Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Datblygu Polisi

Datblygu’r rhaglen Diogelu Oedolion

Gallu cyfyngedig sydd gan yr Uned Ddiogelu i ddatblygu’r gwaith o gwmpas Diogelu Oedolion ac mae hwn yn faes blaenoriaeth dros y 12 mis nesaf.

Gweithredu’r Model Arwyddion Diogelwch yn y prosesau Cynhadledd Achos

Mae’r Uned Ddiogelu yn ystod camau cyntaf y gwaith o gyflwyno’r broses ymagwedd SOS at Gynadleddau. MaeHunan Esgeulustod / Celcio

Cafwyd dau achos anodd eleni sydd wedi tynnu sylw’r gwasanaeth at yr angen i ddatblygu ein gwybodaeth am, a’r sgiliau wrth weithio gyda phobl sy’n hunan-esgeuluso ac yn celcio.

 

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 4: Heriau Presennol

Mentrau arfer newydd

Sefydlu cynllun “Pan Fydda i’n Barod” (WIR) erbyn 1 Ebrill 2016

Roedd yn rhaid i bob Awdurdod Lleol baratoi cynllun WIR erbyn 1 Ebrill 2016. Datblygwyd gwaith rhanbarthol a lleol sylweddol er mwyn paratoi ar gyfer y ddyletswydd newydd hon.

Creu Strategaeth Llety a Chymorth ar gyfer Gadael Gofal

Nid oes gennym lety / cefnogaeth addas ddigonol ar gyfer rhai sy’n Gadael Gofal ac mae angen i ni leihau nifer y llety Brecwast Gwely dros dro rydym yn cael mynediad iddo i’r rhai sy’n Gadael Gofal ac adeiladu portffolio o leoliadau yn seiliedig ar y dadansoddiad o anghenion a’r Strategaeth ddiwygiedig.

Heriau wrth gyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd integredig.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghonwy yn parhau i fod yn heriol o amgylch y rhyngwyneb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cafodd hyn ei ddwysáu yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig mae’r Bwrdd Iechyd yn destun iddo a’i strwythurau staff dros dro.

Mae materion lluosog ynghylch amrywiad mewn gweithdrefnau mynediad a rheoli – o wahanol fodelau o Wasanaethau Triniaeth yn y Cartref a mynediad i welyau cleifion

Mae cofnodi a chyfathrebu cofnodion cleifion hefyd wedi bod yn faes pryder a dylai’r system TG Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig yn y dyfodol helpu hyn. .

Mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud i sicrhau bod prosesau comisiynu cadarn bellach yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer gan sicrhau bod gostyngiad yng ngorwariant presennol y gyllideb Gofal Cymdeithasol wrth symud ymlaen.

Mae gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn Gofal Cymdeithasol yn gweithio gyda’r tîm Gofal Iechyd Parhaus o fewn y Bwrdd Iechyd i ddatblygu protocol Adran 117 a fydd yn penderfynu ar lefelau priodol y cyllid a fydd yn cael ei ddosrannu i’r ddwy ochr.

Yn dilyn codiad yn y nifer o achosion o hunanladdiad dros y cyfnod yn arwain at 2015, amlygodd adolygiad digwyddiad critigol bryderon difrifol.

Mewn ymateb i’r pryderon, sefydlwyd cyfarfod gwelliant rheolaidd ar y cyd ar gyfer rheolwyr o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd wedi creu newidiadau cadarnhaol o ran goruchwylio a chynefino.

Fodd bynnag, mae materion sylfaenol a systemig yn parhau i fod yn rhwystr sy’n atal i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd weithio gystal ag y gallant ar hyn o bryd.

Newidiadau i ofynion adrodd

Mae’r Ddeddf newydd wedi cyflwyno newidiadau mawr o’r wybodaeth am berfformiad a gasglom mewn gofal cymdeithasol.  Bydd rŵan yn ofynnol i ni adrodd ar 5 adran gwybodaeth sy’n ymwneud a gofal cymdeithasol oedolion:

  • Mesurau perfformiad sy’n ystyried pethau fel bodloni amserlenni statudol
  • Asesiadau – y nifer o bobl rydym yn asesu ar wahanol gyfnodau
  • Gwasanaethau
  • Ffioedd
  • Diogelu

Mae 4 adran sy’n mynd i’r afael â gofal cymdeithasol i blant:

  • Mesur Perfformiad
  • Gofal a Chymorth
  • Asesiadau
  • Amddiffyn Plant

Mae’r heriau y mae hyn yn creu yn cynnwys gwneud yn siŵr ein bod yn cofnodi’r holl wybodaeth sydd ei hangen i gasglu’r setiau data hyn, ysgrifennu adroddiadau newydd i dynnu’r wybodaeth gywir o’n cronfa ddata, a phrofi, er mwyn sicrhau bod y data’n gadarn.  Ynghyd â hyn, rydym yn ymgynghori â budd-ddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod am ac yn deall y newidiadau.

