- Mae Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar waith sydd yn rhoi sail gwybodaeth i ddysgu a datblygiad trefniadol
Read more… - Cynllunio, rheoli a darparu gwasanaethau wedi ei gefnogi gan wybodaeth ddibynadwy ac amserol
Read more… - Mae gan bob aelod staff amcanion sydd wedi’u cysylltu â chynlluniau busnes a blaenoriaethau trefniadol
Read more…
Mae Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar waith sydd yn rhoi sail gwybodaeth i ddysgu a datblygiad trefniadol
Rydym yn ystyried safon ein gwaith yn ddifrifol iawn. Nid faint rydym ni’n ei wneud yn y mae’n ei olygu’n unig, ond pa mor dda rydym ni’n ei gyflawni. Drwy gyfres fanwl o wiriadau ac archwiliadau, rydym yn profi agweddau amrywiol o’n gwaith yn drefnus ac yn rheolaidd ac yna’n mynd ati i wella’r gwasanaeth yn dibynnu ar yr hyn rydym wedi’i ddarganfod.
Yn ychwanegol i’r archwiliadau rheolaidd rydym yn eu cynnal, bu nifer o brosiectau ychwanegol eleni megis gwaith “Ymgysylltu â Thadau”, a darn penodol o waith yn edrych ar yr atgyfeiriadau a ddaw i’r adran Plant a Theuluoedd.
Cynllunio, rheoli a darparu gwasanaethau wedi ei gefnogi gan wybodaeth ddibynadwy ac amserol
Er mwyn sicrhau ein bod yn gwella’n barhaus, rydym yn defnyddio gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r gwasanaethau yn perfformio a’r pethau rydym yn eu dysgu wrth wrando ar ein “cwsmeriaid”. Rydym yn dadansoddi’r wybodaeth yma’n rheolaidd ac yn ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau am unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud. Mae hon yn broses barhaus. Mae diwrnodau adborth i staff yn eu hysbysu am gasgliadau o’n harchwiliadau, ac unrhyw dueddiadau mewn perfformiad rydym angen bod yn ymwybodol ohonynt, yn ogystal ag unrhyw gasgliadau wrth ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth.
[Read more…]
Mae gan bob aelod staff amcanion sydd wedi’u cysylltu â chynlluniau busnes a blaenoriaethau trefniadol
Mae sefydliadau’n aml yn sôn am y syniad o’r “edafedd aur” sy’n cysylltu nodau unigol gyda chynlluniau tîm, i gynlluniau strategol sydd uwch i fyny. Os ydyw’n cael ei gyflawni’n iawn, mae’n golygu bod pob aelod staff yn gweithio tuag at nod gyffredin o fewn eu tîm, a bod y tîm yn helpu i gyflawni rhywbeth sy’n rhan o strategaeth fwy a allai gynnwys asiantaethau eraill.
Mae cyfleu’r syniadau hyn yn ganolog i wneud iddo weithio o fewn sefydliad mawr, i sicrhau bod gan bawb synnwyr eu bod yn “symud i’r un cyfeiriad”. Yng Nghonwy, rydym wedi bod yn datblygu ffyrdd o annog y syniad yma o fewn grŵp staff er mwyn rhoi pŵer i bobl, a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynnwys.
[Read more…]
Meysydd i’w Gwella yn 2014-15
- Byddwn yn cyflwyno Llwybr i Ymagwedd Gofal ar gyfer asesiad o fewn cyd-destun y pecyn a fframwaith asesu newydd fel y cytunwyd gyda LlC. Dylai’r ymagwedd arloesol hon alluogi ystyriaeth effeithiol o’r canlyniadau sydd eu hangen ar gyfer pobl ac asesu llwyddiant defnyddio cymhwysedd ar ôl ail-alluogi yn unig
- Adborth o waith Ansoddol Anableddau Dysgu Cymru ar ganlyniadau
- Gweithio gyda BIPBC i gael dealltwriaeth glir o dderbyniadau heb eu trefnu i Ysbytai Cyffredinol y Dosbarth
- Gweithio gyda BIPBC i ddatblygu gwasanaethau ataliol
- Byddwn yn gweithredu canfyddiadau ein prosiect mynediad i wasanaethau a gweithredu’r argymhellion i sicrhau bod ymateb cymesur yn cael ei dderbyn, a lle y gellir cyfeirio pobl at wasanaethau amgen anstatudol eraill, bod hyn yn cael ei wneud.
- Byddwn yn gweithredu llwybr gofal gyda phartneriaid Iechyd sy’n ystyried taith y claf o’r ysbyty i Ofal Iechyd Gwell, Gofal Canolradd, ail-alluogi ac nid i wasanaethau neu gefnogaeth 3ydd sector.
- I gefnogi pobl gydag Anableddau Dysgu byddwn yn cyflwyno pecyn asesu newydd sy’n canolbwyntio ar allu pobl nid eu hanabledd
- I gefnogi pobl gydag Anableddau Dysgu byddwn yn cyflwyno model dilyniant o ddarpariaeth i leihau gorddarpariaeth a’r cyfyngiadau dilynol mae hyn yn ei greu
- Datblygu dull o gefnogi canlyniadau Defnyddiwr Gwasanaeth a sicrhau cydymffurfiant
- Datblygu Rhwydwaith Plant gydag Anableddau, gan gyfuno Iechyd, Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol i greu un gofrestr o Blant ag Anableddau, ac o hwn, llunio Strategaeth Gyfathrebu gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Dadansoddi ac argymell sut y gellir cynyddu’r nifer o bwyntiau achrediad ar gyfer rhai 16/17 mlwydd oed