Drwy ein partneriaeth gyda Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a’r pum awdurdod lleol arall yn ein Rhanbarth, datblygwyd rhaglen newydd wedi’i hanelu at bobl ifanc o’r enw TRAC.
Dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych ac mewn partneriaeth â holl awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru a’r Colegau, y nod fydd cefnogi pobl ifanc 11-24 oed sy’n ymddieithrio oddi wrth addysg, ac mewn perygl o fod yn NEET – nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant. Bydd y prosiect TRAC yn rhedeg am dair i bum mlynedd ac mae wedi sicrhau arian o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (ESF).
Bydd TRAC yn gwella cyrhaeddiad a bydd yn cefnogi datblygiad gweithlu medrus, hyblyg a gwydn priodol. Mae’r prosiect yn cyd-fynd â chwe agwedd y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Bydd y prosiect yn estyn allan i bobl ifanc gyda’r nod o godi cyrhaeddiad unigol a gwella ansawdd y gweithlu yn y dyfodol.
Bydd y prosiect yn cynnwys yr ystod canlynol o ymyriadau yn 11-24 oed:
- Darparu Cwricwlwm Amgen Manwl – Darparu cyrsiau galwedigaethol wedi’u targedu a lleoliadau gwaith estynedig ar gyfer pobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o fod yn NEET
- Gwell Pecyn Cymorth – cymorth Iechyd a Lles Ehangach ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET
- Cefnogi Pontio – canolbwyntio’n benodol ar gyfnodau pontio allweddol. 11 oed [pontio cynradd/ uwchradd], 14 oed [pontio o gyfnod allweddol 3 i 4], 16 oed [pontio i’r 6ed dosbarth, addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant], 18/19 oed [pontio i addysg uwch, addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant]
- Cyflenwi – Fframwaith wedi ei chaffael yn rhanbarthol o ddarparwyr dwyieithog o ansawdd, yn seiliedig ar anghenion a nodwyd ar gyfer y Person Ifanc.
- Nodi’r rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio o Flwyddyn 7 yn fuan er mwyn rheoli eu cyfnod pontio i addysg uwchradd. Datblygu data rhanbarthol i sicrhau monitro a thracio cyfranogwyr yn gywir, i arfarnu effaith y cymorth sy’n cael ei ddarparu i bobl ifanc.
Bydd Darpariaeth Addysg Bellach 16-24 yn cynnwys:
- Cymorth Adnabod a Broceriaeth
- Gweithio ar y cyd ag EPCs, yn gweithredu cymorth broceriaeth priodol ar gyfer y cyfranogwyr hynny; bydd hyn yn cynnwys cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu cynllun datblygu personol i wella sgiliau ar gyfer gyrfa, gan gefnogi cyfranogwyr i’w
- Cyfle gwaith cyntaf, gan helpu cyfranogwyr i fanteisio ar yr hyfforddiant priodol.
Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y prosiect hwn yn dod o fewn ein Adain Atal sy’n rhan annatod o’n Gwasanaeth Lles Cymunedol a’n hadrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ehangach.