- Mae gan y gweithlu y gallu a’r sgiliau i ymateb i anghenion newidiol ein poblogaeth
Read more… - Caiff ein gweithlu ei recriwtio, ei reoli a’i ddatblygu’n effeithiol i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth
Read more… - Cynlluniau ariannol cynaliadwy yn cyflawni amcanion strategol a’r gwerth gorau posibl am arian
Read more…
Mae gan y gweithlu y gallu a’r sgiliau i ymateb i anghenion newidiol ein poblogaeth
Mae’n rhaid i bob math o fusnes ymdrin â chyflenwad a galw – cydbwyso’r hyn y gallant ei ddarparu yn erbyn yr hyn mae pobl ei angen. Yn ystod cyfnod o amseroedd economaidd heriol, mae yna angen mawr i redeg ein gwasanaethau mor effeithlon â phosibl. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gennym ddigon o staff i ddiwallu anghenion a bod y staff wedi’u hyfforddi’n dda, a bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth i wneud y gwaith yn gyflym heb wastraffu amser nac adnoddau.
Weithiau, mae’n rhaid i ni feddwl “y tu allan i’r blwch” a dod o hyd i ffyrdd newydd i wasanaethau gydweithio.
Caiff ein gweithlu ei recriwtio, ei reoli a’i ddatblygu’n effeithiol i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth
Beth bynnag yw maint unrhyw fusnes neu sefydliad, yn fach neu’n fawr, maent angen eu gweithlu. Nhw ydi’r bobl sy’n sydd yn y gwaith o ddydd i ddydd i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau.
Un o’r datblygiadau mwyaf sylweddol o fewn gweithlu Conwy eleni oedd adeiladu rhwydweithiau o gefnogaeth rhwng staff. Mae hyn wedi helpu i ddatblygu a rhannu arfer da, gosod safonau ar gyfer goruchwylio ac weithiau yn fwy anffurfiol, annog timau i gydweithio a bod yn arloesol yn y modd maent yn dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau.
Cynlluniau ariannol cynaliadwy yn cyflawni amcanion strategol a’r gwerth gorau posibl am arian
Mae cyllid yn brin, felly mae’n rhaid i ni fod yn hyderus ein bod yn rhedeg ein gwasanaethau yn ddoeth i sicrhau bod pobl Conwy yn cael gwerth am arian gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym angen cynlluniau ariannol sydd yn addas i’w pwrpas nawr, a chan edrych ymlaen at y dyfodol, i ddiwallu anghenion ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn y gyllideb a roddir i ni. Mae datblygiad paneli amrywiol yng Nghonwy wedi bod yn ddefnyddiol iawn i sicrhau bod gwasanaethau yn gost effeithiol.
Meysydd i’w Gwella yn 2014-15
- Monitro bod gwariant gwirioneddol ar gyfer Gofal Unigolyn Cysylltiedig yn unol â’r gwariant disgwyliedig ar ôl dyfarnu’r achos busnes
- Cynnal dadansoddiad i adnabod sut rydym ni’n darparu adnoddau ar gyfer gofynion yn y dyfodol o ran asesu gallu a chefnogaeth
- Dadansoddi gwariant yn y dyfodol a chyflenwyr gwasanaethau