Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Datblygu a gweithredu strategaethau comisiynu

Mae gwaith cefndirol sylweddol wedi cael ei wneud i bwyso a mesur contractau, Cytundebau Lefel Gwasanaeth a phartneriaethau presennol, a bydd y Strategaeth Gomisiynu yn ei lle ar gyfer ymgynghori ym mis Rhagfyr 2016.   

Sefydlwyd y tîm Comisiynu yn ystod haf 2015 gyda phenodiad:

  • Rheolwr Adran Perthnasau Sector Annibynnol a’r Trydydd Sector
  • Rheolwr Comisiynu (Oedolion)

A’i gefnogi gan adliniad staff:

  • Rheolwr Comisiynu (Arweinydd Teuluoedd yn Gyntaf)
  • Swyddog Gwybodaeth
  • Cefnogaeth Weinyddol.
  • Swyddog Strategaeth Pobl Hŷn
  • Swyddog Cyswllt y Trydydd Sector (CGGC)
  • Tîm Hwyluso Partneriaethau [o fis Tachwedd 2015]

Mae’r tîm wedi adolygu dogfennau presennol o wahanol wasanaethau a chyfarfod â Rheolwyr Gwasanaeth i adolygu’r gwasanaethau presennol, mynd ati i bwyso a mesur contractau, CLGau a Phartneriaethau presennol a thrafod eu hanghenion a’u bwriadau comisiynu a chefnogaeth barhaus ac yn y dyfodol.

Bydd y Strategaeth Gomisiynu Gofal Cymdeithasol ar ffurf drafft cyntaf erbyn mis Rhagfyr 2016. Bydd gweithdai hwyluso’r farchnad yn dechrau ym mis Mai 2016, gyda datganiadau sefyllfa’r Farchnad ac asesiad anghenion Poblogaeth wedi eu cwblhau erbyn mis Ionawr 2017.

Mae’r Strategaeth Gomisiynu yn ddogfen hollgynhwysol sy’n dadansoddi anghenion, y farchnad bresennol, gweledigaeth a rennir ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol, a’n cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau yn yr 1-5 mlynedd nesaf, yn ogystal â goblygiadau cyllidebol y cynlluniau hyn.  Byddwn yn ymgynghori â phartneriaid a budd-ddeiliaid mewnol ac allanol, darparwyr gwasanaeth cyfredol a darpar ddarparwyr gwasanaeth, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr, yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, yn ogystal â gofyn eu barn ynglŷn â pha wasanaethau gofal cymdeithasol y dylid eu darparu yng Nghonwy yn y dyfodol, sut y dylid eu darparu a gan bwy.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd blaenoriaeth

Perfformiad wrth ymdrin â chwynion

Mae cynnydd da wedi cael ei wneud o fewn y gwasanaeth cwynion i gryfhau nifer o feysydd. 

Cafodd Adroddiad Blynyddol Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau 2014-15 dderbyniad cadarnhaol gan y pwyllgor Craffu ym mis Hydref 2015. Roedd yn adlewyrchu ar faterion a godwyd yn archwiliad mewnol 2014, ac yn rhoi tystiolaeth o gynnydd sylweddol yn erbyn y cynllun gweithredu gwelliant.

  • Mae Un Pwynt Mynediad (SPOA) yn cael ei ddefnyddio rŵan i dderbyn pob cwyn Gwasanaethau Cymdeithasol yn absenoldeb y Swyddog Cwynion.
  • Mae yna bellach strwythur rheoli clir.Mae’r gwasanaeth cwynion o fewn y gwasanaeth polisi ac archwilio o fewn Safonau Ansawdd sydd â dwy haen o gefnogaeth rheoli ar gael yn llawn amser i’r swyddog cwynion.
  • Mae swydd y Swyddog Cwynion wedi cael ei chytuno a’i hariannu bellach fel swydd llawn amser (ariannwyd yn rhan amser yn unig cyn hynny).
  • Caiff cwynion eu cofnodi a’u monitro ar daenlen bwrpasol i reoli prydlondeb yn effeithiol.
  • Anfonid cwynion Cam 2 at Reolwyr Adran sydd wedi gwella eu hymwybyddiaeth, ymgysylltiad ac ymrwymiad â’r broses.
  • Mae’r Polisi Cwynion wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu materion a nodwyd yn yr archwiliad.
  • Mae rhaglen o hyfforddiant yn cael ei chyflwyno drwy gyfarfodydd tîm.
  • Cynnal gweithdy ar gyfer Rheolwyr yn tynnu sylw at y gwersi a ddysgwyd a meysydd i’w gwella.
  • Bydd y Swyddog Cwynion yn mynychu cyfarfodydd Rheolwyr Gwasanaeth.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd blaenoriaeth

Effaith Panel Ymyl Gofal

Mae gennym gynlluniau ar waith i werthuso effaith y Panel Ymylon Gofal. 

Cynhaliwyd y panel Ymyl Gofal unwaith y mis i ddechrau trafod achosion cymhleth lle mae plant a phobl ifanc sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddod i ofal.  Fodd bynnag, yn dilyn adborth gan y gweithwyr cymdeithasol, cytunwyd i ddarparu panel bob pythefnos. Mae’r panel hefyd wedi sefydlu cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc), a’r Rheolwr Strategol Cyfiawnder Ieuenctid, i drafod achosion cymhleth y bernir eu bod mewn perygl o waethygu.

Bydd effeithiolrwydd y panel yn cael ei werthuso ddiwedd 2016/17, a rhagwelir y bydd y gwerthusiad yn dangos tystiolaeth bod plant yn cael eu hatal rhag cael eu huwch-gyfeirio drwy ffactorau risg, ac yn wir mae’r risg honno’n cael ei lleihau

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd blaenoriaeth

Effaith y gwasanaeth pobl ddiamddiffyn

Rydym yn gwerthuso ffyrdd o fesur effaith y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn.

Mae’r strwythur Pobl Ddiamddiffyn bellach ar waith ac mae pob penodiad wedi’u gwneud. Mae’r gwasanaeth yn datblygu diwylliant “gwasanaeth cyfan”, gan rannu sgiliau ac arferion gwaith gorau i wella canlyniadau ar gyfer pobl ddiamddiffyn.

Mae’r tîm wedi archwilio fframweithiau arfarnu ar gyfer mesur canlyniadau defnyddwyr gwasanaeth, i ddarparu tystiolaeth galed o’r canlyniadau buddiol sy’n cael eu cyflawni.  Ystyriwyd y system “Sêr Canlyniadau” a sefydlwyd yn ateb posibl i’w brynu, gan ddarparu asesiad “cyn ac ar ôl” o ganlyniadau defnyddwyr gwasanaeth, a darparu tystiolaeth uniongyrchol o effaith ac effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau. Yn ogystal, byddai’r system yn darparu adborth cadarnhaol uniongyrchol i gleientiaid unigol ynghylch y cynnydd a wnaed ganddynt, a thrwy hynny atgyfnerthu a chydgyfnerthu eu llwyddiannau.

Mae penderfyniad wedi ei wneud i ddatblygu model gwerthuso yn ein system gwybodaeth cleientiaid (PARIS), wedi’i alinio â’r asesiadau newydd sy’n ofynnol o dan y Ddeddf SSWB.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd blaenoriaeth

Datblygiadau o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

Er bod nifer o risgiau wedi eu nodi o fewn Iechyd Meddwl, rydym yn ymgysylltu gyda’n cydweithwyr iechyd i gymryd camau lliniaru a rheoli’r rhain. [Read more…]

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth, Meysydd blaenoriaeth

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English