Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Mwy na geiriau (diweddariad)

Mae’r strategaeth Mwy Na Geiriau yn dal i fod yn faes blaenoriaeth i’r cyngor ac rydym wedi ymrwymo i gwblhau’r camau gweithredu ym mlynyddoedd un a dau’r cynllun a pharatoi ar gyfer blwyddyn tri.

Beth sydd wedi newid?

Cyhoeddodd Uned Ymchwil a Gwybodaeth Corfforaethol CBSC fwletin ymchwil o’r enw ‘Yr Iaith Gymraeg ym Mwrdeistref Sirol Conwy’. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn ôl rhanbarth etholiadol, ardal cyngor cymuned, oedran a dosbarthiad daearyddol. Gofynnodd yr awdurdod hefyd i weithwyr ‘beth yw eich dewis iaith? ‘ Datblygwyd holiadur dwyieithog i’w anfon at bob darparwr gwasanaethau yn yr ardal i ganfod proffil iaith eu staff.

Nododd y Rheolwr Systemau TGCh, sy’n rhan o’r gweithgor a sefydlwyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, y grwpiau allweddol canlynol o swyddogion sy’n rhoi cefnogaeth TGCh i Wasanaethau Cymdeithasol:

  • Tîm Systemau TG 2
  • Tîm Cymorth Technegol TG 2
  • E-Lywodraeth (Tîm y We, LLPG, GIS ac EDM)

Mae rheolwyr atebol o’r timau uchod a’r Rheolwr ei hun wedi edrych ar y DVD Mwy na Geiriau.

Mae fersiwn newydd o System Gwybodaeth Rheoli PARIS (V5) yn cael ei phrofi (cyfnod beta) ar hyn o bryd a gall y ‘deilliant i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr fod yn Gymraeg neu Saesneg’.

Tîm Gofal Cwsmer Dwyieithog (h.y. Gwasanaeth pwynt cyswllt cyntaf) yn gofyn cwestiynau allweddol i’r galwr, gan gynnwys dewis iaith. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi ar y system PARIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Reoli) a’i defnyddio gan reolwyr wrth ddyrannu ymarferwyr sy’n gallu cyfathrebu yn newis iaith yr unigolyn.

Datblygwyd canllawiau ynghylch yr hyn yw gwasanaeth ‘Cynnig Gweithredol’.

Dosbarthwyd 220 o gortynnau gwddf i’r holl staff sy’n siarad Cymraeg. Fodd bynnag, soniwyd y byddai’n ddefnyddiol pe bai cortynnau gwddf tebyg ar gyfer Dysgwyr ac rydym wrthi’n prynu’r cortynnau gwddf dysgwyr ar gyfer staff.

Rydym wedi dadansoddi demograffeg Conwy i nodi lefelau siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth a’u mesur yn erbyn lefelau’r siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd. Y diben yw nodi a yw nifer y staff sy’n siarad Cymraeg yn y gweithlu yn cyfateb â lefelau ym mhoblogaeth Conwy. Rydym eisoes yn gwybod bod cyfran siaradwyr Cymraeg yn y sector preifat yn is na chyfran y boblogaeth.

Rhoddir ystyriaeth i sgiliau iaith Gymraeg tîm pryd bynnag y caiff swydd ei hysbysebu – yna trafodir yr asesiad hwn gyda Swyddog Iaith Gymraeg yr awdurdod. Rydym wedi trafod gofynion y fforwm blynyddol gyda’n darparwyr gofal yn y cartref a darparwyr cartrefi preswyl/nyrsio.

Mae’r strategaeth Mwy Na Geiriau wedi ei chynnwys fel rhan o raglen sefydlu gorfforaethol i staff newydd.

Rydym yn sicrhau bod hyfforddiant yn cydymffurfio â Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol y Cyngor Gofal:

Amcan Dysgu 1: egwyddorion a gwerthoedd gofal

  • Deall pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig wrth gefnogi unigolion.

Amcan Dysgu 4: gwrando a chyfathrebu’n effeithiol.

