Mae gan Ffyrdd o Fyw Egnïol a Chreadigol (yn y Gwasanaeth Datblygu Cymunedol), hanes o ddarparu cymorth cadarnhaol i alluogi mynediad i wasanaethau hamdden, profiad gwaith a chyfleoedd cyflogaeth i bobl ddiamddiffyn. Mae sefydlu prosiect peilot gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi adeiladu ar y llwyddiant hwn ac wedi ein galluogi i archwilio cyfleoedd newydd drwy wirfoddoli a phrofiad gwaith yn ein cyfleusterau hamdden gan alluogi unigolion i fagu hyder i symud ymlaen at bethau eraill.
Datblygwyd Camau Ffitrwydd ym mis Mehefin 2014. Mae’n rhaglen ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau, ac yn galluogi unigolion i gael gwybod am a mynychu gweithgareddau mewn Canolfannau Hamdden lleol ledled Conwy.
Darperir cefnogaeth am hyd at 16 wythnos y gellir ei ymestyn os oes angen, i alluogi unigolion, yn y pen draw, i fynd i’r Ganolfan Hamdden ar eu pennau eu hunain, defnyddio’r cyfleusterau yn y ganolfan hamdden a mynd i’r gweithgaredd yn gwbl annibynnol.
Wrth i’r person ddysgu sut i wneud hyn, maent yn cael eu cefnogi’n llawn gan aelod o staff y Gwasanaethau Anabledd a fydd yn addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gyrraedd yno a chymryd rhan yn y gweithgaredd.
Hyd yn hyn, mae pobl sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen wedi elwa yn y dulliau canlynol:
- Dysgu sgiliau newydd a dod yn gwbl annibynnol wrth deithio i weithgareddau
- Gwneud ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill o ganlyniad i’r cyfeillgarwch newydd
- Dysgu sgiliau rheoli amser
- Mwy o gymhelliant a dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol heb eu cymell
- Gwell lles meddyliol – cysgu, lleihau pryderon, dewis i fwyta bwydydd iachach
- Colli pwysau
- Gwelliant mewn cyflyrau iechyd fel diabetes
- Gwelliant mewn sgiliau cymdeithasol
- Mwy o gysylltiad â’r cyhoedd, gwella integreiddiad gyda’r gymuned ehangach
- Gwell hyder mewn aelodau o’r teulu yn annog annibyniaeth ymhellach yn yr unigolyn
- Lleihad yn yr oriau o gymorth sydd eu hangen o fodelau gwasanaeth traddodiadol