Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Pa mor brydlon a chynhwysfawr yw adolygiadau

Er y bu gwelliant da ddechrau’r flwyddyn o ran prydlondeb adolygiadau, mae gwaith pellach ar y gweill i wella yn y maes, er mwyn cyflawni canlyniadau cyson.
Ein targed presennol yw ein bod yn adolygu o leiaf 90% o’r cleientiaid sydd â chynllun gofal ar 31 Mawrth lle y dylai eu cynlluniau gofal gael eu hadolygu yn ystod y flwyddyn Ar hyn o bryd nid yw ein perfformiad yn cwrdd â’n huchelgais, a dangosir y data diweddaraf isod:

2013/14

2014/15 2015/16
95.76% 88.9%

88.24%

 

Ch1 2015/16

Ch2 2015/16 Ch3 2015/16 Ch4 2015/16
91.25% 81.33% 73.38%

70.91%

 

Ar ôl chwarter cyntaf cadarnhaol, gwelwyd dirywiad yn y perfformiad drwy 2015/16, yn bennaf oherwydd materion staffio.
Er mwyn gwella perfformiad, mae’r Tîm Anabledd wedi ymdrin â materion staffio, gweithredu dulliau o gynyddu gallu a lleihau dyblygu, ac maent yn hyderus y bydd perfformiad yn gwella drwy 2016/17.
Mae’r Tîm Pobl Hŷn wedi adolygu sut mae’r Tîm Gofalwyr yn gweithio a chynllunio ar gyfer gallu ychwanegol i gynnal adolygiadau sydd eu hangen.
Yn ogystal, bydd y fframwaith asesu newydd (nad yw ar waith eto) yn lleihau effaith maint y dogfennau adolygu, ac yn cynnig cyfle pellach i wella perfformiad.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Oedolion

Datblygu’r wefan ymhellach

Mae ein gwybodaeth ar y we wedi ei hadolygu a chaiff ei lansio yn y Gwanwyn fel rhan o wefan gyhoeddus newydd Conwy.

Adolygwyd holl gynnwys y wefan er mwyn paratoi i weithredu system reoli cynnwys newydd ar gyfer gwefan gyhoeddus Conwy, a fydd yn mynd yn fyw yn ystod Gwanwyn 2016. Bydd hyn yn arwain at gyflwyno’r wybodaeth y mae defnyddwyr yn fwyaf tebygol o fod yn chwilio amdani mewn modd symlach, gyda dolenni clir i sianelau cyfathrebu fel gwasanaethau ffôn, e-bost neu ar y we.

Byddwn yn adolygu cynnwys y we yn ystod 2016-17 ar ôl gweithredu’r System Rheoli Cynnwys newydd.

gwefan-conwy

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Oedolion

Rheoli ceisiadau am awdurdodiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid o fewn terfynau amser

Bu gostyngiad o 32% o ran rheoli ceisiadau am awdurdodiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid o fewn terfynau amser dros gyfnod o bum mis.

Mae Conwy wedi gosod “Y risg o her gyfreithiol” oherwydd Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar y gofrestr Risg Gorfforaethol.  Gwelwyd newidiadau cadarnhaol yn nifer yr achosion sy’n aros i gael eu hasesu, a nifer yr asesiadau sy’n cael eu llofnodi.

Rydym wedi cynyddu adnoddau i’r graddau bod yna bellach dri aseswr amser llawn ac ymrwymiad gan y chwe Aseswr Lles Gorau a leolwyd mewn gwasanaethau eraill i wneud o leiaf un asesiad yr un bob mis.

Mae’r newidiadau a wnaed i adnewyddu awdurdodiadau yn cael eu prosesu yn wahanol gydag effaith gadarnhaol ond mae hyn yn arwain at bwysau ychwanegol ar y tîm o hyd at 12 o atgyfeiriadau ychwanegol yr wythnos.  Yn ogystal, mae rhan o’r broses asesu’n cynnwys meddygon teulu, i asesu Gallu Meddyliol. Er mwyn cynyddu ein defnydd o amser meddygon teulu, rydym wedi bod yn canolbwyntio ein hymdrechion mewn cartrefi preswyl ar gwblhau unrhyw awdurdodiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid sy’n weddill o fewn pob cartref.  Cafodd hyn hefyd effaith gadarnhaol.

