Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Atal derbyniadau preswyl ac adleoli pobl mewn tai priodol

Mae atal mynediad i ofal preswyl trwy ddefnyddio eiddo presennol CBSC fel llety dros dro wedi ei gwneud yn bosibl i ailsefydlu unigolion cymhleth mewn tai priodol.

Drwy weithio gyda’r Gwasanaethau Tai, datblygwyd proses i sicrhau y gwneir defnydd effeithiol o eiddo a addaswyd ar draws Gogledd Cymru. Esblygodd hyn i ddechrau i fod yn Gofrestr Cyfateb Eiddo a Addaswyd sydd bellach wedi newid unwaith eto i fod yn Un Llwybr Mynediad at Dai a Datrysiadau Tai.

Beth sydd wedi newid? Pe na bai fflatiau Canolfan Marl ar gael a heb y gwaith ar y cyd gyda Gwasanaethau Anabledd ac asiantaethau Tai, mae’n bosibl y byddai darpar denantiaid wedi gorfod cael eu rhoi mewn gofal preswyl neu nyrsio dros dro neu mewn llety dros dro llai addas a fyddai wedi effeithio ar eu hannibyniaeth a’u lles.

Cyflawnwyd hyn wrth i ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol nodi ai’r datrysiad tai dros dro gorau fyddai i rywun symud i mewn i’r fflatiau. Byddai panel tîm amlddisgyblaethol yn prosesu’r ceisiadau ac yn monitro’r tenantiaethau.

Gallai fflatiau Canolfan Marl yng Nghyffordd Llandudno fod yn addas ar gyfer pob person anabl yn Nghonwy.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud? Gallai 12 o’r defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad ac aros yn y 6 fflat yng Nghanolfan Marl yn 14/15. Roedd hyn yn golygu nad oedd rhaid iddynt gael eu derbyn i gartref preswyl neu nyrsio tra’n bod yn canfod llety wedi’i addasu’n briodol neu tra bod addasiadau’n cael eu gwneud ar eu heiddo eu hunain ac yn galluogi’r cwsmeriaid i aros yn agos at eu cymorth cymunedol a’u teuluoedd.

Astudiaeth Achos

Mae gan Ms X Sglerosis Ymledol ac roedd yn byw mewn fflat ail lawr. Mae ei chyflwr wedi gwaethygu unwaith eto a chafodd ei derbyn i’r ysbyty ac nid oedd yn gallu dychwelyd adref oherwydd na fyddai hi wedi gallu ymdopi â’r grisiau. Yn dilyn cyfnod o adsefydlu yn yr ysbyty, rhyddhawyd Ms X i fflatiau Canolfan Marl. Cwblhawyd atgyfeiriad at y Gwasanaethau Cyfateb Eiddo a Addaswyd a daeth y Gwasanaethau Tai o hyd i eiddo addas ac yn dilyn asesiad Therapi Galwedigaethol, bydd rŵan yn cael ei addasu ar gyfer ei hanghenion fel defnyddiwr cadair olwyn. Mae Ms X wedi bod yn byw yng Nghanolfan Marl am 3 mis ac yn gobeithio gallu symud o fewn y 6 mis nesaf.


Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Camau Ffitrwydd

Mae gan Ffyrdd o Fyw Egnïol a Chreadigol (yn y Gwasanaeth Datblygu Cymunedol), hanes o ddarparu cymorth cadarnhaol i alluogi mynediad i wasanaethau hamdden, profiad gwaith a chyfleoedd cyflogaeth i bobl ddiamddiffyn. Mae sefydlu prosiect peilot gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi adeiladu ar y llwyddiant hwn ac wedi ein galluogi i archwilio cyfleoedd newydd drwy wirfoddoli a phrofiad gwaith yn ein cyfleusterau hamdden gan alluogi unigolion i fagu hyder i symud ymlaen at bethau eraill.

Datblygwyd Camau Ffitrwydd ym mis Mehefin 2014. Mae’n rhaglen ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau, ac yn galluogi unigolion i gael gwybod am a mynychu gweithgareddau mewn Canolfannau Hamdden lleol ledled Conwy.

Darperir cefnogaeth am hyd at 16 wythnos y gellir ei ymestyn os oes angen, i alluogi unigolion, yn y pen draw, i fynd i’r Ganolfan Hamdden ar eu pennau eu hunain, defnyddio’r cyfleusterau yn y ganolfan hamdden a mynd i’r gweithgaredd yn gwbl annibynnol.

Wrth i’r person ddysgu sut i wneud hyn, maent yn cael eu cefnogi’n llawn gan aelod o staff y Gwasanaethau Anabledd a fydd yn addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gyrraedd yno a chymryd rhan yn y gweithgaredd.

