O fewn y cyfryngau mae Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) wedi cael llawer o sylw yn ystod y 12 mis diwethaf. Gan fod y gwasanaeth ‘drws ffrynt’ o fewn Plant, Teuluoedd a Diogelu, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gyda staff medrus iawn sydd â gwybodaeth gyfoes ar y tueddiadau presennol a datblygu arfer. Yng Nghonwy ac yn enwedig y Timau Asesu a Chymorth ac Ymyrraeth Teuluoedd cydnabuwyd y dylai ein staff gael gwell hyfforddiant ar gam-fanteisio’n rhywiol ar blant er mwyn ymateb yn effeithiol i’r pryder cynyddol.
Gall staff yn gyffredinol gael mynediad i hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol ond yng Nghonwy rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu gwasanaeth effeithiol i deuluoedd yn enwedig gyda’r risg gynyddol a gyflwynwyd i blant drwy gyfryngau cymdeithasol. Y nod yw parhau i wella sgiliau’r gweithlu i ddarparu ymyrraeth uniongyrchol i’r plant sydd mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol. Gwnaethom waith ymchwil i nodi a chomisiynu sefydliad i gyflwyno pecyn hyfforddiant pwrpasol 2 ddiwrnod o hyd. Gwnaethom dargedu sgiliau, offer a gwybodaeth ymarferol yn benodol i ymgysylltu, a gweithio gyda phlant a’u teuluoedd sydd mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol.
Roedd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar gyflwyno awgrymiadau ar ymyriadau i gynorthwyo’r gwaith uniongyrchol a wneir gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr ymyrraeth yn eu cyswllt â’r plant a’r bobl ifanc mwyaf diamddiffyn. Roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben ac rydym yn bwriadu comisiynu’r hyfforddiant eto er mwyn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol ychwanegol nad ydynt yn gallu dod i’r digwyddiad cyntaf. Mae’r offer a ddarperir wedi cynyddu sail sgiliau ein gweithlu i alluogi cymorth effeithiol i deuluoedd a lleihau risg. Mae’r adnoddau hefyd yn cael eu rhannu gyda gweithwyr proffesiynol eraill. Er ei bod yn rhy fuan i adrodd ar fesurau neu ganlyniadau diriaethol, mae’r hyfforddiant hwn yn elfen bwysig o ddatblygu fframwaith amlasiantaethol i gwrdd â’r her hon.