Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Sefydlogrwydd Lleoliadau

Y targed ar gyfer 2014/15 (mesur blynyddol) ar gyfer canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn oedd 9.5% (yr isaf yw’r gorau). Gwir berfformiad Conwy ar gyfer 2015/16 oedd 10.6%, gan fod 18 o blant allan o gyfanswm o 170, wedi symud lleoliad dwywaith neu fwy yn ystod y flwyddyn.

Caiff sefydlogrwydd lleoliadau ei feintioli drwy ddangosydd perfformiad SCC/004 “Canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn.” Y targed yw 9.5%. (Yr isaf yw’r gorau).

Gwir berfformiad Conwy ar gyfer 2014/15 oedd 11.4%, gan fod 18 o blant allan o gyfanswm o 158, wedi symud lleoliad dwywaith neu fwy yn ystod y flwyddyn.

Ar gyfer 2015/16, gwellodd perfformiad i 10.6%, (18 o blant allan o 170).

Rhai o’r symudiadau lleoliadau sydd wedi cyfrif yn ein herbyn at ddibenion y dangosydd hwn yw, rhwng lleoliadau Preswyl ac Unedau Diogel, cynlluniau adfer yn ôl at rieni neu ffrindiau / teulu, dod â phlant yn ôl i Ofal Maeth “mewnol”, a symudiadau o leoliadau cost uchel i Glan yr Afon ac ystyriwyd bod pob un ohonynt er lles y plant.

Mae dadansoddiad manwl o ddata 2015/16 yn datgelu nifer fawr o bobl ifanc sydd ag anghenion lefel uchel a chymhleth. Mae gan fwyafrif y plant mewn gofal yng Nghonwy leoliadau sefydlog. O’r 138 o blant mewn lleoliadau Gofal Maeth[1] yn 2014/15, roedd 113 yn dal yn yr un lleoliad drwy gydol y flwyddyn gyfan, roedd 20 wedi symudiad lleoliad unwaith, ac roedd 4 wedi symudiad lleoliadau ddwywaith. Dim ond 1 oedd wedi symud deirgwaith.

Datblygwyd ‘Strategaeth Lleoli 2015-18’ sy’n cynnwys argymhellion i fonitro symudiadau rhwng lleoliadau a methiant lleoliadau mewn modd mwy cadarn a dadansoddol.  Bydd y data yn cael ei adolygu yn rheolaidd gyda’r Rheolwyr Timau yn darparu data ansoddol ychwanegol ynghylch pam fod symudiadau wedi digwydd.

[1] Mae hyn yn eithrio’r rhai mewn gofal Carennydd. Gofalwr carennydd yw oedolyn sy’n edrych ar ôl plentyn neu blant i berthynas neu ffrind yn llawn amser.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Plant

Canran y bobl ifanc y gwyddom eu bod yn derbyn addysg, hyfforddiant neu mewn gwaith yn 19 oed.

Y targed ar gyfer canran y bobl ifanc a arferai dderbyn gofal y mae’r awdurdod mewn cysylltiad â nhw, ac y gwyddom eu bod mewn addysg, hyfforddiant neu waith yn 19 oed yw 55%.

Caiff hyn ei fesur gan SCC/033(f) “Canran y bobl ifanc a arferai dderbyn gofal y mae’r awdurdod mewn cysylltiad â nhw, ac y gwyddom eu bod mewn addysg, hyfforddiant neu waith yn 19 oed.”

Yn 2014/15 y targed oedd 55%.  Cyflawnom ni 64% (9 allan o 14 sy’n Gadael Gofal)

Y ffigwr ar gyfer 2015/16 oedd 54.17% (13 allan o 24 sy’n Gadael Gofal), sy’n is na’r targed ond o fewn lefel goddefiant.

Dylid nodi, gan fod y niferoedd mor fach, gall dim ond un neu ddau o achosion effeithio’n sylweddol ar y ganran.

Tynnodd AGGCC sylw at y perfformiad yn y maes hwn,  a lluniodd Conwy gynllun gweithredu cynhwysfawr er mwyn mynd i’r afael â’r anawsterau.

Roedd hyn yn cynnwys cydweithio gyda:

  • Gyrfa Cymru (Gofynnwyd iddynt neilltuo swyddog TRAC i Rai sy’n Gadael Gofal)
  • Coleg Llandrillo (Cyfarfodydd monitro misol)
  • {0>the ‘Let’s Get Working’ programme, and<}70{>y rhaglen ‘Gwaith Amdani’, ac0}
  • {0>Conwy’s Education Department<}80{>Adran Addysg Conwy<0}
  • AD yn darparu cyfleoedd gwaith a phrentisiaethau
  • Paneli NEET rheolaidd i sicrhau ein bod yn cadw i fyny gyda’r datblygiadau.

Mae carfannau a fydd yn Gadael Gofal yn y dyfodol yn cael eu monitro’n ofalus ac mae’r paneli misol yn helpu gwella perfformiad yn y maes pwysig hwn

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Plant

Recriwtio Gofalwyr Maeth

Mae gwaith i wella’r broses o recriwtio Gofalwyr Maeth wedi symud ymlaen yn fewnol gyda phrosiect recriwtio Gofalwyr Maeth penodol sydd wedi arwain at ddatblygu strategaeth newydd i farchnata, recriwtio a chadw gofalwyr. Mae cynnydd hefyd yn cael ei wneud ar lefel ranbarthol.

