Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

KickStart

Mae’r gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Gofal Castell a Cymdeithas Tai Wales and West i gynllunio a datblygu model gofal unigryw i ddiwallu anghenion oedolion ifanc diamddiffyn sy’n gadael gofal neu sy’n byw bywydau di-drefn yn y gymuned. Mae hyn yn parhau i ganolbwyntio ar ‘adfer’ ac mae gan dai swyddogaeth allweddol wrth gefnogi ac annog pobl i ddatblygu’r sgiliau sydd angen arnynt i fyw’n annibynnol yn eu cymuned. Mae hyn yn golygu y gall pobl symud oddi wrth ofal preswyl a dysgu sut i ymdopi â’r gweithgareddau bob dydd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol, fel gofal personol a thasgau yn y cartref, rheoli eu harian a ffurfio cysylltiadau gydag eraill a chymryd rhan yn eu cymunedau.

Bydd y Prosiect yn darparu un tŷ byw a rennir ar gyfer pedwar o bobl ifanc a saith fflat unigol ar gyfer pobl eraill ddiamddiffyn. Bydd y fflatiau’n rhan o stad o dai newydd a fydd yn cael ei hadeiladu yn Abergele. Bydd unigolion yn derbyn cymorth wedi’i deilwra gan Gofal Castell er mwyn datblygu eu sgiliau byw’n annibynnol a’u helpu i gynnal eu tenantiaethau. Mae’r Prosiect yn rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc hynny symud allan o ofal maeth a gofal preswyl i gychwyn eu taith datblygu a fydd yn y pen draw yn arwain at lwyddo i fyw’n annibynnol.

Mae’r Grant Rhaglen Cefnogi Pobl, sy’n gronfa i ddarparu gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â llety er mwyn helpu pobl i gyflawni neu gynnal bywyd annibynnol yn eu cymuned, wedi cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth i gychwyn y datblygiad cyffrous hwn. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r Gymdeithas Dai i nodi pa rai o’n defnyddwyr gwasanaeth fyddai’n elwa fwyaf o’r cynllun hwn fel bod y symudiad yn mynd yn esmwyth unwaith y bydd y fflatiau yn barod yn yr haf.

Nid nod Kickstart yw gwneud pethau ar ran pobl. Mae’n ymwneud â helpu pobl i ddeall y gall pethau fod yn wahanol. Mae’n ymwneud â chefnogi pobl i ganfod eu ffordd, deall y gallant gael nodau ac y gellir eu cyflawni. Bydd Kickstart yn helpu pobl i sylweddoli fod ganddynt ddyfodol, y gall pethau fod yn wahanol i heddiw, a bydd yn eu galluogi i ddod o hyd i’w ffordd eu hunain tra’n eu hebrwng ar eu taith. Bydd y gwasanaeth yno ar eu cyfer pan fydd angen iddynt siarad a bydd staff yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud gan ganolbwyntio’n benodol ar eu helpu i adeiladu neu ailadeiladu eu bywydau i gyflawni’r hyn y maent ei eisiau. Yn bennaf oll mae’n ymwneud â pheidio â rhoi i fyny ar bobl neu ganiatáu iddynt roi’r gorau ar eu hunain.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Prosiect Pobl Ddiamddiffyn

Cwmpawd Adfer

Mae Mudiadau Gwirfoddol, sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘Drydydd Sector’, bob amser wedi cael perthynas agos gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac rydym yn contractio gyda grwpiau penodol i gyflwyno rhai agweddau ar gymorth i’n defnyddwyr gwasanaethau. Yn aml, mae’n well gan bobl ymgysylltu â grwpiau gwirfoddol i gael cefnogaeth barhaus yn hytrach nag aros mewn gwasanaethau yn y sector cyhoeddus ac roeddem yn awyddus i ddarparu gwasanaeth i’r dyfodol a fydd yn gwella ac ategu gwaith ein Timau Iechyd Meddwl Cymunedol.