  • Deall yr angen i ddiwallu anghenion cyfathrebu ac iaith, dymuniadau a dewisiadau a) unigolion, b) teuluoedd, c) gofalwyr a ch) eraill
  • Mae ein cyngor ieuenctid wedi datblygu DVD o’r enw ‘don’t be shy – siarad Cymraeg’ sy’n ymwneud â hyrwyddo’r iaith ymysg pobl ifanc.

http://conwyyouthcouncil.org.uk/dont-be-shy-siarad-cymraeg/

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Yn gyffredinol mae mwy o ymwybyddiaeth o’r angen i sicrhau ymateb cadarn i gynnig y dewis neu ‘gynnig gweithredol’ yn Gymraeg i’n defnyddwyr gwasanaeth. Rydym yn gwybod bod gwaith i’w wneud yn y sector gofal a’n nod yw cefnogi darparwyr gofal preswyl a gofal yn y cartref drwy hyfforddiant ac annog y gweithlu i fod yn fwy hyderus yn eu defnydd o’r iaith.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymagweddau Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar y Person tuag at ymchwiliadau POVA

Mae Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn gofyn i ni gryfhau ein hymagwedd tuag at Ddiogelu Oedolion. Bydd yn trawsnewid y ffordd y caiff Gwasanaethau Cymdeithasol eu darparu ac yn hyrwyddo annibyniaeth pobl, mae’n gofyn inni sicrhau bod ein cwsmeriaid yn ganolog i’r hyn a wnawn a’n bod yn ymgynghori ac yn gwrando arnynt. Yn y gwasanaethau anableddau, yn aml mae gan yr oedolion rydym yn gweithio gyda nhw anawsterau cyfathrebu ac mae hyn yn gosod her i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Mae eu cynnwys yn y broses POVA yn her y mae angen i ni fynd i’r afael â hi, yn enwedig o ran ymchwiliadau POVA.

Beth sydd wedi newid?

Mae ymchwiliadau POVA yn cynnwys cyfweliadau ffurfiol gyda staff, a defnyddwyr gwasanaethau dan sylw. Er mwyn gwneud y broses yn gynhwysol ac yn ystyrlon, dyfeisiwyd dulliau creadigol i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth. Mae nifer o ffactorau i’w hystyried; iaith, cyflymder, gallu a hanes personol pobl. Rydym wedi cynnal dau ymarferiad grŵp gan ddefnyddio’r ddwy dechneg. Yn gyntaf, gan ddefnyddio cwestiynau agored a’u cofnodi ar bapur siart troi mawr, gan ddefnyddio geiriau syml a lluniau. Roeddem yn defnyddio testunau cyffredinol ac nid oedd unrhyw gwestiynau arweiniol. Gwelsom fod hyn yn annog sgwrs naturiol, ac yn y ddau ymarferiad, casglom y wybodaeth oedd angen heb achosi unrhyw ofid i’r unigolion dan sylw. Ar yr un pryd, roeddem yn onest iawn ac yn glir ynghylch yr hyn roeddem yn ei ofyn. Defnyddiais rai awgrymiadau gweledol hefyd, ar ffurf blwch sgleiniog aur a bin du i osod sylwadau da a drwg ynddo. Gweithiodd hyn yn dda a rhoddwyd cefnogaeth i’r defnyddwyr gwasanaeth ysgrifennu eu sylwadau i lawr. Defnyddiwyd lluniau o staff ac awgrymiadau gweledol lle bynnag yr oedd modd.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Y prif wahaniaeth yw ein bod yn gallu defnyddio barn a theimladau ein defnyddwyr gwasanaeth yn ein hymchwiliad a’n hargymhellion ar gyfer y broses POVA. Ni allwn dybio ein bod yn gwybod beth mae pobl yn meddwl ac nid yw’n dderbyniol gofyn i’r bobl yng nghanol y broses. Mae’n gwneud i’n defnyddwyr gwasanaeth deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn dystiolaeth ein bod yn eu gosod yng nghanol ein harfer.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Sesiynau Staff ar y Cod Ymarfer

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn nodi’r safonau ymddygiad, fel bod gweithwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt a bod y cyhoedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan weithwyr. [Read more…]

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Hyfforddiant Deddf Iechyd a Lles

Mae angen cryn dipyn o waith paratoi cyn i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) gael ei gweithredu ym mis Ebrill 2016. ac wrth gynllunio’r hyfforddiant hwn yng Nghonwy nid oedd unrhyw fanylion pendant eto ar waith ar gyfer gweithredu hyfforddiant Cyngor Gofal Cymru yn rhanbarthol, yn ddiweddarach yn 2015-6.

