Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Camau Nesaf ar gyfer Partneriaeth Pobl Conwy a’r Grwpiau

Mae Partneriaeth Pobl Conwy yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyfranogiad plant, pobl ifanc, teuluoedd a rhieni / gofalwyr yn y broses o wneud penderfyniadau ac yn cydnabod manteision gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau.  Bydd Bwrdd Partneriaeth Pobl Conwy a Grwpiau Canlyniadau Conwy yn parhau i wrando ar syniadau defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu gwasanaethau ymatebol ac effeithiol.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein Cynllun Cyfathrebu sy’n dangos systemau a phrosesau i ategu Cytundeb Gweithredol Bwrdd Partneriaeth Pobl Conwy, sy’n gosod egwyddorion ar waith er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o agweddau ymarferol gweithio mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid amlasiantaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

Mae’r bartneriaeth hefyd yn cydnabod pwysigrwydd mewnoli ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, ‘Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’, ac yn gweithio gyda’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd a ffurfiwyd.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Grŵp Canlyniadau Conwy 8 – Rhwydwaith Gofalwyr

Mae’r Rhwydwaith Gofalwyr wedi gweithio gyda’r Tîm Partneriaeth i brynu 2000 o goiniau troliau i’w defnyddio yn ystod sesiynau ‘galw heibio’ Gofalwyr, Wythnos Gofalwyr, Diwrnod Hawliau Gofalwyr ac unrhyw weithgareddau hyrwyddo a gyflawnir gan y Tîm Gofalwyr. Derbyniwyd yr arian gan Grant Gweithgareddau Lles Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd y coiniau troliau yn galluogi Gofalwyr o bob oed i gael mynediad at y rhifau ffôn perthnasol a’r manylion gwefan i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth, cymorth a chyngor pan fo angen, a thargedu Gofalwyr anhysbys gan sicrhau eu bod yn derbyn manylion cyswllt o ran lle i gael y cymorth iawn pan fo angen.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Grŵp Canlyniadau Conwy (7) – Gofal Diwedd Oes

Trefnodd COG 7 ‘Cyfnewid Dysg Arfer Da Gofal Diwedd Oes’ ym mis Mawrth 2016. Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol er mwyn eu hannog i gael yr hyder i ddechrau gan gael sgyrsiau ynghylch eu dymuniadau olaf, a chodi ymwybyddiaeth o ‘Ofal Diwedd Oes’ a ‘Gwasanaethau Profedigaeth’. Cyflwynwyd y wybodaeth ganlynol ar; Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, Byw Nawr/Live Now, ‘DeadSocial’ a Gwasanaeth Diwedd Oes Conwy. Roedd nifer dda yn bresennol yn y digwyddiad, cwblhawyd a rhannwyd adroddiad gwerthuso, a rhestrir rhai o sylwadau cadarnhaol y rhai oedd yn bresennol isod:

 “Byddaf yn mynd â’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Gwasanaeth Diwedd Oes yn ôl at y grŵp. Rydym fel grŵp allan ar y cyrion braidd ac nid ydym bob amser yn cael mynd i’r digwyddiadau hyn, ond rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol i gael gwybodaeth mor gyfoes ag y gallwn i ddarparu gwasanaeth 100%”.

“Gwella fy nghyfathrebu ar farwolaeth a marw – gwella canlyniadau i gleifion”,

 “Byddaf yn cyfeirio fy nghleifion at Dîm Diwedd Oes Conwy”.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Grŵp Cydlynu – Cyfathrebu, monitro, sicrhau ansawdd, ymgysylltu

Mae pob un o Gadeiryddion Grwpiau Canlyniadau Conwy yn aelodau o’r Grŵp Cydlynu, swyddogaeth y grŵp hwn yw canolbwyntio ar gyfathrebu, monitro, sicrhau ansawdd ac ymgysylltu yn ogystal â’u meysydd blaenoriaeth; Y Gymraeg, Gwybodaeth, Cydraddoldeb a Chludiant.

Cytunwyd a chymeradwywyd Cynllun Cyfathrebu sy’n amlinellu dulliau cyfathrebu ac adrodd rhwng amrywiaeth o grwpiau fel y Bwrdd PPI, grwpiau COG a grwpiau tasg a gorffen. Mae trefniadau hefyd yn eu lle i sicrhau bod perthnasau gwaith da yn cael eu sefydlu gyda grwpiau eraill fel y Clystyrau Meddygon Teulu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws pob sector yn Sir Conwy.