Rydym hefyd yn trafod gyda’n cydweithwyr pa rai o’r hen fesurau y gallwn eu gadael ar ôl, pa rai mae angen i ni eu cadw, a pha un o’r rhai newydd y bydd angen i ni dyrchu am wybodaeth bellach, i gyfoethogi ein gwybodaeth.

Mae hefyd agwedd ansoddol i’r wybodaeth a gesglir, a bydd angen adnoddau sylweddol i gydlynu.

Heriau dros y flwyddyn i ddod ar gyfer Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth

Gyda gweithrediad y SSWBA, mae’r gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth (FS&I) yn wynebu’r her sylweddol o annog adnoddau presennol i gydymffurfio ag egwyddorion y ‘rhaglen ataliol’.   Mae atal yn y lle cyntaf yn cyfeirio at yr heriau a gyflwynir o ran grymuso teuluoedd i wneud newidiadau i ddechrau trwy Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac er na fydd FS&I o reidrwydd yn arwain ar y gwasanaethau hyn bydd rhyngwyneb pwysig i’w ddatblygu gydag asiantaethau partner, yn enwedig y Tîm o Amgylch y Teulu (TAF), Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg ac Iechyd.

Pan fydd teuluoedd yn bresennol gydag anghenion a aseswyd sydd angen gofal a reolir, bydd yn rhaid i FS&I ddarparu pecynnau gofal a chymorth effeithiol gyda’r nod o hwyluso newid a dilyniant gyda chanlyniadau clir sy’n seiliedig ar ganlyniadau gan atal gwaethygiad drwy’r gwasanaethau i ymyriadau ‘pen uchaf’ drwy’r achosion amddiffyn plant a gofal.

Pan fydd achosion gofal yn ymddangos yn anochel, mae FS & I wedi ymrwymo i archwilio pob opsiwn i leoli plant mewn amgylchedd teuluol yn gyntaf oll gyda theulu a ffrindiau a dim ond pan nad yw hyn yn bosibl drwy Ofal Maeth a mabwysiadu.

Er mwyn ymateb yn effeithiol i’r newidiadau mewn deddfwriaeth a chodau ymarfer, bydd angen i’r gwasanaeth adolygu adnoddau presennol yn fewnol a datblygu gweithlu medrus i ateb yr her a hyrwyddo egwyddorion atal a grymuso.  Gan gynnwys yn y cynllun gwasanaeth i gyflawni newid:

  • Datblygu prosesau asesu syml a chymhleth yn lleol a chyfrannu at ddatblygiadau rhanbarthol a chenedlaethol
  • Gweithredir pecynnau Gofal a Chymorth yn ôl angen a asesir
  • Adolygu’r strwythur presennol i sicrhau bod y gweithlu’n cael ei defnyddio’n effeithiol i gwrdd ag anghenion y plant a’u teuluoedd i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer newid cadarnhaol
  • Gwella sgiliau’r gweithlu i ddarparu ymyriadau effeithiol a gweithio gyda theuluoedd drwy ymagweddau sy’n seiliedig ar ganlyniadau a phartneriaeth
  • Datblygu offer cyfranogi i sicrhau bod llais y cwsmer yn cael ei glywed ac yr ymatebir iddo ac yn gallu llywio arfer a darpariaeth gwasanaeth
  • Datblygu fforymau partneriaeth gydag asiantaethau partner er mwyn cryfhau gwaith integredig
  • Gwerthuso ac adolygu effeithiolrwydd y gwasanaeth ac ymyriadau yn barhaus

Mae’n anochel mai’r her fwyaf sylweddol ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol fydd creu’r gallu i gymryd yr amser am seibiant o amserlenni gwaith bob dydd, i fyfyrio ac ystyried mentrau arferion newydd i ymateb i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth o fewn tirlun sy’n newid.  Fel gwasanaeth sy’n esblygu mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau y gellir hwyluso’r elfen hon o’r datblygiad drwy fodelau goruchwyliaeth, diwrnodau tîm a chyfleoedd datblygu gwasanaethau.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 4: Heriau Presennol

Staffio – defnyddio adnoddau presennol

Pob Gwasanaeth Anabledd Rheng Flaen

Mae recriwtio staff addas yn fwyfwy o broblem ar gyfer swyddi cymorth cymunedol rheng flaen, gydag ychydig iawn o ymgeiswyr am swyddi a hysbysebwyd.

