Yn dilyn y cynllun prawf swyddfeydd Doethwaith llwyddiannus yn 2013/14, amlinellodd y Gwasanaethau Cymdeithasol raglen o weithredu’r arferion gwaith hyn ar draws rhagor o safleoedd addas i wella hyblygrwydd ar draws y gweithlu a gostwng costau drwy leihau’r sail asedau. [Read more…]
Monitro adolygu grantiau
Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn teimlo bod mynd i’r afael â thlodi yn bwysig iawn a’i bod ond yn bosibl i ni wneud hyn gyda’n gilydd. Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i hyn mae gennym Fwrdd Trechu Tlodi sy’n edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi pobl i adael tlodi. [Read more…]
Grant Cronfa Gofal Canolradd yng Nghonwy
Prif ddiben Gofal Integredig yw sicrhau bod dinasyddion yn cael profiad gwell o ofal a chymorth, yn profi llai o anghydraddoldeb a sicrhau gwell canlyniadau. Dylid dylunio a darparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac annibynnol i hyrwyddo a chynyddu lles; gan alluogi’r person i fyw’n annibynnol yn eu cymuned mor hir â phosibl, gyda gwasanaethau’n cael eu darparu yng nghartref y person ei hun neu mewn lleoliadau cymunedol i osgoi’r angen am ofal parhaus, aciwt neu sefydliadol. [Read more…]
Integreiddio’r Uned Ddiogelu
Mae’r uned diogelu yng Nghonwy bellach yn wasanaeth integredig sy’n cwmpasu diogelu oedolion a diogelu plant.
Mae Cadeiryddion Diogelu Annibynnol (CDA) yn gyfrifol am gadeirio:
- Adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal
- Cynadleddau Amddiffyn Plant
- Cynadleddau Diogelu Oedolion
Mae’r Uned yn datblygu gwaith i ddiogelu pobl ddiamddiffyn yng Nghonwy sy’n gweithio’n agos gyda’r Heddlu, Tai, Iechyd, y Gwasanaeth Prawf, Addysg ac asiantaethau Sector Annibynnol. [Read more…]
Datblygiad y Fframwaith Sicrhau Ansawdd
Nod rhaglen drawsnewid y Gwasanaethau Cymdeithasol yw hyrwyddo integreiddiad a chysondeb ar draws pob Gwasanaeth, cynyddu effeithlonrwydd yn y defnydd o adnoddau, cynyddu annibyniaeth a rheoli risg. [Read more…]
Gwasanaeth Ymateb Teleofal
Mae’r galwadau cynyddol sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio a’r angen i gefnogi nifer cynyddol o bobl yn y cartref yn golygu bod angen canolbwyntio ar alluogi pobl i fod mor annibynnol ag y bo modd a gwneud defnydd llawn o’r technolegau sydd ar gael i gynorthwyo â hyn.
[Read more…]Ailstrwythuro Trawsnewid
Sefydlwyd y Rhaglen Trawsnewid Gofal ym mis Mawrth 2012 drwy adolygu prosesau busnes a Strwythurau Gwasanaeth er mwyn cwrdd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 a’r heriau ariannol y mae’r adran yn eu hwynebu. [Read more…]
Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Pwrpas rhai o’r prif ffyrdd y gwnaethom ail-alinio gwasanaethau oedd diwallu anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014, ac maent wedi eu hamlygu yn yr adran arbennig honno, gweler tudalennau 16-29. [Read more…]