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer y grŵp ac mae’n cynnwys cynrychiolaeth dinasyddion er mwyn sicrhau didwylledd, tryloywder ac atebolrwydd. Anfonwyd datganiadau o ddiddordeb i fod yn gynrychiolwyr dinasyddion ac maent bellach wedi cael eu dewis a’u croesawu mewn cyfarfod Grŵp Cydlynu diweddar.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Grŵp Canlyniadau Conwy 5 – Lles Meddyliol, gwella lles emosiynol cadarnhaol ac iechyd meddwl da

Nododd COG 5 nifer o fylchau mewn hyfforddiant o gwmpas lles emosiynol ac iechyd meddwl, cytunwyd ar y dull canlynol:

  • Dull partneriaeth aml-asiantaeth wrth gyflwyno gwasanaeth
  • Targedu staff priodol ar gyfer yr hyfforddiant cywir
  • Sicrhau ei fod yn gost-effeithiol a defnyddio adnoddau presennol gymaint ag y bo modd.

Trefnwyd cyrsiau hyfforddi a’u darparu mewn partneriaeth; Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Chysylltu â Phobl.

  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl – nodwyd ei fod yn gwrs drud, darparwyd y cwrs yn rhad ac am ddim gan bartner achrededig, defnyddiwyd eiddo’r Cyngor a phrynwyd llyfrau adnoddau drwy Grant Gweithgareddau Lles Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Cysylltu â Phobl – Nodwyd angen hyfforddiant penodol o gwmpas gweithwyr rheng flaen sydd angen hyfforddiant a chefnogaeth ar sut i ddelio ag unigolion sy’n bygwth lladd eu hunain tra’u bod ar y ffôn gydag aelodau staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Dangosodd dull partneriaeth COG 5 ganlyniadau cadarnhaol, o ran lleihau costau, gan rannu adnoddau a defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd, ac arbediad ariannol posib o £7280 i’r Awdurdod Lleol.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Grŵp Canlyniadau Conwy 4 – Gofal hirdymor, mae pobl gydag anableddau a chyflyrau cronig yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl

Mae COG 4 wedi cael gwybod am y dirywiad blynyddol yn nifer y bobl ym Mwrdeistref Sirol Conwy sydd wedi manteisio ar Archwiliad Iechyd i Oedolion Cymru ar gyfer unigolion sydd ag Anableddau Dysgu. Roedd Cyd-Gadeirydd COG 4 yn bresennol yn y cyfarfod Clwstwr Meddygon Teulu i dynnu sylw at hyn ym mis Mai. Yn dilyn trafodaeth bellach yn y COG bydd grŵp tasg a gorffen yn cael ei sefydlu i nodi’r rhwystrau rhag manteisio ar Archwiliad Iechyd Cymru. Yn ogystal, bydd y grŵp yn ceisio mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chasglu gwybodaeth yn ystod y broses archwiliad iechyd i lywio gwelliannau mewn gwasanaethau.

Mae’r Grŵp Tasg a Gorffen Chyfathrebu wedi datblygu ‘Canllaw Cyfathrebu Hygyrch’ i hysbysu unigolion a’u trefniadaeth o agweddau ar gyfathrebu sy’n bwysig i’w hystyried pan fyddant mewn cysylltiad â phobl sydd ag anawsterau cyfathrebu. Boed hynny wyneb yn wyneb neu drwy ddulliau eraill o gysylltu, er enghraifft dogfennau, posteri, neu lythyrau ac ati mae’r canllaw hwn wedi ei anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolion ag anableddau; (gan gynnwys nam ar y synhwyrau, byddar neu drwm eu clyw, anableddau corfforol, anableddau dysgu, a chyflyrau cronig). Y camau nesaf ar gyfer COG 4 fydd ymgorffori’r canllawiau o fewn prosesau cyflwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Bwrdeistref Sirol Conwy a hyrwyddo defnydd gyda phartneriaid a sefydliadau aml-asiantaeth eraill. Rhannwyd y canllaw gydag aelodau’r Bwrdd a chafwyd ymateb cadarnhaol iawn.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Grŵp Canlyniadau Conwy 3 – Mae pobl hŷn yn ddiogel ac yn annibynnol

