- Bydd pobl yn gallu darganfod ble a sut i gael gafael ar yr help maent ei angen pan allai rhywun fod mewn perygl
Read more… - Cefnogir plant ac oedolion gan staff o bob asiantaeth sy’n deall ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu’n effeithiol
Read more… - Caiff plant ac oedolion eu hamddiffyn rhag niwed a chamdriniaeth lle bod hynny’n bosibl
Read more…
Bydd pobl yn gallu darganfod ble a sut i gael gafael ar yr help maent ei angen pan allai rhywun fod mewn perygl
Mae diogelu yn fater i bawb. Mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i gadw golwg ar ein teuluoedd, ffrindiau, cymdogion a phobl o fewn ein cymunedau. Os ydym ni’n meddwl y gallai unigolyn fod mewn perygl, mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth i’w wneud, ac wrth bwy i ddweud.
Mewn materion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, mae’r Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant yn chwarae rhan fawr i sicrhau bod gwasanaethau yn gwneud hyn yn dda. Mae Diogelu Oedolion Diamddiffyn (POVA) yn ymwneud mewn modd tebyg â lles oedolion.
Cefnogir plant ac oedolion gan staff o bob asiantaeth sy’n deall ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu’n effeithiol
Mae angen i’n staff ddeall eu cyfrifoldebau felly’r cam cyntaf yw gosod set glir iawn o safonau a chanllawiau iddynt eu dilyn.
Caiff plant ac oedolion eu hamddiffyn rhag niwed a chamdriniaeth lle bod hynny’n bosibl
Mae newidiadau mawr wedi digwydd yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Conwy. Drwy ein Rhaglen Trawsnewid, rydym wedi bod yn edrych sut rydym angen aildrefnu rhai gwasanaethau i leihau’r hollt rhwng adran Plant a Theuluoedd, a Gwasanaethau Oedolion. Diogelu yw un o’r meysydd hynny, ac rydym wedi bod yn symud tuag at uno Diogelu Plant gyda Diogelu Oedolion Diamddiffyn i gydlynu’r ddau yn well, o dan un rheolwr.
Meysydd i’w Gwella yn 2014-15
- Bydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru yn fwy sefydlog ac yn fwy dylanwadol.
- Ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd o brosesau monitro Amddiffyn Plant a Diogelu Oedolion Diamddiffyn
- cydymffurfio ag amserlenni Statudol a Lleol
- safon y cofnodi
- canlyniadau’r broses
- Gweithredu gweithdrefnau recriwtio diogel ar draws y Cyngor
- Cyflwyno rhaglen hyfforddi i’r Cyngor cyfan yn sicrhau ymwybyddiaeth sylfaenol o faterion yn ymwneud â diogelu
- Sicrhau bod materion yn ymwneud â diogelu yn cael eu hystyried mewn cyfarfodydd Corfforaethol a Rhanbarthol gan gynnwys:
- Bwrdd Lleol Diogelu Plant (BLlDP)
- Bwrdd Diogelu Oedolion
- Sicrhau bod rheoli risg yn cael ei ystyried yn elfen gynhenid o’r asesiad, cynllun gofal a’r broses adolygu
- Cydweithio’n well â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc drwy weithdai ar y cyd ac i lunio cynllun gweithredu ar y cyd
- Cynnal sesiwn adroddiad gyda’r heddlu yn dilyn achos a gafodd lawer o sylw a llunio cynllun gweithredu