Mae’r rhestr aros bellach i lawr i 309 (ar ddiwedd mis Mawrth 2016), sef gostyngiad o dros 32% dros gyfnod o chwe mis.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Oedolion

Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mae’r holl leoliadau Iechyd Meddwl wedi cael eu hadolygu i sicrhau bod gwasanaethau priodol a chymesur a chomisiynu wedi symud i bwysleisio’r model adfer. 

Bydd fframwaith ‘Iechyd Meddwl Cynaliadwy’ yn darparu gweledigaeth ac amlinelliad ar gyfer rheolaeth effeithiol, yn enwedig yn sgil y galw cynyddol ac adnoddau cyfyngedig.  Mae adolygiad o’r holl leoliadau iechyd meddwl yn mynd rhagddo i sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth yn derbyn pecynnau gofal priodol a chymesur. Mae comisiynu gyda’r Trydydd Sector yn rhoi pwyslais ar y model gwella er mwyn galluogi defnyddwyr gwasanaeth i symud allan o wasanaethau statudol i leoliad cymunedol mwy priodol ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor.

Mae “Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth” wedi arwain at ddod i gytundeb ynglŷn â gwelliannau i wasanaethau, ac mae staff uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi rhoi ymrwymiad i gwrdd bob mis i fonitro cynnydd ar welliannau a datblygiadau. Bydd adolygiad o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf i sicrhau bod y gwelliannau y cytunwyd arnynt i’r gwasanaeth o safbwynt Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi eu cyflawni.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Oedolion

Gwasanaethau cymunedol i bobl â dementia

Mae gwaith mapio a gwaith ymgynghori wedi cael ei wneud er mwyn nodi bylchau yn y ddarpariaeth gyfredol o wasanaethau cymunedol ar gyfer pobl â dementia. 

Cynhaliwyd ymarferiad mapio gwasanaeth manwl, a oedd yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd. Helpodd hyn i nodi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol a chymell y broses gomisiynu.

Cwblhaodd Partneriaeth Dementia Conwy, sy’n ceisio hyrwyddo lles pobl sy’n byw gyda dementia yng Nghonwy a’u gofalwyr, Ddatganiad Sefyllfa’r Farchnad drafft mewn perthynas â gwasanaethau dementia.  Mae hyn wedi cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad y Strategaeth Gomisiynu Gofal Cymdeithasol, yn enwedig y bennod yn ymwneud â Gwasanaethau Pobl Hŷn. Nodwyd themâu allweddol o’r Asesiad Anghenion Rhanbarthol, dadansoddi data ac adroddiadau ymchwil.  Mae gweithdai ymgysylltu ac ymgynghori ar y themâu ar gyfer yr asesiad anghenion poblogaeth a’r dadansoddiad o’r farchnad yn cael eu cynnal yn ystod mis Mai – Gorffennaf 2016 gyda defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a dinasyddion Conwy.    Bydd Strategaeth Gomisiynu drafft Conwy yn ystyried Adborth Ymgysylltu, ar gael ym mis Hydref 2016 ac yn mynd drwy’r broses ymgynghori a chymeradwyaeth derfynol rhwng mis Tachwedd 2016 ac Ionawr 2017.

Cymeradwywyd “Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yng Nghonwy 2015 – 2019″ gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2015. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar adeiladu a hyrwyddo cymunedau sy’n “gefnogol i ddementia”, gyda’r themâu allweddol canlynol:

  • Mae Conwy yn amgylchedd lle mae pobl yr effeithir arnynt gan ddementia yn teimlo’n hyderus, yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall
  • Mae pobl a effeithir arnynt gan ddementia yng Nghonwy yn nodi gwelliant o ran canfod dementia yn amserol a’r gefnogaeth a ddarperir cyn, yn ystod, ac ar ôl canfod.
  • Mae addysg, hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor gwell ac estynedig ynghylch dementia wedi cael ei sefydlu.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd penodol y Gwasanaeth Oedolion

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English