Mae COG 3 yn parhau i weithio ar eu blaenoriaethau; codymau, dementia ac ynysu cymdeithasol. Cynhyrchwyd pecyn gwybodaeth atal codymau, sy’n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer unigolion sydd mewn perygl o gael codymau i’w helpu i aros yn ddiogel ac yn annibynnol. Cynhaliwyd digwyddiad ‘Galw Heibio Dementia’ yn Llanrwst er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhoddodd gyfle i’r cyhoedd gael sgwrs gyda gweithwyr proffesiynol ar ddatblygu Llanrwst fel cymuned gyfeillgar i ddementia yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae’r Grŵp Tasg a Gorffen Unigrwydd ac Ynysu Cymdeithasol yn adolygu sut mae pobl yn edrych ar ymddeol. Amlygodd gwybodaeth a gasglwyd gan y grŵp nifer o enghreifftiau lle mae pobl wedi symud i Gonwy i ymddeol gyda’u partneriaid ond i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill o’r teulu. Mewn rhai achosion efallai y bydd un partner yn mynd yn sâl, neu’n marw sydd felly’n gadael unigolion sydd mewn perygl o gael ei ynysu’n gymdeithasol oherwydd unigrwydd, afiechyd neu leoliad. Yn dilyn hynny mae’r grŵp wedi datblygu dau holiadur er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae pobl yn cynllunio ar gyfer eu hymddeoliad. Un ‘holiadur cyn ymddeol’ i ddarganfod a yw pobl yn cynllunio, pa oedran, ac am beth. Mae’r holiadur arall ‘ar ôl ymddeol’ i gael dealltwriaeth o safbwyntiau’r rhai sydd eisoes wedi ymddeol. Bydd y canlyniadau’n galluogi cyflogwyr a gweithwyr i gael dealltwriaeth o realiti ymddeoliad, nid yn unig yr elfen ariannol, ac annog unigolion i ystyried, cyn iddynt ymddeol, agweddau emosiynol a lles eu bywydau yn y dyfodol.

Ffeiliwyd dan: ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Grŵp Canlyniadau Conwy 2 – Atal afiechyd ac annog byw yn iach ac yn egnïol

Mae COG 2 yn parhau i gefnogi nifer o flaenoriaethau sy’n gysylltiedig ag arferion byw’n iach yng Nghonwy a chefnogi ‘Sgrinio am Oes’, ‘Ymgyrch Ffliw’ a’r mentrau rhoi’r gorau i ysmygu canlynol; ‘Stoptober’ yng ngweithleoedd Bwrdeistref Sirol Conwy, ‘Diwrnod Dim Smygu’ Sefydliad Prydeinig y Galon a’r ymgyrch ‘Quit for you and Quit for Them’.

Darparwyd hyfforddiant ymyriadau byr ysmygu a hyfforddiant atal alcohol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda chleientiaid sydd am roi’r gorau i ysmygu neu yfed llai o alcohol. Cytunodd y rhan fwyaf o’r rhai a oedd yn bresennol yn gryf bod yr hyfforddiant yn bodloni eu disgwyliadau. Amlygodd cyfranogwyr rai o’r sylwadau canlynol;

 “Rwy’n gweithio fel Therapydd Galwedigaethol ac yn ddiweddar roedd erthygl yn ‘OT News’ ynghylch: swyddogaeth OT i gynorthwyo i  roi’r gorau i ysmygu – amserol iawn – teimlo y gallaf ddefnyddio technegau a addysgwyd!”

 “Da iawn, cwrs i ysgogi’r meddwl”

 “Dysgais gymaint heddiw ac yn teimlo fy mod wedi cael llawer gwell dealltwriaeth o’r anawsterau a wynebir wrth roi’r gorau i ysmygu”

 “Mae’r cerdyn crafu alcohol yn adnodd gwych”

Dewisodd Cyngor Ieuenctid Conwy iechyd rhywiol fel blaenoriaeth ac maent wedi gweithio gyda COG 2, anfonwyd arolwg i ysgolion a cholegau ar ddarpariaeth iechyd rhywiol ac addysg a chafwyd dros 500 o ymatebion. Holwyd nifer o gwestiynau am wahanol themâu gan gynnwys gwybodaeth, rhyngweithio atal cenhedlu gyda gweithwyr proffesiynol ac addysg;

 “A oes gennych chi unrhyw syniadau am yr hyn a fyddai’n eich gwneud yn fwy cyfforddus gyda mynd i weld gweithwyr meddygol proffesiynol ynglŷn â’ch iechyd rhywiol?