Mae Maethu yng Nghonwy wedi cael ei ail-frandio, gyda delweddau, llyfrynnau, tudalennau gwe, sianelau cyfryngau cymdeithasol a fideos hyrwyddo newydd. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch newydd yn denu 15 o Ofalwyr Maeth newydd y flwyddyn.

Yn rhanbarthol, bu datblygiadau o ran rhannu adnoddau ar draws y rhanbarth, yn enwedig o ran marchnata, recriwtio, asesu, cytundeb o ran strwythurau ffioedd, a chymorth ar gyfer Unigolion â Gysylltwyd*.[1]

[1] Perthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â phlentyn. Mae’r olaf yn rhywun na fyddai’n cyfateb â’r term ‘perthynas neu ffrind’, ond sydd â pherthynas sy’n bodoli eisoes gyda’r plentyn.”

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Plant

Prydlondeb asesiadau cychwynnol a chraidd

Mae prydlondeb asesiadau cychwynnol wedi gostwng yn gyffredinol yn ystod 2015-16, ond, mae gwelliant yn ystod y flwyddyn ar sail chwarterol. 

Y diffiniad o asesiad cychwynnol yw asesiad cryno o blentyn y cyfeiriwyd at y gwasanaethau cymdeithasol gyda chais i wasanaethau gael eu darparu.  Caiff perfformiad ei fonitro gan y mesur statudol “Canran yr asesiadau cychwynnol a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith”. Y targed ar gyfer y mesur hwn yw 80%.

2013/14

2014/15 2015/16
82.1% 79.2%

76.1%

Er y bu gostyngiad mewn perfformiad yn ystod 2015-16, gwelir tuedd gyffredinol o welliant ar draws y flwyddyn.

Ch1 2015/16

Ch2 2015/16 Ch3 2015/16 Ch4 2015/16
65.2% 80.7% 82.5%

77%

asesiadau-cychwynnol

Gellir priodoli’r gwelliant cyson mewn perfformiad i’r cynllun gweithredu manwl a gyflwynwyd ar draws y Gwasanaeth.

Mae’r mesur hwn wedi’i gysylltu â SCC/006 – “penderfyniadau a wnaed ar atgyfeiriadau o fewn 1 diwrnod gwaith”. Mae unrhyw oedi ar benderfyniadau cychwynnol, yn cael effaith anochel ar y siawns o gwblhau’r asesiad o fewn 7 diwrnod. Mae’r camau a gymerwyd yn cynnwys:

  • Cynyddwyd gallu i sicrhau y gwneir penderfyniadau cyflym ar atgyfeiriadau sy’n Pennu staff ychwanegol gan helpu i leihau’r risg o oedi
  • Cynhaliwyd cyfarfodydd monitro misol gyda’r Pennaeth Gwasanaeth, i fonitro perfformiad yn barhaus
  • Nododd archwiliadau rheolaidd a gynhaliwyd gan y tîm Safonau Ansawdd arfer da ac arweiniodd at gynlluniau gweithredu i fynd i’r afael ag anghenion datblygu

Mae rhan (b) o’r dangosydd hwn – ‘SCC/042 (b) – nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i gwblhau Asesiadau Cychwynnol a oedd yn fwy na 7 diwrnod gwaith’, hefyd yn dangos gwell perfformiad. Mae nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i gwblhau Asesiad Cychwynnol rŵan yn ôl i lawr i 10 diwrnod (yn hytrach na 16 diwrnod fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn). Mae hyn hefyd yn awgrymu bod arfer yn gwella gyda llai o oedi wrth gwblhau’r broses asesu.

Rydym wedi gwella ar ein perfformiad asesiad craidd hyd yma o gymharu â’r llynedd, ac wedi rhagori ar y targed yn gyson ym mhob chwarter.

Mae angen cwblhau asesiad craidd o fewn 35 diwrnod i nodi’r angen am asesiad pan fydd ymholiadau Adran 47 yn cael eu cychwyn, pan fo plentyn yn dechrau derbyn gofal neu pan fydd yr asesiad cychwynnol yn nodi y dylid cynnal asesiad pellach, mwy manwl.

SCC/043(a) Canran yr asesiadau craidd gofynnol a gynhaliwyd o fewn 35 diwrnod gwaith. Y targed a gytunwyd arno’n lleol yw 75%.

Mae perfformiad o ran asesiadau craidd wedi rhagori’n gyson ar y targed drwy 2015-16.

Ch1 = 81.0%, Ch2 = 88.5%, Ch3 = 79.4% Ch4 = 82.7%

Er ein bod yn rhagori ar y targed gyda’r mesur hwn, rydym yn dymuno gwella ymhellach.

Roedd y rhan fwyaf o’r asesiadau a gymerodd fwy na 35 diwrnod gwaith i’w cwblhau, ond ychydig ddiwrnodau yn hwyr. Bydd hyn yn cael ei fonitro’n agos yn ystod y cyfnod adrodd nesaf.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Plant

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English