Y cymhellion ar gyfer comisiynu’r hyfforddiant ymwybyddiaeth hwn yng Nghonwy oedd y diddordeb cynyddol ymhlith y gweithlu ac asiantaethau allanol ynglŷn â’r hyn y byddai hyn yn ei olygu i’r adran a’i swyddogaeth. Roedd hwn yn gyfle da i alluogi’r rhai oedd yn bresennol i’w chysylltu â’r broses oedd ar y gweill i drawsnewid y gwasanaethau cymdeithasol mewn ymateb i ofynion y ddeddfwriaeth. Nid oedd unrhyw gwrs ar gael yn lleol, wedi’i anelu at yr holl staff, a oedd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth yn y gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, ac asiantaethau partner. Bydd staff sydd yn fwy ymwybodol o’r cychwyn yn fwy abl i newid y ffordd maent yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol ar gyfer ein cwsmeriaid.

Beth sydd wedi newid?

Bydd egwyddorion arweiniol y ddeddfwriaeth hon yn cael effaith sylweddol ar waith amlddisgyblaeth yn y dyfodol a sut y caiff gwasanaethau eu darparu yn y pen draw. Felly penderfynwyd cynnig yr hyfforddiant yn ehangach i wahodd yr holl asiantaethau partner, iechyd a holl staff Cyngor Conwy. Cafodd yr hyfforddiant hwn ei gyflwyno mewn 4 sesiwn hanner diwrnod gyda phresenoldeb cymysg o’r holl asiantaethau a wahoddwyd. Cyflwynwyd yr hyfforddiant yn lleol gan Wasanaethau Cyfreithiol Conwy gyda dull integredig, yn canolbwyntio ar yr effaith bosibl ar oedolion a gwasanaethau plant.

Pa wahaniaeth wnaeth hyn?

Rydym wedi codi ymwybyddiaeth am oblygiadau’r Ddeddf ymysg yr holl asiantaethau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae cydweithwyr wedi ennill dealltwriaeth o’r newidiadau i wasanaethau a swyddogaeth adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.

Rhoddodd gwybodaeth sylweddol y tîm cyfreithiol a gyflwynodd yr hyfforddiant ddadansoddiad manylach o ganlyniadau posibl, a sut y gallai’r ddeddfwriaeth newydd effeithio ar ymarfer yn y dyfodol. Yn ogystal, galluogodd sesiynau gwaith grŵp i’r hyfforddwyr gasglu adborth i fwrw ymlaen i’r prosesau ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar y Codau Ymarfer a’r Rheoliadau. Casglwyd anghenion hyfforddi yn y dyfodol hefyd oddi ar ffurflenni gwerthuso’r sesiynau i lywio cynlluniau hyfforddiant rhanbarthol a lleol ymhellach.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid

Ar 19 Mawrth 2014, newidiodd y gyfraith ynghylch pobl nad oedd â’r gallu i wneud penderfyniadau ynghylch ble maent yn byw ac am eu trefniadau cynllunio gofal dros nos yng Nghymru a Lloegr. Cyflwynwyd ‘prawf terfynol’ syml gan y Goruchaf Lys sef y byddai’n rhaid asesu unrhyw un a oedd wedi ei roi mewn Cartref Preswyl/ Nyrsio, Ysbyty neu brosiect Byw â Chymorth a heb allu; a oedd yn cael eu monitro 24 awr y dydd ac nad oeddent yn cael hawl i fynd allan ar eu pennau eu hunain gael eu hasesu am Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.

Nod y trefniadau diogelu yw sicrhau bod y bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas yn cael ‘llais’ fel bod eu hanghenion, dymuniadau a’u teimladau’n cael eu hystyried a bod ganddynt lais pan fydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud amdanynt. Mae’n sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu cynnal a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud gyda nhw ac nid ar eu rhan.