  • Bod yn fwy sicr o gyfrinachedd (31) 36%
  • Dim man aros cymunedol neu amseroedd aros cyflymach (12) 14%
  • Doctor o’r un rhyw (11) 13%
  • Doctor digynnwrf (9) 10%
  • Mynd ar eich pen eich hun (5) 6%
  • Mynd gyda ffrind neu deulu (6) 7%
  • Doctor nad yw’n beirniadu (5) 6%
  • Ei wneud yn bwnc mwy agored, siarad am y peth mewn addysg (4) 5%

Y prif ganfyddiad a nodwyd gan y bobl ifanc oedd materion cyfrinachedd, cynhyrchodd Cyngor Ieuenctid Conwy boster ac mae hwn wedi cael ei rannu gydag ysgolion, fferyllfeydd a Meddygfeydd, cynhyrchwyd ffilm fer yn dilyn eu taith ac mae ar gael ar YouTube:

https://www.youtube.com/watch?v=k6t2BNOj-Og&feature=youtu.be

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Grŵp Canlyniadau Conwy 1 – Plant a Phobl Ifanc

Mae COG 1 yn parhau i weithio ar eu hardaloedd, mae eu haelodaeth wedi cael ei adolygu a pherthnasau gwaith newydd wedi eu sefydlu. Y camau nesaf ym mis Medi 2016 yw adolygu’r cynllun a’r blaenoriaethau gwasanaeth presennol, a chynnal gweithdy gydag aelodau o COG 1 ac is-grwpiau i ystyried a chytuno ar ffrydiau gwaith newydd.

Comisiynwyd y Grŵp Tasg a Gorffen Prydau Ysgol am Ddim wedi i fwlch gael ei nodi yn nifer y prydau ysgol am ddim a fanteisiwyd arnynt o’i gymharu â hawl yn ysgolion Conwy.  Cyflwynwyd dull ysgol gyfan ‘Ein Cinio Ysgol’ er mwyn bod yn holl gynhwysol, osgoi stigma a sicrhau bod ysgolion yn ymateb i’r Mesur Ysgolion Iach (Cymru) 2009.

Ymgynghorwyd gyda Phenaethiaid, Cyngor Ieuenctid Conwy, a gweithiwyd gyda’r Grŵp Gweithredu Maeth Ysgolion / Bwyd o Bwys (SNAG / BOBS) sy’n fentoriaid sy’n rhannu gwybodaeth a sgiliau ynghylch bwyta’n iach mewn ysgolion.

Mae gwaith y Grŵp wedi dangos bod y dull cynhwysol sy’n cynnwys yr holl fudd-ddeiliaid yn cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol, yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael gwell dealltwriaeth ynghylch bwyd, maeth a lles i gynyddu eu datblygiad eu hunain ar gyfer y dyfodol.

Mae hefyd yn cyfrannu at leihau gordewdra a chynyddu cyrhaeddiad.

Wedi hynny, enwebwyd Adran Arlwyo Conwy fel un o’r 7 Gwasanaeth Arlwyo sydd wedi gwella fwyaf ar lefel cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2015, trwy’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Roedd hyn o ganlyniad i % uwch (1.8%) o ddisgyblion cynradd yn manteisio ar bryd ysgol am ddim yn 2014/15 (82.3%), o’i gymharu â 2012/13 (80.5%). Rhannwyd gwybodaeth gyda Bwrdd Partneriaeth Pobl Conwy a COG 1 a byddwn yn parhau i fonitro’r nifer sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim.

I gael gwybod mwy am waith SNAG / BOBS yn un o’u Sesiynau Coginio yn Ysgol y Creuddyn gyda David Preston, Cogydd dan Reolaeth, Ysgol Y Creuddyn;

https://www.youtube.com/watch?v=Ho4fofhM8us

 

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Partneriaeth Pobl Conwy

Mae Partneriaeth Pobl Conwy yn bartneriaeth wedi’i hadlinio yn sgil uno Partneriaethau Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc a Cydbartneriaeth Ardal Conwy yn seiliedig ar ganllawiau gan gynllun ‘Cydamcanu – Cydymdrechu’ Llywodraeth Cymru ar integreiddio partneriaethau a chynlluniau.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bwrdd Partneriaeth Pobl Conwy ym mis Ebrill 2015, mae’r bwrdd yn cynnwys partneriaid allweddol traws-sector strategol aml-asiantaeth i weithio ar egwyddorion a blaenoriaethau a rennir. Mae gwaith y Bartneriaeth yn hysbysu ‘Cynllun Integredig Sengl Un Conwy – Gweithio Gyda’n Gilydd am Ddyfodol Gwell’. Cynorthwyo i gyflenwi’r Grwpiau Deilliant Conwy (COGs) a sefydlwyd nifer o grwpiau tasg a gorffen. Mae rhai o lwyddiannau’r grŵp eleni yn cael eu rhestru isod.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English