Mae Partneriaeth Pobl Conwy yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyfranogiad plant, pobl ifanc, teuluoedd a rhieni / gofalwyr yn y broses o wneud penderfyniadau ac yn cydnabod manteision gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau. Bydd Bwrdd Partneriaeth Pobl Conwy a Grwpiau Canlyniadau Conwy yn parhau i wrando ar syniadau defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu gwasanaethau ymatebol ac effeithiol.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein Cynllun Cyfathrebu sy’n dangos systemau a phrosesau i ategu Cytundeb Gweithredol Bwrdd Partneriaeth Pobl Conwy, sy’n gosod egwyddorion ar waith er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o agweddau ymarferol gweithio mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid amlasiantaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’r bartneriaeth hefyd yn cydnabod pwysigrwydd mewnoli ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, ‘Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’, ac yn gweithio gyda’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd a ffurfiwyd.