Yn 2014 dechreuom adolygu ein contractau ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl a chymorth i ofalwyr am oedolion â phroblemau iechyd meddwl, gan eu bod i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2016. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod ein holl wasanaethau yn addas i’w diben ac yn cynnig y cymorth mwyaf effeithiol a gwerthfawr i’n defnyddwyr gwasanaeth. Mae ymchwil yn dweud wrthym mai’r ffordd orau i helpu pobl i reoli eu problemau iechyd meddwl yn well ac ennill rheolaeth dros eu bywydau yw dull a elwir yn ‘adfer’. Nid yw hyn yn golygu adferiad yn yr un ffordd ag y mae rhywun yn llwyr adfer o salwch corfforol ond mae’n cynnig gobaith ac ‘y gred ei bod yn bosibl i rywun adennill bywyd ystyrlon, er gwaethaf salwch meddwl difrifol.’ [1]

Gyda hyn mewn golwg, dechreuom ddylunio gwasanaeth newydd a fyddai’n cael eu darparu gan y trydydd sector ar gyfer cymorth parhaus i’r bobl hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl. Er mwyn ein helpu gyda’n syniadau, gwnaethom gynnwys ein Tîm Cyfranogiad a siaradodd â phobl sydd ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaethau i gael gwybod beth sydd wedi bod yn fwyaf buddiol ac wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w bywydau. Y canlyniad yw gwasanaeth newydd o’r enw’r ‘Cwmpawd Adfer’, a fydd yn cael ei gyflwyno gan Mind Aberconwy o fis Ebrill 2016. Bydd pawb sy’n mynd ar y ‘Cwmpawd Adfer’ yn derbyn ‘Cynllun Gweithredu Adfer Lles’ neu WRAP, sef cynllun yr unigolyn wedi’i deilwra yn gyfan gwbl ar gyfer eu hanghenion a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Yr wyth pwynt allweddol ar y cwmpawd yw: Cyfranogi, Cefnogaeth Cyfoedion, Cyflogadwyedd, Hyfforddi, Rhyngweithio Cymdeithasol, Therapïau Cymdeithasol, Dysgu a Chyflawni, Gwybodaeth a Chyngor.

I rai defnyddwyr gwasanaeth eu profiad o’r ‘cwmpawd adfer’ fydd cael rhywfaint o wybodaeth a chyngor am eu cyflwr a’r ffyrdd gorau i’w reoli neu eu cyfeirio at grwpiau eraill sy’n fwy addas iddynt. I eraill, ymuno mewn gweithgareddau gydag eraill fydd yn helpu eu lles corfforol a meddyliol neu fod yn rhan o grŵp cyfoedion sy’n rhoi cefnogaeth i bobl eraill mewn sefyllfa debyg. Bydd rhai unigolion yn defnyddio’r holl wasanaethau fel rhan o’r cwmpawd, a fydd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a all arwain at brofiad gwaith a chyflogaeth. Pa bynnag agweddau ar y Cwmpawd Adfer sy’n bwysig i’r defnyddiwr gwasanaeth, y prif nod yw mynd y tu hwnt i reoli symptomau, ond caniatáu i bobl gynyddu neu gynnal eu lles eu hunain, gan eu cynnwys yn eu cymunedau a rhoi cyfleoedd i gyfrannu a chymryd rhan mewn cymdeithas.