Beth sydd wedi newid?

Er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith newydd, roedd rhaid i Gonwy sicrhau bod systemau a phrosesau ar waith i ateb y galw. Cyfrifoldeb y Cartrefi Nyrsio/Preswyl / prosiectau Byw â Chymorth yw cyfeirio unrhyw un sy’n cwrdd â’r ‘prawf terfynol’ at y Gwasanaethau Cymdeithasol. Unwaith y bydd atgyfeiriad wedi’i dderbyn a’i gytuno arno, bydd Aseswr Lles Gorau (BIA) a Meddyg a gymeradwywyd o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 yn mynd allan i asesu’r person dan sylw.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl a aseswyd eu bod yn cwrdd â gofynion y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy wedi cyhoeddi awdurdodiad i Gartrefi Gofal sy’n eu galluogi i amddifadu rhywun o’i ryddid, lle bod hynny er lles y person i’w cadw’n ddiogel.

Yn ddiweddar, aeth BIA a Meddyg allan i asesu Mrs Jones, gwraig 78 mlwydd oedd yn dioddef o Dementia ac yn byw mewn Cartref Preswyl. Roedd yn amlwg nad oedd Mrs Jones yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch ble roedd hi’n byw a’i threfniadau cynllunio gofal, fodd bynnag, roedd ei theulu’n poeni am ei gofal. Yn ystod yr asesiad, daeth yn amlwg bod Mrs Jones wedi dioddef nifer o godymau dros sawl mis, ac wedi bod i’r Adran Ddamweiniau ac Argyfwng ac wedi bod angen pwythau.

Gosododd y BIA a’r Meddyg Mrs Jones ar Drefniadau Diogelu, fodd bynnag gwnaethant hefyd argymell bod achos Mrs Jones yn cael ei gyfeirio at y Panel Diogelu Oedolion Diamddiffyn, oherwydd eu pryderon ynghylch nifer y syrthiadau a theimlwyd bod angen ymchwilio i hyn – mae hyn yn unol ag adran 128 (3) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru), 2014.

 

Er bod y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn ymwneud yn bennaf â hawliau dynol pobl, mae hefyd yn broses ddiogelu i sicrhau bod pobl ddiamddiffyn sydd â diffyg gallu yn cael eu hamddiffyn rhag niwed a’u cadw’n ddiogel.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf

Mae pob teulu sy’n byw yn yr ardal wledig yn wynebu amddifadedd o ran mynediad i wasanaethau. Ar ben hyn mae llawer hefyd yn dioddef tlodi. [Read more…]

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Sefydlu’r adran Lles Cymunedol

Cafodd y Gwasanaeth Lles Cymunedol ei greu o’r newydd ym mis Mehefin 2014. Un o’i tair adran, pob un ohonynt yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i gyflawni heb greu dibyniaeth ar wasanaethau, yw’r Adain Perthnasau Annibynnol a’r Trydydd Sector. Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddeall ein cymunedau a’u hanghenion yn well, a’n bod yn gweithio gyda nhw i ddatblygu gwasanaethau sy’n diwallu’r anghenion hynny. Rydym yn gwybod, gyda’r heriau ariannol rydym yn eu hwynebu, na fyddwn yn gallu diwallu’r anghenion hynny heb weithio’n agos gyda’r sector annibynnol/preifat na fudiadau yn y trydydd sector a’r sector gymunedol.

Beth sydd wedi newid?