Adlinio’r Gwasanaeth Anabledd

Adlinio’r timau, rheoli newid, ansicrwydd i staff, rhoi cyfrif am ddewisiadau staff ac ymdrechu i gyflawni hyn ar eu cyfer yn deg ar draws y gwasanaeth.

Sicrhau bod y gweithlu wedi’u hyfforddi i gyflawni’r Ddeddf

Gallu hyfforddwyr ar y fframwaith hyfforddi genedlaethol i hyfforddi’r gweithlu yng Nghonwy.

Dysgu a Datblygu Rhanbarthol

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau un cynllun Dysgu a Datblygu ar gyfer rhanbarth gyfan Gogledd Cymru, drwy Bartneriaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP).

Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid

Daeth Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn gyfraith ar 1 Ebrill 2009. Eglurodd Dyfarniad y Goruchaf Lys ar 19 Mawrth 2014 y trothwy Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Mae’r meini prawf wedi lleihau’n fawr, sydd wedi effeithio ar allu Conwy i fodloni ei ofynion cyfreithiol statudol. Effaith y dyfarniad yw bod bellach rhestr aros o 337 o bobl yn aros am asesiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. Disgwylir i nifer y bobl yr amcangyfrifir eu bod angen asesiad Diogelu Rhag Colli Rhyddid gynyddu’n raddol o flwyddyn i flwyddyn yn unol â thueddiadau demograffig.

Mae Conwy wedi ymateb trwy hyfforddi deuddeg o weithwyr proffesiynol Gwaith Cymdeithasol / Therapi Galwedigaethol i gynnal asesiadau. Mae’n rhaid i bob asesydd gynnal un asesiad y mis, mae hyn yn ychwaneg i’w llwyth achosion arferol ac mae’n cynnwys chwe asesiad unigol fesul pob defnyddiwr gwasanaeth. Mae tri Asesydd Lles Gorau parhaol yn derbyn hyfforddiant ym Mhrifysgol Caer. (yn Graddio ym mis Mai 2016). Mae’r Aseswyr hyn yn ymroddedig i’r gwasanaeth Diogelu Rhag Colli Rhyddid.

Ni ellir diwallu gofynion cyfreithiol newydd y gyfraith achosion yn y tymor byr oherwydd diffyg adnoddau ac mae hyn yn gadael yr adran agored i her ymgyfreitha gan deuluoedd ac oddi wrth bobl sydd wedi cael eu hamddifadu o’u rhyddid heb i unrhyw fesurau diogelu cyfreithiol gael eu gweithredu.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

O dan y Ddeddf newydd, bydd yn her i sicrhau dull cyfiawn a theg i’r bobl hynny sydd wedi bod yn derbyn gwasanaethau ers peth amser, ac yn ogystal, rhai a fydd yn dod yn ddefnyddwyr gwasanaeth newydd ar ôl mis Ebrill.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 4: Heriau Presennol

Heriau Ariannol

Gostyngiad yn y grant Teuluoedd yn Gyntaf a’r Grant LAP ar gyfer Dechrau’n Deg

Bu gostyngiad o 11.7% yn y grant ar gyfer 2016-17 sy’n arwain at golli rhywfaint o wasanaethau (Swyddog Cyfranogiad dan ymgynghoriad) ynghyd â gostyngiad yn y grant o dan CLG ar gyfer cyflawni allanol. Mae hwn yn gyfnod heriol i Gwaith Amdani / Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf.

Mae’r toriad yn y LAP (grant Chwarae ac Iaith) yn arwain at golli athro gwych sydd ar hyn o bryd yn gwneud y gwaith hwn ar ran Dechrau’n Deg.

Gwasanaethau Teg

Mae cael timau wedi eu hadlinio i greu Gwasanaeth Anabledd, y dyraniad adnoddau anghyfartal yn parhau i fod yn her yn enwedig rhwng pobl ag Anableddau Corfforol a / neu nam ar y synhwyrau a phobl ag Anableddau Dysgu.

Rheoli Adnoddau

Mae’r gyllideb Gofal Cymdeithasol yn wynebu heriau na welwyd o’r blaen. Mae mwy o alw ar draws pob maes gwasanaeth a arweiniodd at orwariant o dros £1 miliwn wrth gau’r cyfrifon ar gyfer 2015/16.

Mae amrywiaeth o ffactorau wedi achosi hyn, adroddwyd ar lawer ohonynt drwy’r broses wleidyddol yn 2015/16. Fodd bynnag, effeithiodd ystod o gostau ychwanegol ymhellach ar y canlyniad cyffredinol ar gyfer 2015/16. Roedd yr adran yn ystod misoedd olaf 2015/16 wedi rhagweld y cynnydd yn y gorwariant ac roedd y cyfle i ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn yn ateb.