[1]  https://www.mentalhealth.org.uk

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Prosiect Pobl Ddiamddiffyn

Datblygiad y Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Fel gwasanaeth sydd newydd gael ei sefydlu o fewn Gofal Cymdeithasol, cafodd y tîm Pobl Ddiamddiffyn ei gynllunio i helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas i adennill neu gynnal eu hannibyniaeth a’u lles a gwneud yn siŵr bod mwy o bobl gydag anghenion yn cael eu cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r bobl hynny sydd â bywydau cymhleth, heriol a di-drefn yn aml yn fwy diamddiffyn na’r rhai sy’n ffitio i mewn i’r gwasanaethau traddodiadol ac o ganlyniad i gefnogaeth gyfyngedig maent yn aml yn cysylltu yn amhriodol gyda’r gwasanaethau brys, fel yr Heddlu neu’r Gwasanaeth Tân neu’r Gwasanaeth Ambiwlans am eu cymorth. Mae gan y tîm ei hun leiafswm mynediad i gyllideb gofal ac felly mae aelodau’r tîm yn dibynnu ar eu hunain fel adnodd gwaith cymdeithasol a Therapi Galwedigaethol i fynd i’r afael ag anghenion y cleientiaid. Maent yn arbennig o greadigol ac yn gwneud cysylltiadau cryf â sefydliadau trydydd sector er mwyn galluogi eu cleientiaid i gael mynediad at y gwasanaethau cyffredinol sydd ar gael yn y gymuned.

Er bod hwn yn wasanaeth newydd sy’n datblygu, cofnodwyd nifer o astudiaethau achos yn dangos y bendithion a’r effeithiau cadarnhaol y mae’r tîm yn eu cael:

  • Cyfeiriwyd dyn ifanc at y gwasanaeth gan ei deulu gan ei fod yn defnyddio canabis ac yn mynd i drafferth gyda’r heddlu, roedd yna lawer o broblemau yn y cartref gydag ymddygiad ymosodol iawn tuag at ei deulu. Gwnaeth y gweithiwr rywfaint o gyfweld ysgogol a gweithio gydag ef i ddatblygu asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a chynllun gofal. O ganlyniad i’r gwaith hwn ysgrifennodd mam y dyn ifanc lythyr diolch i’r tîm gan ddweud bod yr ymagwedd wedi cael 100% o effaith gadarnhaol ar ei mab ac mae hi wedi bod yn ddiolchgar iawn am yr ymyrraeth sydd wedi golygu y gall ei mab aros gartref gyda’i deulu.
  • Roedd dyn ifanc arall mewn trafferth gyda’r heddlu ac yn wynebu’r posibilrwydd o gyfnod yn y carchar. Dechreuodd y tîm weithio gydag ef ac yn ei achos llys dywedodd y bargyfreithiwr bod yr ymyriadau a roddwyd ar waith gan y tîm Pobl Ddiamddiffyn wedi golygu’n uniongyrchol bod y dyn ifanc wedi osgoi dedfryd o garchar.

Mae’r tîm hefyd yn datblygu prosesau a mecanweithiau i wella’r gwasanaeth:

  1. Mae’r tîm Pobl Ddiamddiffyn wedi treialu’r broses asesu integredig newydd wrth [1] baratoi ar gyfer gweithrediad y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Lles. Rhoddodd hyn gyfle i ymarferwyr ymgorffori egwyddorion asesu sy’n canolbwyntio ar unigolion a chanlyniadau a gofal am bobl ifanc ddiamddiffyn.
  2.  Mae’r rheolwr tîm hefyd wedi cyflwyno asesiad risg cadarn newydd i sicrhau bod staff yn ystyried eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain wrth weithio gyda chleientiaid sy’n peri risg i’w hunain ac i eraill.
  3. Gan fod y tîm wedi datblygu a gwrando ar anghenion defnyddwyr gwasanaeth roeddynt hefyd yn teimlo y byddai cyflwyno cynllun gweithredu adfer iechyd da (WRAP) yn fuddiol. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r tîm PARIS [2] rydym wedi ei gwneud yn haws i staff greu cyfnod pontio llyfn i’r rhai sy’n Gadael Gofal, i weithiwr cymdeithasol i Oedolion, gyda’u cynllun unigol ar waith.

vp-diagram-cym

[1] Fel y soniwyd ar dudalen 8.

[2] Mae’r system PARIS yn cael ei defnyddio i storio cofnodion a gwybodaeth am y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarparwyd gan adran gwasanaethau cymdeithasol Conwy.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Prosiect Pobl Ddiamddiffyn

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English