Yn 2014/15 nodom yr angen am y tîm, a thynnom ynghyd swyddogaethau staff presennol a fyddai’n rhan o’r tîm. Gwnaethom gydnabod y byddai angen rheolwr ar y tîm, a bod hefyd angen swydd bwrpasol i ganolbwyntio ar gomisiynu gwasanaethau nad oedd ar gyfer plant a phobl ifanc. Hysbysebwyd y swyddi hyn a chafodd unigolion eu recriwtio. Mae’r staff a oedd eisoes yn eu swyddi wedi mynd ati’n rhagweithiol i geisio cydweithio, gan nodi cyfleoedd ar gyfer gwell dulliau a gwaith wedi’i gydlynu.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Yn fewnol, rydym wedi newid diwylliant ein hymagwedd – rydym yn dymuno gweithio mewn partneriaeth â’n dinasyddion a’n darparwyr. Yn allanol, rydym eisiau sicrhau bod y ffocws ar atal yn golygu bod angen cymorth mwy dwys ar lai o bobl, gan y byddwn yn helpu pobl i ddod o hyd i’r cymorth priodol pan fydd ei angen, wrth iddynt weithio i gadw a chynnal eu hannibyniaeth. Mae sefydlu’r tîm wedi gosod cyfeiriad clir ar gyfer ymagwedd Gofal Cymdeithasol Conwy; gweithio gyda’n cymuned, darparwyr a darparwyr posibl i ddatblygu’r gwasanaethau sydd eu hangen yn y sir. Mae’r tîm wedi dechrau adolygu contractau presennol, nodi cyfleoedd i wella trefniadau a dulliau eraill o gomisiynu.

(Bydd y gwahaniaeth a wnaed gan y tîm i’w gweld fwyaf amlwg dros y 12 mis nesaf, wrth symleiddio prosesau ar gyfer rheoli dyraniadau grant, bydd datganiadau sefyllfa’r farchnad yn cael eu datblygu i ddangos i ba gyfeiriad y mae’r awdurdod yn mynd ati i geisio datblygu gwasanaethau. Bydd strategaeth gomisiynu glir, wedi’i chanolbwyntio yn cael eu datblygu, a bydd ein dull o atal anghenion cynyddol a sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fod yn annibynnol yn amlwg ynddo.)

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Datblygu Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn

O fewn y strwythur blaenorol, sefydlwyd timau i ddarparu gwasanaethau i unigolion sy’n cael diagnosis ar gyfer cyflyrau penodol fel salwch meddwl, anabledd, anabledd dysgu neu nodweddion fel oedran. Mae’r system hon wedi methu rhai pobl nad ydynt yn rhan o’r strwythur traddodiadol. Yn flaenorol, byddai unigolion o’r fath yn cael eu trosglwyddo o un tîm i’r llall ac ychydig o arbenigedd fyddai gan ddeiliaid achos i gwrdd â’u bregusrwydd a’u hymgyflwyniad unigryw. Testun hyd yn oed mwy o bryder oedd y posibilrwydd y byddent yn syrthio drwy’r rhwyd yn gyfan gwbl ac yn cyflwyno materion heriol rheolaidd i bob gwasanaeth cymunedol fel tai, y gwasanaeth tân a’r heddlu.

Mae Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn amlwg yn gymhelliant sylweddol dros newid.

Sefydlwyd y Panel Oedolion Diamddiffyn yn 2011 ac ers hynny nodwyd galw mawr am wasanaeth ar gyfer pobl diamddiffyn nad ydynt yn bodloni’r meini prawf y cyfyngwyd y timau eraill i’w darparu. Yn ystod 2014-2015, aeth y tîm rheoli i’r afael â’r angen heb ei ddiwallu hwn drwy adleoli staff o dimau presennol i sefydlu tîm newydd fyddai’n datblygu arbenigedd ar weithio gyda’r grŵp hwn o bobl, gyda gwahanol anghenion heriol.

Beth sydd wedi newid?

Mae gennym dîm sefydledig gyda 2 weithwyr cymdeithasol, 1 Therapydd Galwedigaethol, 1 uwch weithiwr cymorth 1 cymhorthydd therapi galwedigaethol. Mae pobl yn y tîm wedi ymrwymo i weithio gyda dinasyddion diamddiffyn a chefnogi’r unigolion hynny i gyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig i’r unigolion. Mae’r Rheolwr Tîm yn mynd i gyfarfodydd atgyfeirio iechyd meddwl yn rheolaidd ac yn nodi achosion lle mae materion ynglŷn â phobl ddiamddiffyn yn cael eu nodi ond sydd o natur na fyddai’n cyrraedd y trothwy ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd. Mae’r achosion hynny’n cael eu hasesu a’u cefnogi wedyn gan y tîm drwy ddull sy’n canolbwyntio ar y person. Mae’r unigolion yn cael eu cefnogi i gael mynediad at adnoddau cymunedol cyffredinol i’w helpu i gyflawni gwell lles. Mae’r tîm wedi gweithredu offeryn asesu canlyniadau a mesurau canlyniadau effeithiol y maent yn treialu yn ystod eu blwyddyn gyntaf.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Rydym wedi llwyddo i gefnogi nifer o bobl i newid eu bywydau a dod yn fwy integredig yn eu cymuned leol.