Hyd yn hyn, mae pobl sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen wedi elwa yn y dulliau canlynol:

  • Dysgu sgiliau newydd a dod yn gwbl annibynnol wrth deithio i weithgareddau
  • Gwneud ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill o ganlyniad i’r cyfeillgarwch newydd
  • Dysgu sgiliau rheoli amser
  • Mwy o gymhelliant a dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol heb eu cymell
  • Gwell lles meddyliol – cysgu, lleihau pryderon, dewis i fwyta bwydydd iachach
  • Colli pwysau
  • Gwelliant mewn cyflyrau iechyd fel diabetes
  • Gwelliant mewn sgiliau cymdeithasol
  • Mwy o gysylltiad â’r cyhoedd, gwella integreiddiad gyda’r gymuned ehangach
  • Gwell hyder mewn aelodau o’r teulu yn annog annibyniaeth ymhellach yn yr unigolyn
  • Lleihad yn yr oriau o gymorth sydd eu hangen o fodelau gwasanaeth traddodiadol

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Gwneud y Rhaglen Gwaith Amdani yn gynaliadwy

Datblygwyd y Rhaglen Gwaith Amdani i ddarparu “siop un stop” i gefnogi pobl yng Nghonwy i oresgyn y rhwystrau a oedd yn eu hatal rhag symud ymlaen i addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli, profiad gwaith a chyflogaeth. Roedd angen hyn gan fod nifer o grantiau, pob un yn ariannu meysydd gwahanol o waith ac wedi’u hanelu at wahanol grwpiau o gleientiaid fel:

  • Genesis – yn cefnogi rhieni’n bennaf
  • Taith i Waith – yn cefnogi defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol yn bennaf
  • Grant Teuluoedd yn Gyntaf – yn cefnogi rhieni a phobl ifanc 16+ oed
  • Grant Porth Ymgysylltu – yn cefnogi pobl i ddechrau gwirfoddoli

Gwnaethant gefnogi 1447 o bobl yn y 5 mlynedd hyd at fis Mai 2014, gan gyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Sicrhaodd 163 o bobl gyflogaeth
  • enillodd 396 o bobl gymwysterau
  • symudodd 174 ymlaen at ragor o addysg
  • symudodd 144 ymlaen i leoliadau gwirfoddoli neu waith
  • sicrhaodd 147 o bobl gyfweliad am swydd
  • Cafodd cyfanswm o 80% o’r bobl ganlyniad cadarnhaol a oedd yn cyfrannu at eu lles

Cynhaliwyd dadansoddiad budd-dal i nodi arbedion posibl o ran:

  • budd-daliadau diweithdra
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl
  • Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
  • Gwasanaeth Anabledd

Roedd hyn yn dangos tystiolaeth o’r angen i’r gwasanaeth barhau a dangosodd fod y prosiect yn gynaliadwy drwy sicrhau arbedion o ran cost i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Adran Gwaith a Phensiynau (budd-daliadau diweithdra) a’r Gwasanaethau Iechyd.

Felly, ariannodd yr adran Gofal Cymdeithasol ac Addysg dîm craidd y Rhaglen Gwaith Amdani o fewn y Gymuned a Lles, dan y Gwasanaethau Ataliol.Roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ystyried fel gwasanaeth ataliol da i’n helpu i gyflawni Deddf Gofal Cymdeithasol a Lles.Ein nod yw darparu cymorth arloesol ynghylch amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar unigolion sydd eisiau cael mynediad at waith am dâl, profiad gwaith, gwirfoddoli a hyfforddiant.

I fod yn gymwys am y gwasanaeth mae angen i berson gael:

  1. Rhwystr sylweddol rhag gwaith, gwirfoddoli neu hyfforddiant
  2. Bod yn ddi-waith
  3. Byw yn sir Conwy
  4. Yn 16 oed neu’n hŷn
  5. Dymuno i gyflawni eu potensial a symud ymlaen i waith cyflogedig.

Bydd y gwasanaeth yn darparu:

  • Cyfarfodydd un i un gydag ymgynghorydd, yn y cartref fel arfer
  • Gwaith unigol a gwaith grŵp pwrpasol ar sail angen, gan gynnwys
    • gweithgareddau i wella hyder a hunan-barch
    • Cyfleoedd hyfforddi i wella sgiliau ar gyfer gwaith
    • Cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith i gael profiad gwaith ymarferol
    • Helpu gyda sgiliau chwilio am swyddi ac ysgrifennu CV
    • Cymorth gyda cheisiadau am swyddi
    • Help gyda thechnegau cyfweliad

Nid oes llwybr rhagnodedig, mae’r gwasanaeth yn cael ei arwain gan anghenion ac yn dilyn cynllun gweithredu unigol, sy’n cael ei ddatblygu rhwng ein hymgynghorwyr a’r cyfranogwr. Defnyddir cyflawniadau yn canolbwyntio ar y cleient ar y cynllun gweithredu i annog a chymell unigolion i gyflawni eu potensial.