Mae cyllideb 2016/17 dan bwysau pellach, gan fod rhaid iddo gytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer y sector gofal preswyl, cartref a byw â chymorth (24/7) hyd at £0.75m, yn ychwanegol at y cyllid sydd ar gael drwy achosion busnes.  Effeithir ymhellach ar y prosiectau byw â chymorth (24/7) yn sgil cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol (CBC). Mae’n amlwg bod y penderfyniad polisi a gymerwyd yn genedlaethol i gyflwyno’r CBC wedi cael canlyniadau ariannol sylweddol yn lleol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn unigryw i Gonwy.

Yn ogystal, bu cynnydd yn y galw am leoliadau annibynnol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC), gyda’r sector annibynnol sy’n ceisio sicrhau cynnydd mewn ffioedd o ganlyniad i’r Cyflog Byw Cenedlaethol.  Mae’r ddau ffactor yma yn creu pwysau ychwanegol ar y gyllideb a rhagwelir gorwariant.

O ran Plant sy’n Derbyn Gofal, mae’r pwysau’n ganlyniad i ddiffyg argaeledd lleoliadau maeth yn y sir ac o fewn darparwyr annibynnol ar draws y rhanbarth. Oherwydd y diffyg hwn o ddewis o leoliadau, mae weithiau angen rhoi rhai pobl ifanc mewn lleoliadau preswyl cost uwch, yn enwedig lle mae ymddygiad yn gwaethygu ac na all Gofalwyr Maeth ddiwallu eu hanghenion. Derbynnir y bydd cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol, gobeithio, yn mynd i’r afael â rhai o’r materion recriwtio a chadw staff yn y sector ac yn ei gwneud yn sector mwy deniadol i weithio ynddi. Yn ei dro, gobeithio y bydd hyn yn cynorthwyo gyda’r ymdrech i wella ansawdd a chynaliadwyedd. Fodd bynnag, arweiniodd y gwahaniaeth rhwng yr achosion busnes a gytunwyd a’r cyllid sydd ei angen ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol at ddiffyg ynddo’i hun.

Mae’r adran wedi elwa o gyllid ychwanegol drwy’r llwybr achosion busnes at y swm o £6.2 miliwn dros y 5 mlynedd diwethaf ac wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd o £9.4 miliwn fel rhan o ymgyrch effeithlonrwydd cynghorau dros yr un cyfnod.

O 1 Ebrill 2016 mae arbedion effeithlonrwydd gwerth £1.436 miliwn a gymeradwywyd gan y Cyngor ar gyfer 2016/17 wedi cael eu tynnu oddi ar y gyllideb. Bydd methiant i gyflawni unrhyw un o’r mentrau hyn ond yn cynyddu gorwariant yr adran ymhellach.

Bydd y sefyllfa’n gwaethygu yn 2017/18 gyda chynnydd pellach a’r galw a ddisgwylir o fewn y gwasanaeth. Y senario waethaf bosibl o ran y Cyflog Byw Cenedlaethol yw y bydd yn codi i £9.00 yr awr ym mis Ebrill 2017 a fyddai’n gosod galwadau ychwanegol o £2.3 miliwn ar gyfer Cartrefi Preswyl / Nyrsio, £1.05 miliwn am Ofal Cartref a £1.2 miliwn ar gyfer Byw â Chymorth. Mae hyn yn ychwaneg i’r diffyg adnoddau posibl ar gyfer 2016/17 a fydd yn cael ei ddwyn ymlaen a bydd y sector gofal yn profi pwysau pellach o ganlyniad i fentrau eraill y cyngor.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 4: Heriau Presennol

Heriau Presennol

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn parhau i fod yn gymhelliant mawr dros newid. Llwyddodd ein rhaglen drawsnewid i ailddiffinio ein strwythurau gwasanaeth i’w halinio’n well i gwrdd ag anghenion y Ddeddf, ac rydym rŵan ar bwynt lle mae gwasanaethau sefydledig yn ceisio gwneud y gorau neu gydbwyso eu hadnoddau yn erbyn y galw, ac mae gwasanaethau newydd yn datblygu modelau gwaith effeithiol, sy’n briodol i anghenion pobl.

Gellir grwpio ein heriau presennol mewn pedwar categori:

  • Heriau ariannol yn erbyn y galw newydd
  • Staffio – defnyddio adnoddau presennol
  • Mentrau arfer newydd
  • Datblygu Polisi

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 4: Heriau Presennol

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English