Astudiaeth Achos

Roedd un o’r unigolion rydym yn helpu yn dioddef o syndrom Asperger. Roedd wedi cael trafferth drwy gydol ei blentyndod ac roedd mynd i’r coleg a chael mynediad i’r gymuned yn hynod heriol iddo. Datblygodd y gweithiwr cymorth berthynas briodol gyda’r unigolyn ac roedd yn ei gefnogi’n wythnosol i fynd i’r coleg ac yn helpu i feithrin ei hyder i sefyllfa lle gallai fynd i’r coleg ar ei ben ei hun. Mae wedi parhau i ddatblygu ei hyder ac mae bellach yn cadw swydd wirfoddol mewn siop elusen leol. Mae ei deulu wedi gwneud sylw ar y gwahaniaeth yn y dyn ifanc hwn ac mae tensiynau yn y cartref wedi eu rhyddhau.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Sgwrs yr Hyn sy’n Bwysig

Ar 2 Rhagfyr 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol i Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol a elwir yn “Trefniadau Asesu, Cynllunio ac Adolygu Integredig ar gyfer Pobl Hŷn”.Dolen
Mae’r canllawiau yn nodi’r cyfrifoldebau a’r dyletswyddau sydd ar Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i ddarparu trefniadau integredig ar gyfer asesu a rheoli gofal i bobl hŷn a disodlodd y canllawiau: Creu System Unedig a Theg ar gyfer Asesu a Rheoli Gofal. Y nod yw symleiddio’r broses asesu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael gwell gwasanaethau a gwell canlyniadau.

Gorchmynnodd Llywodraeth Cymru ddatblygu a gweithredu’r templed asesu cyffredin (sy’n cynnwys y Set Ddata Gyffredin a chofnod ‘Dyma Beth sy’n Bwysig’ o’r sgwrs) erbyn 30 Ebrill 2014.

Cytunodd pob un o 6 Awdurdod Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ddefnyddio’r dull newydd hwn ar gyfer pob oedolyn ar wahân i’r rai dan y Mesur Iechyd Meddwl. Cyflwynwyd y ddogfen asesu newydd ar 30 Mehefin 2014.

 

Beth sydd wedi newid?

Mae staff sy’n gweithio yn y pwynt cyswllt cyntaf o fewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn llenwi’r templedi asesu newydd pan fydd aelodau o’r cyhoedd yn cysylltu. Mae’r wybodaeth sylfaenol yn cael ei llenwi, ynghyd â’r camau gweithredu cychwynnol a gymerwyd – gall hyn gynnwys asesiad syml pellach ar gyfer darparu cymhorthion ac offer neu atgyfeiriad i wasanaethau ail-alluogi neu ofal canolradd.

Gwneir atgyfeiriadau i Wasanaethau Cymdeithasol Conwy gan asiantaethau mewnol ac allanol gan ddefnyddio’r Set Ddata Graidd a’r ‘Sgwrs yr Hyn sy’n Bwysig’ ac mae’r un yn wir am atgyfeiriadau i’r asiantaethau hynny. I gefnogi staff ac arbed yr angen am ail neu drydedd sgwrs i gasglu gwybodaeth ychwanegol am wasanaethau penodol, cynhyrchwyd cyfres o gymhorthion atgoffa. Mae’r rhain yn cynnwys atgyfeiriadau i ac atgyfeiriadau gan Hawliau Lles, Landlordiaid Cymeradwy, Dirprwyon a Benodwyd gan Lys, Cynnal Gofalwyr, Cymdeithas Alzheimer, Age Concern a’r Groes Goch Brydeinig.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Mae’r cymhorthion atgoffa wedi eu rhannu gyda 6 Awdurdod Gogledd Cymru a BIPBC. Mae BIPBC wedi cynhyrchu dogfennau tebyg ers hynny yn eu meysydd gwasanaeth eu hunain.