O fis Awst 14 i fis Mawrth 15, mae 83 o bobl wedi cael cymorth gan y tîm craidd, gyda 67 eisoes yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Mae’r tîm craidd a’u sgiliau wedi cael eu cynnal a gellir eu defnyddio mewn unrhyw gynigion yn y dyfodol i gynyddu gallu’r gwasanaeth.

Os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi ffonio 01492 576360 neu anfon e-bost i:[email protected]

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Canolfannau Iechyd a Lles Ardal

Ddechrau 2014 cytunodd chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y fframwaith a ddefnyddir i’r dyfodol ar gyfer cyflwyno Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth. Cyhoeddwyd Datganiad Bwriad yn pwysleisio’r angen i gymryd ymagwedd gadarn ac uniongyrchol tuag at Integreiddio Gwasanaethau ar gyfer Pobl Hŷn.

Nid yw Gofal Integredig yn ymwneud â strwythurau, sefydliadau neu lwybrau, nac am y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu comisiynu a’u hariannu. Ei brif bwrpas yw sicrhau bod dinasyddion yn cael profiad gwell wrth dderbyn gofal a chymorth, a’u bod yn profi llai o anghydraddoldeb ac yn cael gwell canlyniadau. Mae wedi ei seilio ar y ddealltwriaeth y dylai iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau’r trydydd sector a gwasanaethau annibynnol ar gyfer Pobl Hŷn fod wedi eu cynllunio a’u darparu i hyrwyddo a chynyddu lles; gan alluogi’r person i fyw’n annibynnol yn eu cymuned cyhyd ag y bo modd a bod gwasanaethau’n cael ei darparu yng nghartref y person ei hun neu mewn lleoliadau cymunedol i osgoi’r angen am ofal parhaus, gofal aciwt neu ofal sefydliadol.

Beth sydd wedi newid?

Darperir gofal integredig trwy ddatblygu Canolfannau Iechyd a Lles Ardal ar draws Dwyrain Conwy a Gorllewin Conwy, Llandudno, Llanrwst a Bae Colwyn. Mae’r isadeiledd hwn yn galluogi’r partïon, h.y. CBSC, Iechyd a’r Trydydd Sector weithio o’r canolfannau, darparu Gwasanaethau Lles yn amrywio drwy’r sbectrwm cyfan, e.e. Canolfan Iechyd, Cyfeirio, Ail-alluogi, Gofal Canolradd, Gofal Gwell, Ysbyty, ac ati

Pa wahaniaeth wnaeth hyn? Astudiaeth Achos…

Y Cleient Mae wedi profi llawer o boen yn ystod y blynyddoedd ers cael ei eni gyda fertebrâu sacrol ychwanegol, coes chwith fyrrach ac wedi dioddef 3 llithriad disg. Cyn cael Atgyfeiriad Meddyg Teulu i’r gwasanaeth gosodwyd orthotegau yn y ddwy esgid ac roedd yr ymgynghorydd wedi rhagweld yr angen am lawdriniaeth i glipio’r esgyrn canol ynghyd ar un droed ac asio’r ffêr. Pan wnaed yr atgyfeiriad, roedd y boen mor ddwys fel ei fod fwy neu lai wedi rhoi’r gorau i gerdded, yn syrthio’n gyson, yn magu pwysau ac yn dioddef effeithiau meddyliol. I reoli hyn, roedd hefyd yn cymryd llawer o gyffuriau gwrth-lidiol ar bresgripsiwn.

Cymorth i’r Cleient: I ddechrau, ymunodd â Chynllun Cerdded y Cyngor am gymorth i ddysgu cerdded yn unionsyth ar ôl i orthoteg newydd gael eu gosod gan arwain at wastadau ei uchder gwahaniaethol. Ar ôl elwa’n fawr o’r Cynllun Cerdded cafodd ei atgyfeirio ymhellach ar y Rhaglen ‘Atal Syrthio’. Heddiw mae ond yn profi diwrnodau achlysurol o boen, ychydig iawn o feddyginiaeth lladd poen y mae’n ei gymryd, mae’n gallu cerdded yn rhydd ac mae’r driniaeth ddisgwyliedig wedi cael ei gohirio ac mae’n cael ei fonitro’n unig gan yr Ymgynghorydd.

Adborth y Cleient: Derbyniwyd tystlythyr Cleient oddi wrtho, lle mae’n datgan bod yr Ymgynghorydd wedi ‘synnu ychydig’ gyda’r cynnydd a welwyd, nad yw bellach mae’n cerdded gyda ‘rholiad morwyr’, yn anaml y mae’n disgyn bellach, ond pan mae’n gwneud mae fel arfer yn gallu arbed ei hun, gall rŵan gerdded ble bynnag y mae’n dymuno ac ychydig iawn o boen y mae’n dioddef.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

[Read more…]

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English