfer y dyfodol.
Os fyddwch chi angen cymorth, cefnogaeth neu gyngor gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn ymdrechu am y canlyniad gorau i chi. Er mwyn cyflawni hyn yn iawn, rydym angen deall beth sydd bwysicaf i chi a’ch teulu a sicrhau ein bod yn rhoi cymorth i chi flaengynllunio mewn modd sy’n mynd i wneud y gwahaniaeth rydych chi’n ei ddymuno.
Rydym wedi bod yn gwella’r modd y mae hyn yn digwydd i bobl ifanc ag anableddau, wrth iddynt “drosglwyddo” mewn i fyd oedolion, ac edrych ar ffyrdd arloesol o wrando ar Blant sy’n Derbyn Gofal.
Lle bod pobl yn gymwys, maent yn derbyn ymateb da ac amserol i’w anghenion
Rydym yn deall os oes gan rywun angen gwirioneddol, yna mae o fudd i bawb i sicrhau eu bod yn cael cyngor, gwybodaeth neu gefnogaeth o safon, a’u bod yn ei dderbyn yn gyflym.
Does neb yn hoffi rhestrau aros.
Dau faes ble rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol yng Nghonwy yw ar gyfer Pobl Ifanc (16+) sydd ag anabledd wrth iddynt symud i fyd oedolion, ac ar gyfer Ymadawyr Gofal, rydym wedi gwella cysylltiadau â Hawliau Lles a chyngor gyrfaol. Mae hyn wedi ei gwneud yn llawer haws a chynt i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn unrhyw fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, ac mae’n gymorth iddynt fod yn ymwybodol o’u holl ddewisiadau ynglŷn â pharhau â’u haddysg, ymgymryd â hyfforddiant neu gael swydd.
Mae gan bobl gynlluniau gofal wedi’u diweddaru o safon dda a chynaliadwy i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu
Y ffordd hawsaf i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eich tywys drwy’r newid rydych chi’n chwilio amdano, yw deall beth rydych ei angen. Rydym eisiau i’n staff “roi eu hunain yn eich sefyllfa chi” er mwyn iddynt ddeall sut beth ydyw i chi, a beth sy’n digwydd yn eich bywyd.
Drwy wella’r ddealltwriaeth yma, gallwn greu cynlluniau gofal a fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Mae yna dechnegau defnyddiol iawn y gall ein staff eu defnyddio, megis “Cynllunio ar Sail Canlyniadau” a “cyfweld ysgogiadol”, ac rydym wedi bod yn brysur yn hyfforddi staff yng ngwasanaethau plant a theuluoedd er mwyn defnyddio’r dulliau hyn.
Cefnogir gofalwyr yn effeithiol fel y gallant fyw bywydau boddhaus ynghyd â’u cyfrifoldebau gofalu
Rydym yn cydnabod yr ymrwymiad ac ymroddiad sydd ei angen i ofalu am rywun, ac rydym wedi bod yn datblygu ffyrdd o helpu i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr yn Sir Conwy.
Mae gofalwyr ifanc yn benodol yn aml yn “cuddio” o fewn ein cymuned, ac rydym wedi bod yn arwain wrth gomisiynu prosiect rhanbarthol newydd i Ofalwyr Ifanc ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi gwella pethau i ofalwyr ifanc wrth iddynt droi’n oedolion, gyda phrosiect “Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc” i bontio’r bwlch.
Cefnogir pobl i fod mor annibynnol â phosibl, ac i feithrin sgiliau bywyd, gan gynnwys mynediad i wasanaethau cynhwysol a chymunedol, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth
Annibyniaeth yw’r gallu i wneud ein penderfyniadau ein hunain ynglŷn â beth rydym ni eisiau, sut rydym ni’n dewis byw a sut rydym ni’n cynllunio ein dyfodol ein hunain. Mewn byd delfrydol, byddai gan bawb lefel o annibyniaeth i “reoli” eu bywyd. Mae pawb ohonom angen cymorth weithiau i gyflawni hyn, boed yn ddysgu sgiliau newydd, magu hyder i “roi cynnig” ar rywbeth newydd, neu ddysgu o ble gallwn gael cymorth.
Rydym wedi bod yn gwneud hyn yn flaenoriaeth yng Nghonwy i bobl sy’n byw mewn tlodi, drwy brosiectau megis Taith i Waith, ac edrych ar ffyrdd newydd i helpu pobl ifanc i gael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Caiff pob plentyn ac oedolyn eu trin yn deg a chaiff eu hamrywiaeth ei barchu a’i hyrwyddo
Mae gan bawb ohonom yr un hawliau, ac ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn neb oherwydd eu hoedran, rhyw, rhywioldeb, statws priodasol, ethnigrwydd, dewis iaith neu gredoau gwleidyddol neu grefyddol. Mae’r Strategaeth Stigma yn enghraifft wych o brosiect sy’n seiliedig mewn ysgolion yng Nghonwy sydd wedi bod yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau pobl sydd ag Anableddau Dysgu.
Meysydd i’w Gwella yn 2014-15
- Gweithredu’r cynllun gweithredu Digartrefedd Ieuenctid ar gyfer rhai 16/17 mlwydd oed
- Mynychu ac adrodd yn ôl Fwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ar y Cyd
- Adolygu’r tuedd dros amser mewn perthynas â faint o bobl sy’n mynd i ofal preswyl mewn perthynas â phoblogaeth gyffredinol
- Adolygu’r tuedd dros amser mewn perthynas â faint o bobl sy’n derbyn pecynnau gofal yn y cartref sydd yn fwy na chost wythnosol gwasanaethau gofal preswyl