Rŵan, gall defnyddwyr gwasanaeth adrodd eu hanes a rhoi gwybodaeth hanfodol i bobl unwaith, boed hyn mewn lleoliad iechyd, gofal cymdeithasol neu wirfoddol, dull llawer llai ymwthiol o gasglu data.

Mae’r sgwrs wedi amlygu beth sydd wir yn bwysig i’r unigolyn a gellir cynnig cymorth holistaidd gan gwrdd â’r agenda lles.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Un Pwynt Mynediad (Tîm Mynediad Conwy)

“Mae’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i unigolion ynghylch iechyd a lles i gynorthwyo gydag anghenion lles unigol”.

Cysylltwch â thîm Un Pwynt Mynediad

Prif amcanion prosiect Un Pwynt Mynediad Conwy yw

  • datblygu a chyflwyno gwasanaeth gwybodaeth ac ymholiadau i’r cyhoedd
  • ymateb i bob ymholiad a
  • rhoi mynediad i wasanaethau ymyrraeth / ataliaeth fuan neu gymorth a reolir (o gyfeirio i atgyfeirio a chydlynu gofal).

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles [2014], mae’n canolbwyntio ar ddatblygu Gwasanaethau Lefel 1 Cyffredinol a rhoi mynediad i Wasanaethau Lles Cymunedol / Ymyrraeth Fuan Lefel 2.Mae SPOA yn rhoi ystod lawn o wasanaethau h.y. cyfeirio, gwybodaeth, cyngor, asesu, atgyfeirio a chydlynu gofal, gan adeiladu ar drefniadau, datblygiadau a darpariaeth bresennol.

Y Weledigaeth ar gyfer SPOA Conwy yw:

“darparu gwasanaeth dibynadwy a hygyrch ar sail sgyrsiau gwybodus, parchus ar adegau allweddol pan fydd pobl angen cyngor, gwybodaeth a chymorth; er mwyn helpu pobl i fod yn fwy gwybodus, yn fwy annibynnol a gofalu am eu hunain a’u cefnogi pan fyddant yn ddiamddiffyn a’u cynorthwyo i gynnal eu hannibyniaeth ac aros yn ddiogel yn eu cartrefi lle bynnag y bo modd drwy gydlynu gofal yn effeithiol “.

Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?

  • Dinasyddion mwy gwybodus, mwy annibynnol, sy’n gofalu am eu hunain.
  • Gwell integreiddiad, cydlyniad gofal, lleihau dyblygu a lleihau biwrocratiaeth.
  • Proffilio risg yn well ar systemau gofal cymdeithasol ac iechyd er mwyn gallu cynnig lefelau priodol o gymorth yn gynt a lleihau’r perygl o achosion lle nad oes gofal wedi’i drefnu.
  • Gwasanaeth mwy cynaliadwy, sy’n gallu ymateb yn well i alw cynyddol.
  • Safbwynt y dinesydd fydd y sail ar gyfer y model newydd. Bydd ymgysylltu drwy gydol y rhaglen yn allweddol i hyn.

Pa wahaniaeth y gwnaeth hyn?

Isod mae llythyr yn seiliedig ar adborth cleient, sy’n dangos y math o wahaniaeth y mae’r gwasanaeth yn ei wneud i bobl.

Annwyl Tamara

Rwyf newydd gyrraedd yn ôl o egwyl hyfryd a oedd yn fwy melys gan fod yn gwybod bod rhywun yn cadw llygad ar mam a dad ac nad oedd angen i mi boeni. Roedd y ddynes y siaradais i efo hi yn Nhîm Mynediad Conwy yn gyfeillgar iawn ac yn ymddangos ei bod yn gwybod pa gwestiynau i’w gofyn.

