Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cynhaliwyd trafodaethau o fewn yr adran ynghylch y broses Oedolyn Mewn Perygl. Cydnabuwyd nad oedd yn gynaliadwy i gael un cydlynydd POVA sydd â chyfrifoldeb Rheolwr Arweiniol Dynodedig dros gant o achosion Oedolyn mewn Perygl ar unrhyw adeg benodol. Edrychwyd ar nifer o opsiynau ynghylch swydd y cydlynydd POVA, ond o ystyried y cyfarwyddyd cenedlaethol a rhanbarthol, gwnaed y penderfyniad i ail-ddylunio swydd-ddisgrifiad y Cydlynydd POVA a rhoi mwy o bwyslais ar swydd y Rheolwyr Adain / Tîm o fewn y broses Oedolion mewn Perygl.
O fis Mai 2015, cymerodd y Rheolwyr Adran / Tîm gyfrifoldeb arweiniol mewn perthynas â’r Broses Oedolion mewn Perygl. Cafodd swydd y Cydlynydd POVA ei hailgynllunio i fod yn Gydlynydd Amddiffyn Oedolion, gyda’r tasgau allweddol canlynol:
- Monitro ansawdd, archwilio a gwerthuso gwaith Rheolwyr Adain / Tîm yn y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol
- Cynhyrchu dangosyddion perfformiad ar y ffurf ofynnol i gefnogi hyn i’r gwasanaeth ac i Lywodraeth Cymru.
- Darparu adroddiadau chwarter blwyddyn ar berfformiad, themâu a thueddiadau sy’n ymwneud â’r gweithgareddau diogelu ac amddiffyn.
- Gweithio gydag aelodau o staff mewnol, gan gynnwys Rheolwyr Adain ac asiantaethau partner a darparu cyngor ac ymgynghori ar faterion Diogelu Oedolion
Cefnogi Rheolwyr Adain / Tîm yn eu swyddi, mae’r adran wedi comisiynu hyfforddiant arbenigol ynghylch Cadeirio Cyfarfodydd Oedolion mewn Perygl. Cyflwynwyd yr hyfforddiant hwn ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni. Fel rhan o’r Gwaith Sicrhau Ansawdd a gynhaliwyd gan yr Uned Diogelu, archwiliwyd atgyfeiriadau Oedolion mewn Perygl pan mai’r penderfyniad oedd Dim Gweithredu Pellach.
Roedd yr archwiliad yn canolbwyntio ar y meysydd proses ac arfer canlynol:
- Gwerthusiad Cychwynnol
- Rhesymeg dros Wneud Penderfyniadau
- Cofnodi Achosion
At ei gilydd, archwiliwyd 344 achos, lle mai penderfyniad POVA oedd Dim Gweithredu Pellach. Archwiliwyd y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2015 a 31 Rhagfyr 2015.
Crynodeb Cyffredinol o’r Canfyddiadau
- Dim ond mewn un o’r 344 o achosion a archwiliwyd yr anghytunodd yr archwilydd â’r penderfyniad i beidio â dilyn y broses POVA a threfnu Cyfarfod Strategaeth.
- Roedd nifer o’r atgyfeiriadau POVA a wnaed yn amhriodol. Nodwyd bod nifer o’r atgyfeiriadau a wnaed gan Ddarparwyr Gofal yn ymwneud â materion Ansawdd a Gofal.
- Nid yw nifer sylweddol o atgyfeiriadau yn cynnwys gwybodaeth ynghylch gallu, categori cam-drin ac os oedd y Defnyddiwr Gwasanaeth yn ymwybodol o’r atgyfeiriad. Cafodd hyn effaith ar swydd y Rheolwr Arweiniol Dynodedig, a olygai’n aml fod rhaid i’r rheolwr gasglu gwybodaeth.
- Roedd enghreifftiau o arfer da ynghylch gwaith dilynol yn amlwg mewn sawl achos, yn arbennig y nifer o ymweliadau cartref a wnaed ac asesiadau risg wedi’u diweddaru.
- Yn gyffredinol ers y newidiadau yn y broses POVA (4 Mai, 2015), ni nodwyd unrhyw ddirywiad o ran arfer mewn adborth archwilio, yn wir roedd gwelliannau wedi’u gwneud yn arbennig dros y tri mis diwethaf (Hydref – Rhagfyr).
Mae angen gwneud rhagor o waith yn 2016/17, gan ganolbwyntio ar wella ansawdd yr atgyfeiriadau, a datblygu hyfforddiant mwy arbenigol i Reolwyr Arweiniol Dynodedig ynghylch y Broses Oedolyn mewn Perygl.