Cyn i mi adael roedd hi wedi trefnu bod cymhorthion cerdded ac offer yn cael eu darparu er ein bod wedi dweud wrthyn nhw ei bod yn bosibl mai dros dro oedd hyn, dwedont wrthym y gallem ei gadw cyhyd ag y bydd angen. Roedd Mam wedi cael ychydig o sioc i ddechrau pan ddaeth 3 o ferched ond roedd yn deall ar ôl iddynt egluro bod gan bob un ohonynt swyddi ychydig yn wahanol ac ar ôl iddynt esbonio’r hyn roeddent yn ei wneud. Roeddent yn siarad yn glir gyda mam ac yn esbonio popeth iddi, heb ruthro o gwbl. Roedd hyd yn oed ganddynt offer i’w adael gyda ni’r diwrnod hwnnw.

Roeddent yn gwybod y cyfan am ei phoen ysgwydd, ac roeddynt yn gallu egluro pethau i dad hefyd. Mae dad yn tueddu i boeni ac yn gadael i mi siarad ar ei ran ond mae yno y rhan fwyaf o’r amser ac mae angen dangos iddo sut i helpu mam. Mi wnaethant egluro pwysigrwydd peidio â chodi mam ein hunain a’r risgiau sy’n gysylltiedig.

Dywedont eu bod eisiau dod yn ôl i wneud ychydig o waith dilynol a gwaith ailalluogi gyda mam i fagu ei hyder i gerdded unwaith eto. Dim ond dwy o ferched ddaeth yr ail waith ac nid oedd unrhyw frys arnynt, er nad oedd mam wedi gwneud llawer o gynnydd mi wnaethant siarad efo hi am ei phryderon a gyda’u hanogaeth mam cododd mam o’r gwely a defnyddio’r offer oedd gyda nhw.

Roedd mam yn ymddangos yn gyfforddus iawn gyda nhw ac roedd yn braf gwybod y byddent yn parhau i alw i mewn dros yr ychydig wythnosau nesaf. Roeddwn yn ystyried oedi cyn mynd am egwyl, er nad oeddem wedi bod i ffwrdd ers bron i 2 flynedd gan ein bod yn gofalu am mam a dad.

Tua’r un pryd cefais alwad ffôn gan ddynes arall i weld sut roeddwn i’n teimlo eu bod yn gwneud a dywedodd ei bod yn yno i fy nghefnogi yn y swyddogaeth fy gofalwr. Dywedodd y gallwn gwrdd â hi a siarad am rai o’r pethau roeddwn yn eu gwneud a rhai o’r pryderon a oedd gennyf ynglŷn â gofalu am fy rhieni.

Eglurodd fod gan Cynnal Gofalwyr weithdrefn, os oes unrhyw beth yn digwydd i’r gofalwr, bod gwybodaeth ar gael i alluogi rhywun arall i helpu. Byddai hyn yn golygu, pe bai unrhyw beth yn digwydd i dad tra’n bod i ffwrdd y byddent yn gwybod beth oedd anghenion a phryderon mam ac yn gallu trefnu neu siarad â’r bobl iawn a allai ei helpu.

Mae’n teimlo fel bod pwysau wedi ei godi, doeddwn i heb sylweddoli faint roeddwn i’n ei wneud dros fy rhieni a pha mor ddibynnol oeddynt arnaf. Mae hyder dad wedi codi ac mae mam yn dal i fynd o nerth i nerth. Mae seibiant hirach neu hyd yn oed wyliau tramor yn edrych yn bosibl bellach.

Diolch am eich cefnogaeth a’ch cymorth, roedd yn dda gwybod nad oedd rhaid i mi ffonio o gwmpas llawer o leoedd a dweud wrth bob un ohonynt beth oedd yn digwydd – dywedais unwaith ac yna roedd yn ymddangos fod pawb yn gwybod.

Cofion am y tro.

Joan

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Yn ystod 2014-15 rydym wedi gweithredu ein Rhaglen Drawsnewid i ail-alinio gwasanaethau i wasanaethu pobl Conwy yn well, o fewn ethos y Ddeddf newydd. [Read more…]

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English